Efallai eich bod chi ar fin cynnig syniad am fusnes newydd, yn chwilio am fuddsoddiad, neu’n rhoi cyflwyniad i gleientiaid. Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn, yn y diwydiannau creadigol, mae’n hollbwysig gallu cynnig syniad neu roi cyflwyniad cryf mewn ffordd sy’n dwyn perswâd.

Mae Academii, darparwr blaengar ym maes technoleg addysg, yn deall hyn i’r dim. Maen nhw’n defnyddio’r technolegau diweddaraf, gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a GenAI, i gydweithio ag arbenigwyr er mwyn creu profiadau dysgu effeithiol i bobl sydd wir angen y rheini. Dyna pam eu bod nhw wedi creu partneriaeth â Pitch & Co, sefydliad sy’n canolbwyntio ar berffeithio celfyddyd cynnig syniadau. 

Gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu Pitch for Perfection, rhaglen sy’n ceisio rhoi doniau i bobl greadigol i’w helpu i feistroli sut byddan nhw’n cynnig syniadau ac yn rhoi cyflwyniadau.

 

A honno wedi cael cymorth ein Cronfa Sgiliau Creadigol, mae’r rhaglen yn helpu gweithwyr llawrydd a gweithwyr yn niwydiannau creadigol Cymru – o’r byd cerddoriaeth i’r byd cynhyrchu – i fireinio eu sgiliau wrth gynnig syniadau.

Dros ddeufis, bydd y cyfranogwyr yn dilyn tri modiwl ar-lein yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac yn dysgu sut i ddatblygu eu technegau wrth gynnig syniadau. Byddan nhw hefyd yn dod i gyswllt ag ymgynghorwyr Pitch & Co a’r gymuned greadigol ehangach er mwyn cael arweiniad a chymorth.

Cawson ni sgwrs â Siwan Rees, cyfarwyddwr masnachol Academii, a Tom Ware o Pitch & Co, i ddysgu mwy am y prosiect a chlywed beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.  

Mae Siwan yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl greadigol yn y diwydiant heddiw, gan gynnwys cystadleuaeth a diffyg hyder. Meddai Siwan: ‘Mae’n siŵr mai cystadleuaeth yw un o’r rhwystrau mwyaf. Os gallwn ni roi sgiliau, ffordd o feddwl, ffordd o weithio, a hunanhyder i bobl, bydd hynny’n eu hysgogi nhw i achub ar fwy o gyfleoedd mewn byd cystadleuol.’

‘Nod y rhaglen hon yw dweud wrth y gymuned greadigol: gadewch i ni fod yn rhan o’ch siwrnai at berffeithrwydd, a gadewch i ni roi’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i serennu.’

Darllenwch yn eich blaen i glywed rhagor o gyngor arbenigol a fydd yn codi’ch cyflwyniadau i dir uwch.

Daliwch sylw pobl drwy adrodd straeon    

Un o’r ffyrdd gorau o ennyn sylw yw adrodd stori drawiadol. Bydd straeon da yn hoelio sylw’ch cynulleidfa ac yn creu cysylltiad emosiynol. Gall naratif cryf wneud y syniad y byddwch chi’n ei gynnig yn fwy cofiadwy.  

Meddai Siwan: ‘Os gallwch chi adrodd stori wirioneddol dda, a chynnal sgwrs ddifyr â rhywun wrth feithrin perthynas, rydych chi wedi hanner llwyddo’n barod.’

Addaswch eich neges ar gyfer y gynulleidfa iawn  

Mae’n hollbwysig deall eich cynulleidfa. Mae gan bob cleient, buddsoddwr neu gydweithiwr flaenoriaethau a diddordebau unigryw, felly addaswch eich neges i gyd-fynd â’u gwerthoedd a’u hanghenion nhw. Ymchwiliwch i’ch cynulleidfa a dangoswch sut bydd eich prosiect neu’ch sgiliau’n cyd-fynd â’u hamcanion nhw ac yn eu helpu i ddatrys eu problemau nhw.

Meddai Tom: ‘Y camgymeriadau mwyaf cyffredin yw diffyg eglurder – peidio â threulio digon o amser yn ystyried diben eich syniad ac anghenion y gynulleidfa rydych chi’n cyflwyno’r syniad iddi. Mae’n gwbl hanfodol deall ‘Pam hyn? Pam nawr? Pam chi?’, gan sicrhau bod eich cyflwyniad yn glir ac yn gryno, ac yn sgil hynny, yn argyhoeddi.’

Ewch ati i fagu hyder drwy ymarfer

Dydy pawb ddim yn naturiol hyderus, ond mae modd magu hyder drwy ymarfer. Daliwch ati i ymarfer tan y byddwch chi’n gwbl gyfarwydd â phob rhan o’ch cyflwyniad. Drwy ddeall eich syniad yn drylwyr, byddwch chi’n llai nerfus a byddwch chi’n rhoi cyflwyniad gwell.

‘Mae’n bwysig eich bod chi’n ymddangos yn hyderus a’ch bod chi’n argyhoeddi wrth drafod eich syniad a beth all hwnnw’i wneud i wella bywydau’r bobl rydych chi’n cyflwyno iddyn nhw,’ meddai Tom.

‘Mae’r rhan fwyaf o bobl yn pryderu am fod yn nerfus. Mae’n iawn bod yn nerfus – mae’n dangos eich bod chi’n malio – ond mae’n anfaddeuol peidio â chredu yn yr hyn rydych chi’n ei gynnig. Os nad yw’ch syniad chi’n ddigon da i chi, fydd hwnnw ddim digon da i neb arall chwaith.’

Gofynnwch am adborth ac addaswch

Gallai adborth gan fentoriaid, cyfoedion neu weithwyr proffesiynol eich helpu i fireinio eich cyflwyniad a’ch neges. Mae’r rhaglen Pitch for Perfection yn dangos gwerth cydweithio. Mae’r cyfan yn ymwneud â manteisio ar eich rhwydwaith er mwyn eich helpu i wella.   

Os ydych chi’n cynnig syniad am y tro cyntaf, yn ôl Tom, y pethau hollbwysig yw paratoi, ymarfer, a phersonoliaeth. ‘Mae angen i chi ddeall beth rydych chi’n ei gyflwyno, mae angen i chi gredu yn y syniad rydych chi’n ei gynnig, ac fe ddylech chi wir geisio mwynhau’r profiad!’

Dyfodol Pitch for Perfection

Dim ond megis dechrau mae’r rhaglen arloesol hon gan Academii a Pitch & Co yn 2025. ‘Egin fusnes ym maes technoleg realiti estynedig yw Academii, felly heb y cyllid hwn gan Cymru Greadigol, fyddai’r prosiect fyth wedi bodoli,’ meddai Siwan.

‘Gobeithio y bydd cyfle i fabwysiadu a gwreiddio’r prosiect mewn prifysgolion ym maes y diwydiannau creadigol, er mwyn i ni allu trafod pwysigrwydd cynnig syniadau yn gynharach o lawer.

‘Os byddwn ni’n rhoi sylfaen gref i bobl ifanc wrth gynnig syniadau, gallan nhw barhau i ddatblygu ar hyn gydol eu gyrfaoedd. Dyna’n gweledigaeth ni ar gyfer y rhaglen hon yn y dyfodol.’

Ewch i wefan Academii a Pitch & Co i ddysgu mwy ac i ddechrau perffeithio eich sgiliau cynnig syniadau chi heddiw. Neu darllenwch am ragor o’r prosiectau mae ein Cronfa Sgiliau Creadigol wedi’u cefnogi fan hyn.

Straeon cysylltiedig

Ein gwaith

Rydym yn cysylltu pobl, hyrwyddo creadigrwydd a buddsoddi mewn syniadau ar draws ein cenedl.

Cliciwch yma i weld ein ffilm hyrwyddo.