Ble bynnag yr ewch yn y byd, mae pobl yn gwrando ar Gymru. Mae gennym leoliadau a chanolfannau gwych, gwyliau, hyrwyddwyr, stiwdios a labeli recordio. Nid oes diwedd i'n rhestr o sêr rhyngwladol, o Underworld i'r Super Furry Animals, Shirley Bassey i Duffy, Funeral for a Friend i’r Manic Street Preachers.
Rydym am ehangu'r rhestr hon. Drwy ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad, gallwn feithrin y genhedlaeth nesaf o fandiau ac artistiaid – o Buzzard Buzzard Buzzard ac Adwaith, i Kelly Lee Owens ac Afro Cluster. Mae hynny'n golygu sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Rydym yn hyrwyddo ystod eang o fentrau ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol a'i gerddorion, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r rhain yn cynnwys arian ar gyfer artistiaid sy'n gwthio tuag at y lefel nesaf, prosiectau cerddorol a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Ein nod, ochr yn ochr â'n partneriaid, yw sicrhau bod talent Cymru – ar draws y diwydiant cerddoriaeth – yn cael ei feithrin, ei gefnogi a'i ddatblygu. Yn ogystal, ewch i UK Music a Help Musicians – dau sefydliad sydd yn offrymu nifer o wasanaethau a chymorth i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant.
Mae’n bwysig dweud, fodd bynnag, er bod cerddoriaeth glasurol, opera, cerddorfa a theatr gerdd yn elfennau hanfodol o gerddoriaeth Gymraeg a’r sector creadigol ehangach, mae sefydliadau eraill, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gofalu am y rhain. Mae gennym gytundeb â Chyngor Celfyddydau Cymru i weithio gyda’n gilydd drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Byddwch yn barod: Talent cerddoriaeth du Cymreig
Cyfarfod yr artistiaid a’r hyrwyddwyr sy’n ail-ddiffinio cerddoriaeth Gymreig.
Testunau:
Cyngor gwych i gerddorion ac artistiaid gan PRS Foundation
Hoffech chi roi hwb i’ch gyrfa gerddorol? Dyma ein canllaw ni sy’n rhoi cyngor o lygad y ffynnon.
Nia Wyn: artist neo-soul
O Landudno i Lundain, darllenwch am daith gerddorol Nia.
Enwau mawr yn y man: Cerddorion o Gymru i gadw llygad arnyn nhw yn 2025
Dewch i gwrdd â’r wynebau newydd sy’n siapio dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru – o Mellt i L E M F R E C K.
Sut mae Porter’s wedi elwa o’n Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth
Mae ein cyllid wedi helpu lleoliad yng Nghaerdydd i sicrhau ei ddyfodol.
Testunau:
Jayce Lewis: offerynnwr, artist, a pherchennog stiwdio gerddoriaeth
Darganfyddwch sut aeth Jayce o artist unigol i fod yn berchennog ar stiwdio gerddoriaeth ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Testunau:
FOCUS Wales: adeiladu pontydd byd-eang i artistiaid a bandiau newydd Cymru
Cyfle i ddeall cefndir FOCUS Wales a’r ffordd mae’n hyrwyddo egin gerddorion ac yn creu cysylltiadau rhyngddyn nhw a chynulleidfaoedd byd-eang.
Testunau:
Sut mae’r Sefydliad PRS yn cefnogi crewyr cerddoriaeth ifanc Du
Dysgwch sut mae menter POWER UP yn ceisio chwalu rhwystrau i’r gymuned gerddoriaeth Ddu.
Testunau:
Mae cerddoriaeth wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i'w dwf a'i lwyddiant, yn ei holl amrywiaeth, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dyma sŵn y Gymru gyfoes
Mapio cerddoriaeth yng Nghymru
Dewch o hyd i wybodaeth am y sector cerddoriaeth yng Nghymru a defnyddiwch fap rhyngweithiol o leoliadau cerddoriaeth ar draws y wlad.
Testunau:
Wythnos Gigfannau Annibynnol yn dychwelyd
Dewch i wybod am y lleoliadau a’r artistiaid ar lawr gwlad sy’n cymryd rhan ledled Cymru.
Ryan Richards: rheolwr artistiaid a pherchennog Future History Management
O ddrymiwr Funeral for a Friend i reolwr artistiaid, dyma hanes gyrfa gerddorol egnïol Ryan.
Darganfod mwy am Honey Sessions gan Beacons
Dysgwch sut mae Honey Sessions gan Beacons Cymru yn cefnogi talent ifanc yn niwydiant cerddoriaeth Cymru.
Gŵyl Ymylol BBC 6 Music: arddangos cerddorion a lleoliadau Cymru
Darganfyddwch yr artistiaid, lleoliadau a digwyddiadau tu ôl i Ŵyl Ymylol Caerdydd.
Rhai i'w gwylio: Wyth band ac artist cyffrous o Gymru yn 2022
Dyma rai o’r bandiau ac artistiaid o Gymru i gadw llygad a chlust arnynt.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.