Fis Ebrill 2025, dangoswyd Mr Burton am y tro cyntaf mewn sinemâu ledled Cymru. Mae’r ffilm fywgraffyddol yn adrodd stori Richard Jenkins – bachgen dosbarth gweithiol o Bontrhydyfen – a ddaeth maes o law yn Richard Burton, yr actor byd-enwog, diolch i arweiniad Philip Burton, ei athro, ei fentor a’i warcheidwad cyfreithiol wedyn.

Gyda Marc Evans yn cyfarwyddo, Harry Lawtey yn serennu fel y Richard ifanc, a Toby Jones yn chwarae rhan Philip Burton, cafodd Mr Burton gefnogaeth BBC Cymru, Ffilm Cymru a ninnau, Cymru Greadigol.

I ddysgu mwy am sut cyrhaeddodd y stori hon y sgrin a beth mae’n ei ddweud wrthyn ni am y byd creu ffilmiau yng Nghymru, cawson ni sgwrs â Hannah Thomas, cynhyrchydd yn Severn Screen.      

 

Sut daeth Severn Screen yn rhan o bethau

Dechreuodd y syniad am Mr Burton ddegawd yn ôl pan gafodd Ed gyfarfod â Josh Hyams tra roedd hi’n gweithio i’r BBC. Soniodd Josh am sgript roedd wedi’i chyd-ysgrifennu â Tom Bullough am Richard Burton yn ifanc.

‘Roeddwn i eisoes wedi bod yn ymchwilio i’r pwnc,’ meddai Hannah. Roedd y syniad fel petai’n gweddu’n berffaith i Severn Screen, sy’n enwog am roi llwyfan i straeon go iawn o Gymru.

Roedd perthnasedd y stori hefyd yn ei denu. ‘Ar adeg pan mae’r cyfleoedd i blant dosbarth gweithiol gymryd rhan yn y celfyddydau yn prinhau o hyd, mae’n atgof bod doniau ym mhobman. Weithiau, dim ond angen i rywun danio gwreichionyn sydd.’

Cyllid a doniau: gwneud cynyrchiadau Cymreig yn llwyddiant

Dod o hyd i gyllid i ffilm yw un o’r rhwystrau cyntaf. Rhoddodd BBC Cymru, Ffilm Cymru a Cymru Greadigol gefnogaeth gynnar i Mr Burton, gan ddangos potensial diwylliannol a masnachol y prosiect.

‘Roedd hynny’n dipyn o sêl bendith,’ meddai Hannah. ‘Roedd yn golygu y gallen ni fynd i’r farchnad a dweud bod ein cyllidwyr gartref yn gweld gwerth yn y prosiect hwn.’

Ar ôl sicrhau cyllid, trodd y pwyslais at gastio, y criw, a llunio strategaeth ryddhau’r ffilm. ‘Fe lwyddon ni i ddenu doniau gwych,’ meddai Hannah. ‘Toby Jones, Lesley Manville, Harry Lawtey, ac actorion ardderchog o Gymru fel Aneurin Barnard, Aimee-Ffion Edwards a Steffan Rhodri.’

I Hannah, y nod fel cynhyrchydd oedd magu hyder drwy roi cefnogaeth gadarn a chyfeiriad creadigol clir. ‘Roedd angen i mi ofalu bod pobl yn gyfforddus drwy egluro bod gennyn ni gyllid, doniau a chyfarwyddwr disglair (Marc Evans), sydd ymhlith y goreuon yng Nghymru. Mae hi wedyn yn golygu darbwyllo pobl eraill i ymroi i’r weledigaeth honno.’

Er gwaethaf ei gwreiddiau Cymreig dwfn, mae Mr Burton yn adrodd stori y gall pawb uniaethu â hi, a honno’n apelio at gynulleidfaoedd ymhell y tu hwnt i Gymru. ‘Mae’r ffilm yn ymwneud â sut rydyn ni’n datblygu doniau sy’n egino,’ meddai Hannah. ‘A sut mae modd dod o hyd i’r doniau hynny yn y llefydd mwyaf annisgwyl.’ Mae’r apêl ehangach hwn yn hollbwysig i wneud cynyrchiadau Cymreig yn llwyddiannus – gan helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy o faint y tu hwnt i ffiniau’r wlad.

‘Rydyn ni’n genedl greadigol, ac mae hynny’n rhywbeth y dylen ni fod yn falch ohono.’

Y broses ffilmio yng Nghymru

Dechreuodd gwaith ffilmio Mr Burton yn haf 2024. Gall y broses ffilmio godi braw, yn enwedig yn ystod y cyfnod cyn-cynhyrchu pan fydd rhywun yn chwilio am leoliadau, yn dylunio setiau, ac yn cydlynu gwahanol adrannau, a’r cyfan wrth geisio cael trefn a y cyllid terfynol a delio â chontractau.

‘Mae’n gam anodd,’ meddai Hannah. ‘Ond yn syth ar ôl i’r broses gynhyrchu gychwyn, mae’n deimlad gwych.’

Dyma lle gall cefnogaeth gan wasanaeth Ffilmio yng Nghymru wneud cryn wahaniaeth i gynyrchiadau sy’n ffilmio yng Nghymru – gan eu helpu nhw i ddod o hyd i leoliadau, criw a gofod stiwdio.

Mae problemau fel tywydd gwael yn go gyffredin. Ar Mr Burton, roedd angen aildrefnu golygfa ar draeth oherwydd ei bod hi’n glawio’n drwm yng Nghymru, felly mae’n hollbwysig cael y criw iawn. ‘Roedd criw lleol tu hwnt o dalentog yn gweithio ar Mr Burton,’ meddai Hannah. ‘Roedd pawb yn gweld gwerth y ffilm, ac roedd gan bawb gymaint o egni, cariad a charedigrwydd i’w rannu.’

Ar ôl y gwaith ffilmio, symudodd y prosiect i’r cam ôl-gynhyrchu, a oedd yn cynnwys sgôr cerddorol a recordiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru. Y cam dosbarthu oedd yn dod wedyn.  

Cyngor Hannah i wneuthurwyr ffilm newydd yw y dylen nhw chwilio am bartneriaid dosbarthu. ‘Mae gennyn ni bartner dosbarthu sy’n gyfrifol am ddelio ag archebion gan sinemâu,’ meddai Hannah. ‘Ac mae’r BBC wedi bod yn wych. Mae’r ffilm yn cael ei dangos ar y BBC fis Tachwedd yn ystod canmlwyddiant geni Richard Burton.’

Drwy ragor o gymorth gan Ffilm Cymru a Cymru Greadigol, roedd modd cyflwyno’r ffilm yn sinemâu Cymru, sy’n dangos beth sy’n bosibl gyda’r gefnogaeth iawn a stori dda.

Pam ffilmio yng Nghymru?

Mae sawl mantais i ffilmio yng Nghymru, o leoliadau amrywiol i rwydwaith cryf o griwiau dawnus. ‘Mae ffilmio yng Nghymru wastad yn teimlo fel dod adref,’ meddai Hannah. ‘Ar Mr Burton, roedd dilyn ôl-traed Richard a theimlo grym y stori Gymreig hon yn brofiad arbennig.’

Roedd y cynhyrchiad wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn lle ac ymhlith pobl. O’r dangosiad cyntaf yn Aberafan, i gefnogaeth y rheini sy’n cofio Burton yn bersonol, roedd hi’n teimlo bod cysylltiad rhwng y ffilm a’i gwreiddiau Cymreig yn y gymuned.  

Yn ogystal â’r naws sydd yma, mae Cymru’n cynnig cyfuniad unigryw o dirweddau, o gymoedd y de i fannau arfordirol, sy’n ei gwneud hi’n rhwydd dod o hyd i leoliadau amrywiol i’ch prosiect.

‘Fe wnaethon ni ffilmio ym mhobman yng Nghymru – o Gasnewydd i’r cymoedd. Mae Cymru mor amrywiol, a gan fod y wlad mor fach, mae modd cyrraedd gwahanol leoliadau’n gyflym.

Mae Hannah am i egin wneuthurwyr ffilmiau wybod bod gan Gymru griwiau o’r radd flaenaf, cyflenwyr profiadol a hanes cyfoethog o adrodd straeon. ‘Rydyn ni’n genedl greadigol, ac mae hynny’n rhywbeth y dylen ni fod yn falch ohono.’

Ac wrth gwrs, os bydd eich cynhyrchiad yn ffilmio yng Nghymru, yn defnyddio criw, doniau a chyfleusterau lleol, ac yn cyfrannu at economi greadigol Cymru, mae modd i chi gael cymorth gennyn ni.

Cyfleoedd a heriau i egin wneuthurwyr ffilmiau

Er bod Cymru’n cynnig cyfleoedd gwych i wneuthurwyr ffilmiau newydd, mae rhai heriau cyffredin yn eu hwynebu.

‘Mae’r farchnad yn wannach,’ meddai Hannah. ‘Mae cael gafael ar gyllid yn anodd, ac mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig – sy’n beth iach, ond mae’n golygu bod yn rhaid i chi weithio’n galetach i’ch straeon gyrraedd y nod.’

Ei chyngor hi? Bod yn barod i addasu, gweithio gyda phobl brofiadol, a pheidio â gadael i heriau gyfyngu ar eich creadigrwydd. ‘Os gallwch chi dorri’r gôt yn ôl y brethyn, a gweithio gyda chyllideb is, mae cyfleoedd yn dal i fod ar gael.’

Diddordeb mewn ffilmio yng Nghymru? Am glywed mwy am y cynyrchiadau sydd wedi’u ffilmio yma? Ewch i’n tudalen arbennig am hyn  i ddysgu mwy.

Straeon cysylltiedig