Beth yw Sgrîn Cymru?
Rydym yn hyrwyddo'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru ac yn arddangos ein cenedl fach ond nerthol ar lwyfan byd-eang. Os oes gennych ddiddordeb mewn ffilmio yng Nghymru, mae tîm Sgrîn Cymru wrth law i'ch cefnogi – gan helpu i ddod o hyd i'r lleoliad perffaith neu ddod o hyd i'ch criw llawrydd. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r bobl, y lleoedd a'r cyfleusterau gorau i sicrhau bod eich cynhyrchiad yn un llwyddiannus.
Yn ogystal â bod â chysylltiad da â dinasoedd mawr ledled y DU, o Lundain i Fanceinion, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau ar gyfer eich cynhyrchiad, gan gynnwys mynyddoedd epig ac arfordiroedd trawiadol.
Felly, peidiwch ag oedi cyn ystyried Cymru ar gyfer eich cynhyrchiad nesaf. Boed chi'n saethu ffilm, drama deledu neu ffilm fasnachol, darganfyddwch beth all Sgrîn Cymru gynnig i chi. Sgroliwch i waelod y dudalen i lawrlwytho a gweld rhai o'r cynyrchiadau rydyn ni wedi'u cefnogi yn y blynyddoedd diwethaf.
Defnyddio ein cronfeydd data
Chwilio am leoliad, criw neu gyfleusterau penodol yng Nghymru? Gall ein cronfeydd data eich helpu i ddod o hyd iddyn nhw. Yn ogystal â chwilio trwy ein cofnodion, gallwch hefyd ychwanegu a diweddaru manylion.
Un peth i nodi: er mwyn chwilio am leoliad mae'n rhaid i chi gofrestru prosiect. Os ydych yn ymchwilio ar gyfer cynhyrchiad arbennig, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch (bydd y manylion yma yn cael eu trin yn gyfrinachol). Os ydych chi eisiau chwilota am wybodaeth yn unig, yna mae croeso i chi ychwanegu 'PRAWF' at deitl y prosiect.
Yn cael anhawster gydag unrhyw beth? Cysylltwch â penny.skuse@llyw.cymru