Yn cyflwyno Wales Interactive: y cwmni gemau o Benarth a sefydlwyd gan Richard Pring a David Banner MBE yn 2012. Dros y blynyddoedd, mae’r cwmni wedi newid llawer – o ddatblygwyr yn gwneud eu gemau eu hunain i fod yn gyhoeddwyr sy’n creu ac yn gwerthu prosiectau annibynnol i PlayStation, Xbox a Nintendo. Y dyddiau hyn, yn ogystal â pharhau i greu a chyhoeddi, mae'r ddau a'u tîm yn barod i wneud eu marc ar fyd gemau rhyngweithiol.
Er y newid yn eu prosiectau creadigol, mae’r weledigaeth yr un fath. Ers ei sefydlu, nod Wales Interactive yw creu hwb ar gyfer y diwydiant gemau yng Nghymru i roi llais cryf ac unedig iddo. Yn ogystal ag arddangos ei botensial i bobl Cymru ac amlygu sut mae’r diwydiant yn gweithio ac yn ffynnu, maen nhw hefyd yn teithio i ganolfannau gemau ar draws y byd, o San Francisco i Japan, i wneud yn siŵr bod Cymru nid yn unig yn cael ei chynnwys ond yn cael ei chydnabod yn y diwydiant gemau rhyngwladol.
I gyflawni eu huchelgeisiau, sefydlodd y cwmni berthynas gref â ni yma yn Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru. Yn y blynyddoedd cynnar, cawsant arian gan y Gronfa Datblygu Ddigidol, a oedd yn allweddol i roi eu prosiectau cychwynnol ar waith gan ei fod yn cynnig llwybr ariannu gwahanol i fuddsoddiad. Ers 2014, maen nhw hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd ar sioeau masnach ledled y byd – gan helpu i hyrwyddo eu gwaith a photensial Cymru fel hwb gemau arloesol a thalentog.
Mae’r cwmni’n awyddus i wneud defnydd o ddiwydiant ffilm a theledu cryf Cymru drwy greu mwy o ffilmiau rhyngweithiol neu gemau FMV (full motion video). Gyda mynediad uniongyrchol at gwmnïau fel Sony a Microsoft, maent yn gobeithio cyfuno sgiliau'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru â gwybodaeth a rhyngweithiad y diwydiant gemau i greu model ffilm ryngweithiol gynaliadwy. I wneud hyn, maen nhw’n gweithio a thalent o gwmnïau cynhyrchu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, fel Good Gate Media, i greu ffilmiau rhyngweithiol arloesol ym maes cyhoeddi ffilmiau a gemau.
Gyda thîm craidd o 12 – o gyhoeddwyr a rhaglenwyr i ddylunwyr sain a marcwyr – yn gweithio gyda channoedd o bobl ledled y byd, roedd angen i'r cwmni ddylunio model gweithio parhaus. Fe wnaethon nhw greu teclyn sgriptio rhyngweithiol (WIST) sy'n caniatáu iddyn nhw weithio gydag awduron i gynllunio, creu a chyhoeddi eu gemau rhyngweithiol. Gyda’r nifer o brosiectau yn cynyddu, y teclyn hwn fydd yn helpu'r cwmni i barhau i greu gemau llwyddiannus, fel Who Pressed Mute on Uncle Marcus?, The Complex a Five Dates. Bydd Wales Interactive yn parhau i ddatblygu WIST dros y blynyddoedd nesaf tra’n rhan o gonsortiwm Media Cymru.
Wrth iddynt edrych tua’r dyfodol, llwybr y mae'r cwmni'n awyddus i'w archwilio yw rhyngweithio aml-chwaraewr: maes arloesol sy'n gymharol newydd i'r byd gemau. Nod y prosiect newydd hwn yw cael gymaint o bobl â phosibl i chwarae a mwynhau eu gemau.
Beth mae Wales Interactive wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar?
- Yn 2025, cafodd Wales Interactive gyllid drwy’n Cronfa Uwchraddio Gemau, a ddarperir ar y cyd â’r UK Games Fund.
- Rhyddhawyd cipolwg ar eu gêm arswyd ryngweithiol ddiweddaraf, Dead Reset. Wedi’i datblygu gyda Dark Rift Horror ac wedi’i chefnogi gan Media Cymru, denodd y première bron i 80 miliwn o wylwyr ledled y byd.
- Fe wnaethon nhw hefyd ryddhau Into the Restless Ruins – gyda’r gêm ar gael yn Gaeleg yr Alban, gan ddathlu ymrwymiad y stiwdio i gynrychiolaeth ddiwylliannol.