Calon ein diwydiannau creadigol – ffilm a theledu, animeiddio a gemau – yw'r bobl dalentog a brwd sy'n gweithio ynddyn nhw. Rydyn ni yma i sicrhau bod gan bobl greadigol y genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf – o bob cefndir – yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus.

Felly, p'un a ydych yn chwilfrydig ynghylch beth mae gweithio yn y diwydiannau sgrin, cerddoriaeth neu ddigidol yng Nghymru yn ei olygu; neu a ydych yn weithiwr llawrydd sy'n ystyried ehangu ei orwelion a dysgu sgiliau newydd; neu'n rhedeg cwmni creadigol ac angen cymorth i hyfforddi ac arallgyfeirio eich gweithlu – gallwn ni helpu!

O gynnig cyngor ar gyfleoedd hyfforddi lefel mynediad i rannu gwybodaeth am raglenni uwchsgilio, rydyn ni'n darparu cymorth  ac adnoddau i helpu i feithrin talent yng Nghymru a sbarduno twf hirdymor ar draws ein sectorau.

Darllenwch fwy i ddysgu am rai o'r gwahanol lwybrau a gynigir gennyn ni a'n partneriaid, a dysgu sut y gallwn eich cysylltu â thoreth o fentrau sgiliau a thalent ar draws y diwydiannau creadigol.

Ond yn gyntaf, hoffen ni amlinellu ein blaenoriaethau a rhannu gwybodaeth am ein Cronfa Sgiliau Creadigol.

Chwilio am gyllid?

Sefydlwyd y Gronfa Sgiliau Creadigol i gefnogi datblygu sgiliau a thalent yn ein deg maes â blaenoriaeth.

Yn y rownd gyntaf, dyfarnwyd cyllid i 17 prosiect – gyda phob prosiect yn helpu i hybu twf yn y diwydiant. Dysgwch pwy ydyn nhw a beth maen nhw wedi bod yn ei wneud hyd yma.

Mae'r ail rownd o gyllid bellach ar agor ar gyfer ceisiadau newydd, i gael gwybod mwy a gwneud cais cliciwch yma.

Ein blaenoriaethau

Mae ein Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd wedi helpu i lywio ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi ein deg maes â blaenoriaeth ar gyfer datblygu sgiliau a thalent yn y gweithlu creadigol yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Darllenwch y cynllun gweithredu llawn yma.

P'un a ydych chi'n ystyried ymuno â'r diwydiannau creadigol neu'n ystyried mireinio eich sgiliau arweinyddiaeth, mae llawer o gyfleoedd posibl ichi isod.