Mae Cymru'n llwyddiant rhyngwladol ym maes ffilm a theledu. Ers dros 35 mlynedd, mae ein gwlad wedi bod yn gartref i dri darlledwr cenedlaethol: BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru Wales. Dros y blynyddoedd, mae cenhedlaeth newydd o gwmnïau cynhyrchu annibynnol wedi ymuno â nhw, gan gynnwys Bad Wolf, Vox, Joio, Severn Screen, Little Door Productions, Triongl, a Chwarel.
Gydag apêl talent leol, tirwedd amrywiol, a phecynnau cymorth cynhyrchu pwrpasol, mae Cymru wedi llwyddo i ddenu enwau mawr y diwydiant fel Lucasfilm a NBCUniversal i ddewis Cymru fel eu lleoliad ffilmio.
Mae Cymru Greadigol yma i adeiladu ar ein traddodiad fel cenedl o storïwyr. O ddramâu teledu lleol Cymraeg a Saesneg, i ffilmiau Hollywood; rydym yn darparu cymorth, cyllid a seilwaith i wireddu syniadau.
Ein nod yw adeiladu ar ein llwyddiant o hyrwyddo Cymru fel lleoliad byd-eang o'r radd flaenaf ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ein cwmnïau cynhyrchu, criwiau talentog a'n cyflenwyr.
Gofalu am iechyd meddwl yn y sector Ffilm a Theledu yng Nghymru
Yn dilyn lansiad llwyddiannus mae rhaglen beilot yr Hwylusydd Lles yn ôl.
Testunau:
Dathlu llwyddiant rhyngwladol Cymru ym myd ffilm a theledu
O ffilmiau rhyngwladol i ddramâu Cymreig, darganfyddwch gynyrchiadau sgrîn gorau Cymru.
Testunau:
Sut mae Hartswood Films yn buddsoddi yn sector sgrin Cymru
Darganfod sut mae'r cwmni cynhyrchu Hartswood Films yn helpu diwydiant ffilm a theledu Cymru i dyfu.
Testunau:
Ross Pierson: Derbynnydd bwrsariaeth NFTS Cymru-Wales
Ross tells us about his experiences doing two courses at NFTS Cymru-Wales
Afanti Media: y cwmni cynhyrchu teuluol arobryn
Hanes y cwmni Cymreig gydag uchelgais rhyngwladol.
Cyswllt Diwylliant Cymru: cefnogi talent amrywiol mewn ffilm a theledu
Darganfyddwch sut mae Cyswllt Diwylliant Cymru yn cefnogi ac yn datblygu talent amrywiol yn y sector sgrîn yng Nghymru
Gwen Thomson: Derbynnydd bwrsariaeth NFTS Cymru-Wales
Dyma sut y gwnaeth cwrs golygu fideo NFTS Cymru-Wales lunio gyrfa Gwen
Seb Jones: Prentis CRIW Sgil Cymru
Dewch i wybod mwy am brentisiaeth ffilm a theledu Seb
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.