Skip to main content
Digwyddiad arddangos y diwydiannau creadigol, 20 Mehefin 2023.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Mwy o wybodaeth

Location:
Unit 8, Curran Rd, Cardiff, CF10 5DF
Website:
Archebu eich lle

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Ymunwch â ni a chyd-aelodau o'r diwydiannau creadigol yn ein digwyddiad diwydiannol cyntaf yn Depot Caerdydd ar 20 Mehefin 2023.

Bydd arddangosfa Cymru Greadigol yn dod ag arddangosfeydd sgrin, digidol, cerddoriaeth a chyhoeddi ynghyd i ddathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.

Cewch glywed am yr ystod eang o brosiectau a mentrau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu datblygu i gefnogi'ch sector a sut y mae blaenoriaethau pwysig fel sgiliau a chynaliadwyedd yn cael eu datrys.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i rwydweithio ag arbenigwyr eraill yn eich maes, ymuno â sesiwn Holi ac Ateb a sgwrsio â ni am sut y gallwn eich cefnogi. Bydd ein huwch dîm arwain a sector wrth law drwy gydol y dydd i glywed eich barn a'ch anghenion.

Darganfod mwy ac archebu eich lle

Lleoliad

51.46965036251, -3.1768370323998