Cwmni ymgynghori a chynhyrchu arloesol yw Unquiet Media, a hwnnw’n pontio rhwng y gwyddorau gwybyddol a byd y cyfryngau. Ers ei lansio yn 2021, mae’r cwmni wedi cydweithio ag arweinwyr yn y cyfryngau, niwrowyddonwyr a seicolegwyr i edych ar brofiadau dynol cymhleth, gyda’r prif bwyslais ar niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl.

Cawson ni sgwrs â Rosie Higgins, cyfarwyddwr Unquiet Media, am brif amcanion y cwmni, sef dangos manteision meddwl yn amrywiol, a helpu busnesau Cymru i greu llefydd mwy cynhwysol i weithwyr proffesiynol niwroamrywiol. Mae’r unigolion hyn yn aml yn wynebu heriau unigryw yn y gweithle, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth am niwroamrywiaeth, diffyg ymwybyddiaeth o hawliau cyfreithiol a’r cymorth sydd ar gael i wneud addasiadau, a diffyg hyblygrwydd mewn trefniadau recriwtio a gweithleoedd.

Mae Rosie’n sôn am rai o’r camau ymarferol y gall busnesau yng Nghymru eu cymryd i greu gweithleoedd mwy niwro-gynhwysol:

1. Deall anghenion unigolion

Sbectrwm yw niwroamrywiaeth, felly mae’n hollbwysig deall anghenion unigolion. Dylai
cyflogwyr greu gofod lle bydd yr holl weithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu’u gofynion fel unigolion.


Meddai Rosie: ‘Yn ôl nifer o’r bobl niwroamrywiol sydd wedi siarad â ni, fydd llawer ohonyn nhw ddim o anghenraid yn datgelu eu bod nhw’n niwroamrywiol nac yn crybwyll eu hanghenion. A bydd rhai’n ofni y byddan nhw’n cyfyngu ar eu cyfleoedd i ddringo yn eu swyddi. Man cychwyn da, felly, yw creu gofod er mwyn gofyn i bobl beth sydd ei angen arnyn nhw yn y gweithle, yn hytrach nag aros i bobl ddweud hynny.’


Mae siarad â’ch holl weithwyr am eu gofynion hygyrchedd yn ffordd dda o gychwyn y sgwrs hon. Mae Rosie hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu o gamgymeriadau: ‘Os ydych chi’n barod i ddysgu a deall pethau wedyn, mae hynny’n hollol iawn. Byddwch yn rhagweithiol wrth fod yn niwro-gynhwysol, yn hytrach nag ymateb i bethau’n unig.

2. Croesawch hyblygrwydd

Gall opsiynau gwaith hyblyg wella profiadau pobl greadigol niwroamrywiol yn arw. Yn ystod y pandemig, dysgodd busnesau sut i addasu, gan brofi bod newid yn gwbl bosibl.


Wrth i bobl ymgeisio am swyddi, gall cyfweliadau ffurfiol, ceisiadau ysgrifenedig a
disgwyliadau o ran ymddygiad (er enghraifft, y disgwyliad y bydd pobl yn edrych i’ch llygaid) roi ymgeiswyr niwroamrywiol o dan anfantais.


Meddai Rosie: ‘Un o’r prif rwystrau sy’n wynebu pobl niwroamrywiol yw eu bod nhw’n
syrthio wrth y glwyd gyntaf. Gall hynny ddigwydd, er enghraifft, oherwydd hysbysebion
swyddi a ffurflenni cais sydd ddim yn ystyriol o gynulleidfaoedd ehangach.’


I fod yn fwy cynhwysol, yn hytrach na phwysleisio sgiliau hanfodol, cynigiwch asesiadau sy’n seiliedig ar dasgau, neu geisiadau ar fideo. Cofiwch gydnabod ymddygiadau cymdeithasol amrywiol, fel pobl sy’n aflonydd. Meddai Rosie: ‘Mae’n golygu ystyried y gwahanol ffyrdd y gall pobl serennu.’


Yn y gweithle, byddai dulliau cyfathrebu hyblyg yn gallu cynnwys rhoi cyfarwyddiadau
ysgrifenedig yn hytrach na ffonio pobl yn y fan a’r lle. Yn yr un modd, gallai creu gweithle hyblyg olygu cynnig opsiynau gweithio o bell, pan fydd hynny’n bosibl, gan fod awyrgylch swyddfa yn gallu llethu nifer o unigolion niwroamrywiol.

 3. Meddyliwch am gamau bach sy’n cael effaith fawr

Mae nifer o addasiadau yn symlach ac yn rhatach nag y byddech chi’n tybio. Yn ôl gwaith ymchwil y CIPD, nid oedd 59% o addasiadau i’r gweithle’n costio dim byd,
ac yn aml bydd cyllid allanol ar gael ar gyfer addasiadau eraill.


Meddai Rosie: ‘Os ydych chi’n fusnes bach, peidiwch â gadael i gostau posibl gweithio gyda phobl niwroamrywiol eich dychryn chi. Edrychwch ar gynhwysiant fel cyfle yn hytrach na her. Mae angen i ni gynyddu amrywiaeth drwy’r holl ddiwydiant, mewn nifer o ffyrdd gwahanol, ac mae cael gweithlu niwroamrywiol yn gallu creu mantais gystadleuol wirioneddol.’


Er enghraifft, gallai newidiadau rhad olygu newid dulliau cyfathrebu, symud desg rhywun i leihau’r ysgogiadau synhwyrol, creu gofodau tawel, a chyflwyno oriau gweithio hyblyg.

Hyrwyddo arloesi cynhwysol

Yn ogystal â’r cyngor hwn, gallwch chi ddysgu mwy am greu llefydd gweithio mwy niwroamrywiol drwy brosiectau Unquiet, gan gynnwys Exceptional Minds Pecyn cymorth am niwroamrywiaeth yw hwn, sydd wedi’i ariannu gan Cymru Greadigol drwy Media Cymru. Meddai Rosie: ‘Bu’n dair blynedd o waith, a hwnnw’n cynnwys gwaith ymchwil gyda channoedd o bobl greadigol niwroamrywiol a busnesau yng Nghymru.’


Mae’r prosiect yn rhoi sylw i’r rhwystrau sy’n wynebu pobl greadigol niwroamrywiol, fel diffyg ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, ac mae’n cynnig canllawiau ymarferol, cost-effeithiol i helpu busnesau i greu gofodau mwy niwro-gynhwysol.


Gan ddechrau yn 2025, mae rhaglen ar gael hefyd sy’n cael ei hachredu gan y CPD, a honno’n rhan o brosiectau ein Cronfa Sgiliau. Dyma ffordd rwydd o gael achrediad sy’n helpu cyflogwyr a’u staff i gynnal sgyrsiau sy’n dangos mwy o ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth. 


Meddai Rosie: ‘Rydyn ni’n gobeithio gallu ymwneud â chynifer o bobl â phosibl yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, er mwyn cynyddu’r ddealltwriaeth sylfaenol yn ein cenedl yn sylweddol. Mae’r ffaith ein bod ni’n mynd ati’n bwrpasol i hyfforddi’r holl weithlu yn dangos bod Cymru a Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn hyn o beth.


‘Mae Cymru Greadigol wedi bod yn hynod gefnogol i’r prosiectau hyn. Mae’n braf gallu arwain y gwaith o werthuso a dathlu amrywiaeth, yn hytrach na chael ein dal yn ôl.’


I gael canllawiau mwy penodol, edrychwch ar becyn cymorth Exceptional Minds gan Unquiet neu cadwch lygad am eu cyrsiau e- ddysgu a fydd yn cael eu cynnal cyn hir, gyda’n cefnogaeth ni yn Cymru Greadigol.

 

Straeon cysylltiedig

Ein gwaith

Rydym yn cysylltu pobl, hyrwyddo creadigrwydd a buddsoddi mewn syniadau ar draws ein cenedl.

Cliciwch yma i weld ein ffilm hyrwyddo.