Siân Grigg ydw i ac rwy’n artist colur a dylunydd gwalltiau. Fe ges i fy magu ar gyrion y diwydiant, gan mai artist colur oedd fy mam. Daeth hi’n Bennaeth Gwisgoedd a Cholur yn BBC Cymru yn ddiweddarach, er i mi benderfynu o’r dechrau’n deg y byddwn i’n dilyn fy llwybr fy hun. Fe es i’r coleg celf yng Nghaerdydd cyn astudio yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Roeddwn i wrth fy modd â chelf, ond sylweddolais fod paentio colur ar wynebau pobl yn fwy o hwyl o lawer, ac yn fwy cymdeithasol, na phaentio ar gynfas. Doedd gen i ddim syniad i ble fyddai’r trywydd hwnnw’n arwain, ond rwy’ wedi cael gyrfa anhygoel, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o hynny. 

Fe ges i rywfaint o lwc pan oeddwn i’n dal yn y coleg, drwy gael swydd dan hyfforddiant ar Howards End, ffilm gyfnod. Ches i mo fy nhalu, ond fe weithiais i’n galed tu hwnt. Byddwn i’n cyrraedd cyn pawb arall, yn gadael ar eu holau nhw, ac yn gwneud yr holl bethau bach ’na nad oedd neb arall eisiau eu gwneud. Yn y swyddi cynnar hynny, dysgais fod gweithio’n galed, bod yn garedig, a bod yn ddibynadwy yn bwysig dros ben. Os ydych chi’n barod i ofalu am bobl a thorchi llewys, bydd pobl yn eich cofio chi ac yn awyddus i weithio gyda chi eto. Mae’r agwedd honno wedi llywio fy holl yrfa.

Mae sawl prosiect yn aros yn y cof. Yn y dyddiau cynnar, gweithiais ar The Muppet Christmas Carol, un o uchafbwyntiau fy ngyrfa, ac ar Orlando hefyd. Roedd pob swydd yn ffordd o fagu profiad a hyder, a chreu mwy o gysylltiadau.

Rwy’ wrth fy modd â gwaith cyfnod a chymeriadau sy’n heneiddio – rwy’n hoffi mynd â rhywun ar siwrnai hir fel cymeriad. Rwy’n mwynhau’n arw brosiectau lle bydd y gwalltiau a’r colur yn cyfrannu’n fawr at adrodd y stori’n weledol. Fe ges i fodd i fyw yn gweithio ar Goodbye Christopher Robin, oherwydd roedd gan y ffilm honno bopeth rwy’n ei fwynhau’n greadigol. Rwy’ hefyd wedi gweithio gyda Leonardo DiCaprio am bron i ddeng mlynedd ar hugain, ac roedd The Aviator yn brosiect arbennig o ddiddorol a heriol. Roedden ni’n defnyddio technegau fel mowldiau fflat, technegau nad oedd neb wir wedi’u defnyddio o’r blaen. Mae technoleg wedi datblygu cymaint, ond ar y pryd, roedden ni’n gwthio ffiniau.

Mae The Revenant yn un arall. Gwnaeth yr ymosodiad gan arth beri cryn straen, gan ei fod mor dechnegol gymhleth. Ond roeddwn i wrth fy modd yn creu’r cymeriadau ar ddiwedd y ffilm – y croen wedi rhewi, y gwefusau wedi cracio, y barf yn llawn iâ, ôl y tywydd, a’r creithiau. Y siwrneiau hir ’na y bydd cymeriadau’n mynd arnyn nhw – dyna rwy’n ei fwynhau fwyaf.

Roedd gweithio ar Young Sherlock yn brofiad arbennig iawn. Rwy’ wedi gweithio ym mhedwar ban byd, ond yn hwyr neu’n hwyrach, mae’n hyfryd dod gartref. Roedd gallu gweithio ar gynhyrchiad gyda chyllideb fawr yng Nghymru, ond gan gysgu yn fy ngwely fy hun, yn brofiad hynod o braf. Fe ges i fy rhyfeddu hefyd gan y doniau sydd yma – mae’r criwiau’n eithriadol o dda, ac heb os nac oni bai mae gan Gymru’r set sgiliau i gynnal cynyrchiadau mawr. Yr her fwyaf ar Young Sherlock oedd cadw’n driw i’r 1870au heb wneud i’r cyfan deimlo’n sychlyd neu’n hen ffasiwn. Mae’n gyfnod hyfryd, ac roedden ni am barchu hynny, ond gan apelio at gynulleidfaoedd iau ar yr un pryd. 

Mae gan Gymru griwiau penigamp, lleoliadau gwefreiddiol, a seilwaith cadarn. Rydyn ni’n profi ein bod ni’n gallu ymdopi â chynyrchiadau sydd â chyllidebau mawr. Rwy’ hefyd wrth fy modd â sut mae gweithio yn rhyngwladol yn gyfle i ddod â’ch sgiliau yn ôl gartref. Efallai mai technegau blew wyneb o’r Eidal fydd hynny, neu ddyfeisgarwch wrth ddatrys problemau mewn llefydd fel Romania, lle mae’r cyllidebau a’r adnoddau o bosib yn llai. 

Mae ’na ddoniau di-ben-draw yng Nghymru hefyd. Rwy’ wedi mynd ati i ailbenodi nifer o bobl rwy’ wedi cwrdd â nhw gyntaf wrth weithio yng Nghymru. Ar The Queen of Fashion, roedd tua 90% o fy nhîm o Gymru. Roeddwn i wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw ar Young Sherlock yn wreiddiol. 

Mae gan Gymru griwiau penigamp, lleoliadau gwefreiddiol, a seilwaith cadarn. Rydyn ni’n profi ein bod ni’n gallu ymdopi â chynyrchiadau sydd â chyllidebau mawr. "

Mae llefydd fel Coleg Ffasiwn Llundain yn dal yn wych, ond mae prentisiaethau a lleoliadau dan hyfforddiant yr un mor bwysig. Mae dysgu wrth wneud y swydd yn amhrisiadwy, ac mae angen hybu a chefnogi’r cyfleoedd hynny. Maen nhw’n agor drysau i bobl na fyddai fel arall yn gallu dod yn rhan o’r diwydiant. Rwy’ wedi cwrdd â gweithwyr dan hyfforddiant rhagorol drwy gynlluniau yng Nghymru, ac rwy’ wrth fy modd yn gweld pobl o gefndiroedd celf neu bobl sy’n dilyn llwybrau anarferol yn cyrraedd y byd gwalltiau a cholur. Mae hybu amrywiaeth a mynediad yn hollbwysig i ddyfodol y diwydiant. 

Rwy’n ddyslecsig, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod pobl ifanc yn gwybod nad yw dyslecsia yn eich rhwystro chi rhag llwyddo. A dweud y gwir, rwy’n credu bod hynny wedi fy helpu i. Mae pobl ddyslecsig yn aml yn cael eu disgrifio fel pobl sy’n debyg i ddŵr – maen nhw’n dod o hyd i ffordd o amgylch rhwystrau, yn hytrach na chamu drwyddyn nhw. Mae’r math hwnnw o beth yn hynod o ddefnyddiol yn y diwydiant ffilm, lle mae’n rhaid datrys problemau’n gyson. Fydda’ i byth yn canolbwyntio ar y broblem ei hun, dim ond ar sut i ddod o hyd i’r ateb.

Felly, mae fy nghyngor i bobl ifanc yn syml: mae angen angerdd a dawn arnoch chi, ond hefyd y parodrwydd i dorchi llewys a magu profiad ymarferol. Gwnewch y swyddi nad oes neb arall eisiau eu gwneud – a hynny gyda gwên ar eich wyneb. Dyna sut byddwch chi’n meithrin ymddiriedaeth. Mae hefyd yn hanfodol creu portffolio gweledol cryf er mwyn i bobl allu gweld beth allwch chi’i wneud.

Wedi cael blas ar yr erthygl hon? Mae rhagor o gyfweliadau â phobl ddawnus sy’n gweithio yn niwydiannau creadigol Cymru fan hyn 

Straeon cysylltiedig