Gall dechrau’ch gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu fod yn brofiad brawychus, yn enwedig os ydych chi’n weddol ddibrofiad. I’r rheini sy’n awyddus i fod yn rhan o’r sector sgrin yng Nghymru, mae prentisiaethau Sgil Cymru yn gyfle cyffrous a hygyrch – boed chi newydd orffen yn yr ysgol neu’r coleg, neu’n ystyried newid trywydd eich gyrfa.

Yn Cymru Greadigol, rydyn ni wedi ymrwymo i roi hwb i ddoniau newydd yn y diwydiannau creadigol. Dyna pam fod yn rhaid i unrhyw gynhyrchiad sy’n cael arian gennyn ni gynnig nifer o leoliadau i hyfforddeion gyda thâl. I greu mwy o gyfleoedd i brentisiaid, rhaid cynnig o leiaf un o’r lleoliadau hyn i unigolyn sy’n rhan o gynllun prentisiaeth cydnabyddedig, fel rhai Sgil Cymru.

Mae eu rhaglen flwyddyn o hyd yn datblygu sgiliau ymarferol mewn meysydd pwysig, gan gynnwys cynhyrchu, gwisgoedd, colur, camera ac ôl-gynhyrchu, gyda lleoliadau ledled y gogledd a’r de.

Yn y diwedd, bydd y rheini sy’n cymryd rhan wedi cael diploma lefel 3 mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft – gan roi cymhwyster cydnabyddedig iddyn nhw lansio eu gyrfa heb fod angen mynd i goleg.

Cawson ni sgwrs â Lowri Thomas, rheolwr prosiect yn Sgil Cymru, i gael mwy o wybodaeth a chyngor am sut i wneud cais.

Strwythur prentisiaethau Sgil Cymru

Nod rhaglen brentisiaethau Sgil Cymru yw rhoi profiad helaeth i brentisiaid yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae’r daith yn dechrau gyda bloc dysgu dwys sy’n para pythefnos, lle bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn dysgu pethau hollbwysig am y diwydiant.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddan nhw’n cael eu cyflwyno i bynciau fel paratoi set, taflenni galw, jargon y byd cynhyrchu, a phrotocolau iechyd a diogelwch.

Ar ôl cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol, bydd prentisiaid yn mynd i weithio ar gynyrchiadau er mwyn magu profiad ymarferol. Bydd y lleoliadau hyn yn amrywio o ran hyd. Fe allan nhw bara rhwng pythefnos a chwe mis, yn dibynnu ar y cynhyrchiad dan sylw. Mae Sgil Cymru yn gofalu bod lleoliadau’n cyd-fynd â diddordebau ac amcanion gyrfa prentisiaid. Y llynedd, cafodd prentisiaid weithio ar gynyrchiadau a oedd yn cynnwys Madfabulous, Mr Burton, Dal y Mellt 2, Out There, Young Sherlock, House of the Dragon II a Pictionary.

Drwy gydol y brentisiaeth, bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn cael cymorth cyson gan dîm Sgil Cymru, a fydd yn rhoi arweiniad tra bydd y prentisiaid ar y set. Bydd prentisiaid hefyd yn gweithio tuag at ennill eu Diploma Lefel 3, sy’n cael ei gwblhau yn ystod y cyfnodau o hoe rhwng cynyrchiadau.

Sut i wneud cais

  1. Gwnewch eich gwaith ymchwil

Cyn gwneud cais, gofalwch fod gennych chi ddealltwriaeth gadarn o’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r gwahanol swyddi sydd ar gael, gan ddefnyddio gwefannau fel Screen Skills. Er nad oes yn rhaid i chi wybod pa swydd yn union rydych chi eisiau’i gwneud, mae’n hollbwysig deall cyfrifoldebau gwahanol adrannau.

Meddai Lowri, ‘Bydd lot o geisiadau’n dweud, ‘Rydw i wrth fy modd yn gwylio’r teledu, felly rydw i eisiau gweithio yn y byd ffilm a theledu’. Ond nid yw hynny’n ddigon. Mae angen i chi brofi eich bod chi o ddifri eisiau bod yn rhan o’r diwydiant.’

 

  1. Dangoswch angerdd

Yn y broses ymgeisio, mae’n hollbwysig dangos angerdd, yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o brofiad yn y diwydiant. Mae Sgil Cymru yn hoff o geisiadau sy’n dangos bod gan rywun ddiddordeb gwirioneddol mewn gweithio y tu ôl i’r llenni yn y byd ffilm a theledu. Boed hynny drwy brosiectau personol, gwirfoddoli neu brofiadau eraill tebyg, bydd dangos eich bod chi’n frwd yn ffordd o ddenu sylw.

eddai Lowri, ‘Os ydych chi’n creu unrhyw ffilmiau neu fideos i’r cyfryngau cymdeithasol neu i chi’ch hun, anfonwch y rheini hefyd, er mwyn i ni gael golwg arnyn nhw. Os ydych chi’n gwneud unrhyw waith gwirfoddol gyda chwmnïau neu os oes gennych chi ddiddordebau difyr, soniwch am hynny hefyd.’

 

  1. Rhowch sylw i’r manylion

Yn y diwydiant ffilm a theledu, mae’n hollbwysig gallu rhoi sylw i fanylion, lle bydd camgymeriadau bach yn amlwg iawn. Felly, cofiwch gwblhau eich cais yn drylwyr, gofalu ei fod yn drefnus, ac osgoi camgymeriadau. Bydd hyn yn helpu i ddangos eich ymroddiad a’ch proffesiynoldeb.

Meddai Lowri, ‘Edrychwch dros bopeth ar eich ffurflen sawl gwaith cyn ei hanfon. Os na allwch chi ei llenwi hi’n iawn, gofynnwch i rywun eich helpu chi.’

 

  1. Dangoswch eich sgiliau trosglwyddadwy

Hyd yn oed heb brofiad uniongyrchol yn y byd ffilm a theledu, mae’n go debygol y bydd gennych chi sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn helpu i’ch gwneud yn ymgeisydd cryf. Mae sgiliau fel cyfathrebu, datrys problemau, gwaith tîm a rheoli amser i gyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ar y set. Cofiwch dynnu sylw at y rhain yn eich cais.

Meddai Lowri, ‘Os ydych chi wedi gweithio yn y sector manwerthu, er enghraifft, mae’n siŵr y bydd gennych chi ychydig o brofiad bywyd o ddelio â phob math o wahanol bobl. Yn y byd teledu, byddwch chi’n cwrdd â channoedd o bobl, felly mae’r gallu i siarad â phobl yn fanteisiol iawn.’

Cymorth i ymgeiswyr

Angen help? Os ydych chi angen cymorth i ysgrifennu CV, datblygu portffolio neu baratoi at gyfweliad, bydd Sgil Cymru’n gallu’ch rhoi ar ben ffordd.  Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm yn help@sgilcymru.com  

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau Sgil Cymru, ewch i’w gwefan. Neu i ddarllen am brofiad prentis o lygad y ffynnon, darllenwch ein cyfweliad.

Straeon cysylltiedig