Ydych chi erioed wedi dychmygu eich cartref neu’ch busnes chi’n ymddangos ar y sgrin fawr? O ffermydd hanesyddol a chestyll i ddociau prysur, mae gan Gymru amrywiaeth o leoliadau ffilmio. Ond sut bydd criwiau’n dewis y mannau hyn, a sut brofiad fydd hwn i berchnogion yr eiddo?
Cawson ni sgwrs â’r rheolwr lleoliadau, Paul ‘Bach’ Davies, a pherchnogion eiddo ledled Cymru sydd wedi gweld eu cartrefi a’u busnesau’n ymddangos ar gyfresi teledu. Dyma sydd angen i chi ei wybod am droi eich eiddo chi yn lleoliad ffilmio.


Sut bydd criwiau ffilm a theledu yn dod o hyd i leoliadau yng Nghymru, a sut byddwn ni’n helpu
Bydd rheolwyr lleoliadau ar y lôn o fore gwyn tan nos, yn chwilio am eiddo sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y cynhyrchiad dan sylw. Efallai y bydd angen rhywbeth penodol arnyn nhw, fel rhes o chwe thŷ teras unfath, neu fferm ar fryn gyda golygfeydd. Os yw’ch eiddo chi’n ateb y briff, fe allech chi gael ymweliad.
Dewis arall yw rhoi’ch eiddo ar gronfa ddata lleoliadau Sgrîn Cymru, a gallai tîm cynhyrchu gysylltu’n uniongyrchol â chi. Y naill ffordd neu’r llall, ar ôl i’ch eiddo gael ei ddewis, mae’r profiad yn un tebyg.
Yn ôl tîm Sgrîn Cymru: ‘Mae lleoliadau’n ganolog i bob ffilm a rhaglen deledu dda – y rhain sy’n rhoi’r cefndir, yn creu naws, ac yn dod â straeon yn fyw. Rydyn ni wastad yn chwilio am lefydd anhygoel i’w dangos i reolwyr lleoliadau a chynhyrchwyr.
‘Byddwn ni’n cael ymholiadau niferus gan gwmnïau ffilmio, ac os yw eich eiddo ar ein cronfa ddata, efallai y bydd modd i ni gynnig hwnnw, gan helpu i ddod â mwy fyth o gynyrchiadau i Gymru a dangos beth sy’n gwneud y wlad hon yn un mor arbennig.’


Beth sy’n digwydd pan fydd criw ffilmio’n defnyddio eich eiddo chi?
Ar ôl i’ch eiddo gael ei ddewis, bydd rheolwr lleoliadau’n trefnu ambell ymweliad, neu ‘recces’ fel maen nhw’n cael eu galw, er mwyn cael golwg ar eich eiddo, y tu mewn a’r tu allan. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd modd i chi ofyn cwestiynau a thrafod unrhyw fannau nad ydych chi am i neb fynd iddyn nhw.
I gael mwy o fanylion am beth i’w ddisgwyl, darllenwch ganllaw lleoliadau Sgrîn Cymru


Rhowch eich eiddo ar restr o leoliadau ffilmio
A ninnau wedi sôn am sut bydd eiddo’n cael ei ddewis, dyma fwrw golwg ar y profiad ei hun – i reolwyr lleoliadau a pherchnogion yr eiddo ill dau.
Y Plas, Llangatwg
Cyn ymddangos yn Out There, doedd Y Plas erioed wedi bod ar y teledu. Ym mherfeddion y canolbarth, roedd yn gefnlen berffaith i ddrama am ffermwr yn brwydro yn erbyn gangiau llinellau cyffuriau.
A ninnau wedi sôn am sut bydd eiddo’n cael ei ddewis, dyma fwrw golwg ar y profiad ei hun – i reolwyr lleoliadau a pherchnogion yr eiddo ill dau.
Meddai’r perchennog, Greame Pearson: ‘Dechreuon ni weithio gydag Out There pan gerddodd Paul i’r ardd a dechrau trafod y prosiect â mi. Gofynnodd a fyddai gen i ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r peth. Roeddwn i’n teimlo y byddai’n brofiad gwych i’n teulu ni, ac yn gyfle i weld cymhlethdod y broses o greu rhaglenni teledu, cwrdd â phobl diddorol, a mwynhau rhywbeth newydd.
‘Pan gyrhaeddodd y tîm, roedd hi’n wych gweld yr holl weithwyr proffesiynol yn bwrw iddi ac yn cydweithio’n wych. Roedden nhw i gyd yn gyfeillgar ac yn fwy na pharod i esbonio beth oedd yn digwydd a beth oedd eu rhan fach nhw. Roedd yn brofiad braf tu hwnt.’

Tafarn y Whitehall yn Llanymddyfri
Nid yw tafarn y Whitehall yn ddiarth i fyd dramâu Cymreig. A honno wedi ymddangos yn y gorffennol yn Y Golau / The Light in the Hall, fe’i defnyddiwyd yn ddiweddar fel lleoliad ffilmio i Out There gan ITV. Adeilad o’r ail ganrif ar bymtheg yng nghanol Llanymddyfri yw hwn, ac mae nodweddion traddodiadol y dafarn yn golygu ei fod yn lleoliad ffilmio diddorol.
Meddai Anne Einnon, y perchennog: ‘Dechreuodd y cyfan pan ddaeth Paul i’n gweld ni. Roedd ganddo weledigaeth yn ei ben, ac fe ddaeth i weld a oedd ein hadeilad ni’n gweddu.
‘O safbwynt y dref, mae’n creu cryn gyffro a thipyn go lew o incwm, yn enwedig o ran lletygarwch. Bydd pobl yn aml yn ymweld â ni ar ôl i’r rhaglenni gael eu dangos hefyd. Maen nhw’n hoffi mynd ar drywydd y lleoliadau.’
Fferm yn Llys-wen
Roedd fferm 500 oed yn Llys-wen hefyd yn amlwg iawn ar Out There. Aeth y criw ati i baentio’r holl adeilad yn llwyd, cyn ei adfer i’w binc llachar gwreiddiol ar ôl ffilmio.
Meddai Gina Murray, sy’n byw yn yr eiddo: ‘Fe gawson ni brofiad gwych. Roedden ni wrth ein boddau’n cael y tîm i gyd yma. Roedd pawb yn broffesiynol ac yn llawn hwyl, ac roedd hi’n ddiddorol eu gwylio nhw wrth eu gwaith.
‘Roedd yr holl staff yn wych ac yn gyfeillgar. Er ein bod ni o gwmpas ac yn gwylio, roedden ni wastad yn teimlo’u bod nhw’n croesawu hynny.
‘Os yw rywun yn ystyried cynnig eu cartref fel lleoliad i raglen deledu, byddwn ni’n argymell y peth. Y peth pwysig yw ymlacio. Roedden ni’n hapus gyda’u holl awgrymiadau nhw, gan fod gennyn ni gymaint o ddiddordeb yn beth roedden nhw’n ei wneud. Roedd y cwmni a ddaeth yma’n dda iawn, ac ar ôl gorffen ffilmio bob dydd, roedd popeth fel pin mewn papur.’


Dociau ABP yn y de
Nid dim ond cartrefi a busnesau sy’n cael eu defnyddio – mae lleoliadau unigryw fel dociau Cymru hefyd yn gallu rhoi cefnlen wych i ffilmiau a rhaglenni teledu.
Meddai Paul ‘Bach’ Davies, y rheolwr lleoliadau: ‘Mae Cymru’n ffodus bod ganddi amrywiaeth o leoliadau, o’r mynyddoedd i’r arfordir. Mae cael porthladd neu ddoc yn opsiwn yn gaffaeliad mawr. Yn y de’n unig, mae gennyn ni Abertawe, Port Talbot, Caerdydd, y Barri a Chasnewydd.
‘Dros y blynyddoedd, mae pob un wedi ymddangos mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, o ddociau Casnewydd yn Gavin and Stacey i’r Puckey House rhyfeddol (hen swyddfa’r Harbwrfeistr) ym Mhort Talbot yn Pembrokeshire Murders.
‘Yn ddiweddar, fe ddefnyddiais i Ddociau Caerdydd ar gyfer Out There, ac roedd y rheini’n rhan fawr o’r stori. Mae’n wych gweithio gyda chwmni ABP, sy’n rheoli’r porthladdoedd yn y de, gan eu bod nhw’n deall anghenion cynyrchiadau. Mae gallu defnyddio porthladd yn arbennig iawn, gan ei fod yn rhoi ymdeimlad o faint a graddfa i unrhyw gynhyrchiad.’
Oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio’ch eiddo fel lleoliad ffilmio yng Nghymru? Cofrestrwch i fod ar gronfa ddata lleoliadau Sgrîn Cymru

Gina MurrayOs yw rywun yn ystyried cynnig eu cartref fel lleoliad i raglen deledu, byddwn ni’n argymell y peth. Y peth pwysig yw ymlacio. Roedden ni’n hapus gyda’u holl awgrymiadau nhw, gan fod gennyn ni gymaint o ddiddordeb yn beth roedden nhw’n ei wneud. Roedd y cwmni a ddaeth yma’n dda iawn, ac ar ôl gorffen ffilmio bob dydd, roedd popeth fel pin mewn papur."