Mae gwaith eang yn cael ei wneud yn ein diwydiannau creadigol yng Nghymru, o gynhyrchu sgrîn fyd-enwog i ddatblygiadau tu ôl i'r llen ym maes ymchwil a datblygu. Ein nod yw cefnogi ein sectorau creadigol a sbarduno twf economaidd.
Mae pobl a busnesau profiadol wrth wraidd yr holl sectorau hyn – o gerddorion sy’n cydweithio ag animeiddwyr, i ganolfannau teledu sy’n cynhyrchu addasiadau llyfrau. Beth bynnag eich sgiliau a diddordebau – os ydych am fod yn rhan o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae cyfleoedd, arian a hyfforddiant ar gael i’ch helpu.
Tra bod gan bob sector greadigol ei rhan i chwarae yn ein stori genedlaethol, gyda’i gilydd maent yn dangos y gorau o Gymru – gwlad sy’n gyfoeth o ddychymyg, syniadau a dyfeisgarwch. Darllenwch fwy am ein sectorau amrywiol a dewch i ddeall pam bod pobl greadigol dalentog yn dewis Cymru i sefydlu busnes llwyddiannus neu greu gyrfa llewyrchus.
Rydym am sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, gan greu gofod yng Nghymru lle y gall pobl a busnesau talentog ffynnu.
Sectorau creadigol
Ffilm a theledu
Ewch tu ôl i’r llen i ddarganfod ein sector sgrin lwyddiannus.
Cerddoriaeth
Darganfyddwch yr artistiaid, lleoliadau a busnesau sydd wrth wraidd y sin gerddoriaeth Gymreig.
Gemau
Ymgollwch ym myd rhyngweithiol diwydiant gemau arloesol Cymru.
Animeiddio
Tu ôl i’r hud a lledrith y mae’r bobl greadigol sy’n dod â straeon yn fyw.
Technoleg greadigol
Ble mae technoleg a chreadigrwydd yn cwrdd - dewch i wybod mwy am ein clwstwr technoleg sy’n tyfu’n barhaus.
Ymchwil a datblygu
Darganfyddwch sut rydym yn adeiladu diwylliant o arloesi yn niwydiannau creadigol Cymru.
Cyhoeddi
Darllenwch fwy am y sector sy’n dathlu ein cariad at iaith a geiriau yng Nghymru.
Sgyrsiau creadigol
Jane Tranter
Prif Weithredwr Bad Wolf
Siwan Phillips
Pennaeth Cynhyrchu, Boom Cymru
Eadyth
Cynhyrchydd Cerddoriaeth