Wyddech chi fod Cymru’n gartref i ganolfan gyntaf y Deyrnas Unedig i’r celfyddydau trochol? Ers 2019, mae CULTVR Lab wedi bod yn ofod arloesol lle gall artistiaid wneud gwaith ymchwil, creu prototeipiau, a chyflwyno’u prosiectau trochol i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd. O gynhyrchwyr ac animeiddwyr i berfformwyr cerddorol a dawnswyr, mae CULTVR yn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu arloesol ym maes profiadau XR (realiti ymestynnol), a hynny mewn meysydd amrywiol sy’n pontio disgyblaethau.

 Yn 2024, gyda chymorth ein Cronfa Sgiliau Creadigol, lansiwyd y rhaglen Datgloi Realiti Ymestynnol. Rhaglen yw hon sy’n cynnig gweithdai, dosbarthiadau meistr, cyfleoedd mentora ac interniaethau yn y byd technoleg drochol.

 Fel rhan o’r prosiect hwn, mae CULTVR yn cydweithio â phrifysgolion a’r King’s Trust i roi sgiliau hollbwysig i bobl greadigol er mwyn iddyn nhw allu defnyddio technolegau XR yn eu gwaith. 

Cawson ni sgwrs â Janire Nájera, cyfarwyddwr creadigol CULTVR ac 4Pi Productions am sut i ehangu eich gwaith creadigol a dilyn gyrfa yn y byd XR.

Penderfynwch beth yw’ch diddordebau yn y byd XR

Mae’r celfyddydau trochol yn berthnasol i nifer o ddisgyblaethau creadigol, o greu ffilmiau realiti rhithwir i gemau rhyngweithiol sy’n defnyddio realiti estynedig. Os ydych chi’n chwilfrydig am sut i ddefnyddio technolegau XR yn eich gwaith, dechreuwch drwy ganolbwyntio ar elfennau penodol. Er enghraifft, os ydych chi’n mwynhau cerddoriaeth, ewch i gael golwg ar y maes sain gofodol; os mai ffilmiau yw’ch pethau chi, ystyriwch ffilmiau 360-gradd neu olygu realiti rhithwir.

 Meddai Janire: ‘Yn CULTVR, rydyn ni’n croesawu celfyddydau sy’n pontio disgyblaethau; mae hynny wedi bod yn greiddiol i’n gwaith ni erioed. Mae hyn yn golygu bod modd defnyddio XR mewn ffyrdd niferus, felly mae angen i weithwyr creadigol benderfynu beth yw eu prif ddiddordeb a beth hoffen nhw edrych yn fanylach arno.’

Dysgwch am y prif ddarnau o offer a meddalwedd

I fod yn gyfredol yn y byd XR, mae’n hollbwysig dysgu am y feddalwedd ddiweddaraf sy’n cael ei defnyddio yn y diwydiant. Mae’r offer yn amrywio o faes i faes, felly gwnewch waith ymchwil, ac os gallwch chi, dewiswch y feddalwedd sy’n gweddu orau i’ch gwaith creadigol chi.

 Meddai Janire: ‘Mae Unreal Engine neu Unity yn weddol boblogaidd y dyddiau hyn fel sail i greu profiadau rhyngweithiol, trochol. Mae offer fel Screenberry ar gael i fapio tafluniadau a Resolume a TouchDesigner ar gyfer perfformiadau clyweledol. Os mai cynhyrchu realiti rhithwir sy’n mynd â’ch bryd, mae rhaglenni Adobe fel After Effects a Premiere Pro yn gallu bod yn hynod o ddefnyddiol i greu cynnwys trochol. Mae sbectrwm eang iawn o feddalwedd ar gael, yn dibynnu ar eich ffurf gelfyddydol.’

Cymerwch ran mewn gweithdai yn CULTVR

Os hoffech chi gael profiad ymarferol sy’n defnyddio amrywiaeth o dechnolegau XR, mae sawl ffordd o fwrw ati yn CULTVR, o’u diwrnodau agored a’u hymarferion i’w sesiynau cwestiwn ac ateb a’u teithiau tywys.

 Ers 2019, maen nhw hefyd wedi bod yn cynnal rhaglen breswyl ym maes y celfyddydau trochol, ynghyd â gweithdai sy’n canolbwyntio ar dechnolegau trochol. Mae modd mynd i rai o’u digwyddiadau byw i brofi sut mae gweithwyr creadigol eraill yn defnyddio technoleg XR. Gallwch hefyd ymuno â’u cronfa ddata o weithwyr llawrydd er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn gwneud gwaith technegol a chreadigol.

 Meddai Janire: ‘Ein nod yn CULTVR yw cynnig cyfleoedd er mwyn i ni rymuso’r cenedlaethau iau i ddysgu am botensial defnyddio technoleg drochol mewn gwahanol yrfaoedd yn y dyfodol.’

Ewch i ddigwyddiadau er mwyn datblygu’ch rhwydwaith  

Rhwydweithio mewn gwyliau, cynadleddau a digwyddiadau i’r diwydiant yw un o’r ffyrdd gorau o ddysgu am XR. Byddwch chi’n clywed am offer newydd a phrosiectau sydd ar y gweill, yn dod i gyswllt â phobl greadigol eraill, ac yn cael syniad gwell o’r hyn sy’n bodoli’n barod a’r hyn sy’n bosibl. 

 Meddai Janire: ‘Mewn digwyddiadau, mae cyfle i gael blas o beth mae pobl eraill yn ei wneud yn y diwydiant. Byddwch chi’n cael eich ysbrydoli ac yn dysgu am yr offer maen nhw’n ei ddefnyddio a sut maen nhw’n cael eu defnyddio mewn gwahanol ddiwydiannau. Cofiwch siarad â’ch cymheiriaid a gofyn cwestiynau. Mae llawer o bobl yn agored, yn gyfeillgar ac yn barod i rannu gwybodaeth.’

 

Dyfodol CULTVR a thechnolegau trochol yng Nghymru

Gweledigaeth CULTVR yw parhau i wthio ffiniau technolegau trochol a meithrin ecosystem ddynamig ar gyfer XR yng Nghymru. Drwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol arloesol, maen nhw’n gobeithio y bydd Cymru ar flaen y gad ym myd profiadau XR arloesol.

 Drwy bartneriaethau presennol, prosiectau fel y rhaglen Datgloi Realiti Ymestynnol, ac ymrwymiad i arloesi, bydd CULTVR yn parhau i roi hwb i bobl greadigol ledled ein gwlad.

 Meddai Janire: ‘Heb adnoddau’n gefn i’r broses o greu, dosbarthu a chyflwyno gweithiau celf trochol, dydyn ni byth am allu cefnogi artistiaid na datblygu’r cyfrwng ymhellach.

 ‘Dyna pam fod y cymorth gan Cymru Greadigol yn hollbwysig. Heb y cymorth hwnnw, all Cymru ddim elwa o’r adnoddau a’r seilwaith sydd gennyn ni fan hyn yng Nghaerdydd.

 ‘Rydyn ni eisiau parhau i gefnogi artistiaid a chynnig cyfleoedd addysg er mwyn grymuso’r cenedlaethau iau i ddysgu am botensial defnyddio technoleg drochol mewn gwahanol yrfaoedd yn y dyfodol.’

 Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y gwaith mae CULTVR yn ei wneud, yn ogystal â chlywed sut i fynd i’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal, ewch i’r wefan. Neu i ddarllen mwy am brosiectau ein Cronfa Sgiliau Creadigol, ewch i fan hyn:

 

Straeon cysylltiedig