Rydym yn darparu buddsoddiad a chymorth i fusnesau sy’n tyfu yma yng Nghymru, yn ogystal â phrosiectau rhyngwladol sy’n dymuno lleoli yng Nghymru – ar draws ffilm a theledu, cerddoriaeth, gemau, animeiddio, technoleg drochi ac eraill.

Rydym yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd, felly cofiwch edrych yn ôl yn fuan am fwy o gyfleoedd ac arweiniad ar sut i wneud cais. Gallwch hefyd gysylltu â ni i gael gwybod mwy am sut y gallwn eich helpu.

Yn ogystal â chyllid, mae ein tîm yn dod â chyfoeth o brofiad o bob un o'r diwydiannau creadigol. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon a'n hadnoddau i gynnig arweiniad a chymorth ymarferol i fusnesau. Boed yn cysylltu pobl neu'n eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel Sgrîn Cymru, rydym yma i helpu.

Darllenwch ymlaen i wybod mwy am y cyfleoedd ariannu sydd ar gael.

Eisiau mwy o wybodaeth am gyllid a chefnogaeth?

Rydym wastad yn barod am sgwrs.