
Mae’r wefan hon yn fersiwn Beta. Cliciwch yma i ddweud wrthym sut i wella’r safle.
Yng Nghymru, mae animeiddio'n adlewyrchiad o bwy ydym ni – storïwyr angerddol gyda syniadau mawr a digonedd o dalent greadigol.
Mae gennym hanes cyfoethog o gyfresi poblogaidd yma yng Nghymru, o SuperTed i Rastamouse, tra bod ein dyfodol yn cael ei siapio gan gynyrchiadau modern fel Cyw a Dave Spud. Mae stiwdios yng Nghymru hefyd yn cynhyrchu gwaith llaw arbennig, gan rai fel Joanna Quinn yn Beryl Productions, yn ogystal â ffilmiau byrion masnachol o safon uchel o stiwdios fel Bomper Studio yng Nghaerffili.
Fel diwydiant bywiog sy'n cyffwrdd â llawer eraill, o gerddoriaeth i gemau, rydym yn cydnabod potensial y sector animeiddio. Rydym hefyd yn cydnabod yr heriau mewn marchnadoedd sy'n newid yn barhaus. Rydym yma i gefnogi'r sin animeiddio wrth iddi ymateb i'r heriau hyn, wrth barhau i hyrwyddo'r cwmnïau medrus a'r bobl greadigol wrth ei wraidd.
Ein nod yw parhau i gefnogi a dathlu'r diwydiant wrth i gwmnïau ddarganfod llwyfannau cynnwys, prosiectau a ffrydiau cyllid newydd.

Robyn Viney: cynhyrchydd a rheolwr marchnata yn Bomper Studio
Robyn Viney, y cynhyrchydd a rheolwr marchnata, sy’n trafod dod o hyd i’w swydd ddelfrydol yng Nghymru a gweithio gyda’r Foo Fighters.
Testunau:

Cynyrchiadau llwyddiannus wrth wraidd y diwydiant animeiddio yng Nghymru
Dewch i adnabod doniau artistig sin animeiddio lwyddiannus Cymru.