Mae'r cyllid yma yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a datblygu gemau yng Nghymru sy'n ceisio datblygu cynyrchiadau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae wedi'i anelu at y dosbarthiadau cynhyrchu canlynol: wedi'u sgriptio, heb eu sgriptio, animeiddio a datblygu gemau.

Rydym yn blaenoriaethu datblygu sector cynhyrchu cynnwys sy'n darparu cyfleoedd cyfartal ac amrywiol ar gyfer sylfaen gyflogaeth hirdymor, fedrus. Bydd y cyllid yn cael ei dargedu at gwmnïau sy'n defnyddio’r arferion diweddaraf o ran cynhyrchu cynaliadwy ac sy’n rhoi blaenoriaeth i les y cast, y criw a gweithwyr rheng flaen - boed yn weithwyr llawrydd, ar gontract neu yn staff parhaol.

Rydyn ni hefyd yn blaenoriaethu cynnwys sy'n dangos y gorau o Gymru o ran diwylliant, iaith a daearyddiaeth.

Nod y rhaglen yw:

  • Hybu cynhyrchiant drwy ysgogi twf yn nifer ac amrywiaeth y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru
  • Manteisio ar effaith economaidd cynyrchiadau ar economïau lleol a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru
  • Gwella cyfleoedd gwaith yn y sector trwy gynyddu a chydlynu cyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • Datblygu cynulleidfaoedd trwy wella mynediad at gynyrchiadau a chynnwys Cymreig sydd wedi eu gwneud yng Nghymru ac yn rhyngwladol
  • Adeiladu ar enw da Cymru fel lleoliad ar gyfer cynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau rhyngwladol, wedi eu cefnogi gan ein talent, criwiau, adnoddau a lleoliadau o’r radd flaenaf
  • Cefnogi datblygiad gweithle medrus ac amrywiol.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Gallwch ymgeisio am Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol os ydych yn ateb y gofynion canlynol:

  • Eich prif weithgaredd busnes yw ffilm (nad yw’n theatrig), teledu, gemau neu animeiddio
  • Bydd pob rhan o’r cynhyrchu hwn yn cael ei wneud yng Nghymru
  • Mae gennych gynllun cyllid sydd wedi'i ystyried yn fanwl gyda'r holl gyllid arall yn ei le
  • Mae elfen o sgil / datblygu sgil yn rhan o’r prosiect
  • Mae eich prosiect yn dangos ymrwymiad i amrywiaeth a chynwysoldeb a chynaliadwyedd
  • Gallwch ddangos tystiolaeth o hyfywedd masnachol (cytundeb dosbarthu/comisiwn/darlledwr ac ati) sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn
  • Mae o leiaf 12 wythnos o dderbyn mynegiant o ddiddordeb (EOI) tan ddyddiad cychwyn y prosiect (prif ffotograffiaeth ar gyfer prosiectau teledu a ffilm)
  • Mae gan eich cwmni/tîm rheoli hanes amlwg o gyflawni yn y maes, ac o leiaf un darn o waith masnachol wedi ei ryddhau o fewn y tair blynedd diwethaf o'r cais.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y Canllawiau Ariannu Cynhyrchu yn y lle cyntaf, i ystyried a oes gennych brosiect cymwys.

Ar ôl darllen y canllawiau, os ydych chi'n teimlo bod gennych brosiect cymwys, ewch i'r Offeryn Gwirio Cymhwysedd ar-lein lle byddwch yn cael eich annog i ateb cyfres o gwestiynau.  Yn seiliedig ar eich ymatebion, cewch wybod am y camau nesaf.

Sut i wneud cais?

Ewch i'r gwiriwr cymhwysedd ar-lein am mwy o wybodaeth.

 

Nodyn pwysig

Gallwn ar unrhyw adeg oedi gyda'r gronfa os ydym yn prosesu nifer fawr o geisiadau. Bydd rhybudd ymlaen llaw am hyn yn cael ei roi i unrhyw un yn y cylch.

Mae arian ar gyfer ffilmiau nodwedd yn parhau i fod ar gael trwy ein partneriaeth gyda Ffilm Cymru, ewch i gronfa cynhyrchu ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales | Creadigol | Cymru am wybodaeth.