I lawer o gerddorion, ac yn enwedig y rheini sy’n gweithio yn annibynnol, gall cael eu cerddoriaeth i ymddangos ar ffilmiau, ar y teledu, mewn gemau neu ar hysbysebion fod yn brofiad sy’n newid byd. Sync – neu drwyddedu sync – yw’r enw ar hyn. Mae’n ffordd bosibl o gael incwm, ac yn gyfle i bobl eich clywed y tu hwnt i lwybrau arferol gigio a ffrydio.  

Skip Curtis, artist a chydlynydd cerddoriaeth o’r cymoedd, ac Alun Llwyd, Prif Weithredwr y gwasanaeth dosbarthu PYST, sy’n egluro sut mae sync yn gweithio, sut mae’n esblygu, a sut gall artistiaid o Gymru ac yng Nghymru elwa o hyn.

Beth yw sync?

Mae sync yn dalfyriad o syncroneiddio. Roedd pobl yn arfer ei ystyried yn fath o gyfaddawdu, neu golli hygrededd. Ond mae’r stigma hwnnw wedi hen ddiflannu. Mewn oes lle mae gwerthiant ac incwm ffrydio’n isel, mae sync llwyddiannus bellach yn gallu bod yn gyfle creadigol ac yn achubiaeth ariannol.

Yng Nghymru, mae’r sector ffilm a theledu cryf, ynghyd â’r diwydiant gemau sy’n prysur dyfu, yn creu cyfleoedd newydd i gerddorion.

‘Yr hen agwedd oedd bod rhywun yn colli hygrededd wrth wneud syncs,’ meddai Skip. ‘Ond roedd hynny pan fyddai artistiaid yn gwneud cannoedd o bunnoedd drwy werthu cerddoriaeth. Ceiniogau mae pobl yn ei wneud bellach.’

‘Fe allai sync helpu i ariannu dy daith neu dy albwm nesaf di. Dydy cael sync ddim yn rhwydd, ond mae gwir gyfle yng Nghymru, diolch i’n sectorau creadigol cryf’.

Fe allai sync helpu i ariannu dy daith neu dy albwm nesaf di. Dydy cael sync ddim yn rhwydd, ond mae gwir gyfle yng Nghymru, diolch i’n sectorau creadigol cryf’.

Sut mae Cymru’n creu diwydiant cerddoriaeth sy’n hybu sync

Cafodd band Skip, XY&O, gytundebau sync â The Sims a Maid ar Netflix, gan roi agoriad llygad iddo i sut mae’r broses yn gweithio. Yn sgil y profiad hwnnw, a’r cymorth uniongyrchol a roeson ni iddo, cafodd ei ysbrydoli i lansio Double L Sound – prosiect sy’n canolbwyntio ar sync ac sy’n cysylltu artistiaid a deiliaid hawliau yng Nghymru â’r diwydiant sgrin byd-eang.

‘Heb gymorth gan Cymru Greadigol, fyddai hyn ddim wedi digwydd. Mae gan Gymru ddoniau rhyfeddol, ac mae cerddoriaeth yn rhan o’n hunaniaeth ddiwylliannol ni. Ond mae seilwaith y diwydiant ar ei hôl hi,’ meddai Skip. Gyda’n cefnogaeth ni, mae Skip yn gweithio i drwsio hynny.

Mae Alun Llwyd hefyd yn gweithio ar y seilwaith hwnnw. Lansiodd Alun PYST yn 2018 i gynnig gwasanaeth dosbarthu digidol mewnol i’r sector cerddorol yng Nghymru.

‘Roedd y rhan fwyaf o labeli’n gorfod talu i fod yn rhan o systemau dosbarthu, a’r rheini gan amlaf wedi’u lleoli yn Llundain,’ meddai Alun. ‘Roedden ni’n teimlo bod angen sefydlu rhywbeth yng Nghymru a allai gadw incwm yn lleol.’

Mae PYST bellach yn gweithio gyda 75+ o labeli, a dychwelodd dros £100,000 mewn incwm ffrydio y llynedd – arian a gafodd ei ailfuddsoddi yn cryfhau ecosystem gerddorol Cymru. Mae PYST hefyd wedi camu i’r byd sync.

‘Mae ein cronfa ddata ni ar gyfer y cyfryngau a’r diwydiant yn cynnwys manylion llawn a WAVS y gerddoriaeth newydd sy’n cael ei rhyddhau, ac rydyn ni’n anfon y rheini at gydlynwyr cerddoriaeth a phobl yn y byd ffilm, teledu a gemau,’ meddai Alun.

‘Rydyn ni hefyd yn defnyddio Orchard i wasanaethu’r sectorau ffilm, teledu a gemau ehangach yn fyd-eang, ac yn creu diweddariad misol o draciau newydd a manylion i Cymru Greadigol eu rhannu â’u rhwydwaith nhw.’

Mae’r ecosystem hon yn tyfu ac yn cysylltu artistiaid, labeli, cyhoeddwyr a chydlynwyr â’i gilydd. Mae Alun a Skip yn cytuno: mae angen mwy o gymorth i Gymru gystadlu ar raddfa fyd-eang.  

‘Mae yna artistiaid sy’n creu’r gerddoriaeth. Ac mae yna bobl yn y byd ffilm a theledu sy’n chwilio am gerddoriaeth wych i’w cynyrchiadau. Ond mae angen mwy o bobl yn y canol – y bobl sy’n deall sut i wneud y cysylltiadau hynny a sicrhau cytundebau,’ meddai Skip.  

Wrth i’r diwydiant barhau i dyfu, mae camau ymarferol y gall artistiaid eu cymryd yn syth. Dyma rywfaint o gyngor gan Skip ac Alun i’ch helpu chi i gael eich cerddoriaeth wedi’i syncio.

Roedd y rhan fwyaf o labeli’n gorfod talu i fod yn rhan o systemau dosbarthu, a’r rheini gan amlaf wedi’u lleoli yn Llundain,’ meddai Alun. ‘Roedden ni’n teimlo bod angen sefydlu rhywbeth yng Nghymru a allai gadw incwm yn lleol.’

Pump darn o gyngor gwych i gael eich cerddoriaeth wedi’i syncio

Am roi hwb i’ch cyfleon o gael cytundeb sync? Dyma bump darn gwych o gyngor gan yr arbenigwyr:

  1. Cofrestrwch eich cerddoriaeth â PRS (neu gorff cyfatebol).Os mai PRS (y DU), ASCAP neu BMI (yr Unol Daleithiau) yw hwnnw, gofalwch fod pob trac wedi’i gofrestru’n gywir er mwyn i chi gasglu breindaliadau o syncs, perfformiadau byw a darllediadau.
  2. Gofalwch fod gennych chi fersiynau offerynnol o ansawdd da bob amser. Dydy cerddoriaeth leisiol ddim wastad yn cyd-fynd â deialog neu draethu. Cadwch fersiynau offerynnol a stems o ansawdd da ar ffeil.
  3. Gofalwch fod eich metadata’n gywir. Dylai’r naws, y genre, y tempo, y geiriau a deiliaid yr hawliau fod wedi’u mewnblannu ac yn gywir. Metadata gwael = colli cyfleon.
  4. Defnyddiwch ddelweddau yn eich geiriau.Y caneuon sy’n llawn cyffyrddiadau emosiynol byw yw’r rhai gorau i’w syncio. Ond peidiwch â’i gorwneud hi chwaith – caneuon sydd wedi’u hysgrifennu’n dda amdani bob tro.  
  5. Daliwch ati i greu a rhyddhau cerddoriaeth. Yn y pen draw, ‘loteri ydy sync’, meddai Alun. Po fwyaf o gerddoriaeth dda sydd gennych chi wedi’i rhyddhau, y gorau fydd eich siawns o gael eich darganfod.

Hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sync ac am y diwydiant cerddoriaeth? Dilynwch Skip Curtis PYST a Cymru Greadigol ar Instagram.

Straeon cysylltiedig