Mae Cymru yn dod yn fwy adnabyddus am gynhyrchu ffilm a theledu difyr a safonol. Y tu ôl i'r camera, mae pobl greadigol o Gymru yn sbarduno ton newydd o ffilmiau wedi eu gwneud yng Nghymru, cynyrchiadau dilys, diwylliannol unigryw sy'n cysylltu â  chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

O sicrhau cyllid ffilm a denu dosbarthwyr, i gyfrannu at wyliau ffilm rhyngwladol a datblygu strategaethau marchnata effeithiol, mae gwneuthurwyr ffilmiau yn wynebu taith gymhleth. Mae hi felly yn hanfodol cael cymorth sy’ wedi'i dargedu ar gyfer y diwydiant.

Mae rhaglenni ariannu fel y Gronfa Ffilmiau Nodwedd, a ddarperir gan Ffilm Cymru Wales gyda'n cefnogaeth ni a Sinema Cymru, y bartneriaeth datblygu ffilmiau Cymraeg rhyngom ni yn Cymru Greadigol, S4C a Ffilm Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru. Mae'r mentrau hyn yn helpu i feithrin talent, datblygu straeon gwreiddiol a chynnwys Cymraeg, a gweithio i gryfhau'r diwydiant ffilm yng Nghymru.

Mae prosiectau diweddar yr ydym wedi'u cefnogi, gan gynnwys Mr Burton, Madfabulous, Effi o Blaenau a Lluest, y cynhyrchiad cyntaf i gael ei greu drwy gronfa ddatblygu Sinema Cymru, yn tynnu sylw at y gwahaniaeth y gall yr y cymorth hwn ei wneud. Y buddsoddiad wedi'i dargedu hwn sy'n helpu i ddod â straeon beiddgar, gwreiddiol o Gymru i gynulleidfaoedd byd-eang.

Gydag enwebiadau i ffilmiau o Gymru yng Ngwobrau BAFTA 2026, dwy ffilm nodwedd fawr o Gymru yn cyrraedd sinemâu yr haf hwn a dwy ffilm o Gymru- About a Bell a Lluest- yn cael eu cydnabod ar restr Screen Daily o '20 ffilm i'w gwylio' yn Cannes eleni, dyma'r amser perffaith i ddangos y ffilmiau a'r doniau gwneud ffilmiau sy'n sbarduno'r diwydiant ffilm yng Nghymru.

Mae'r ffilmiau diweddaraf hyn yn dilyn llwyddiant ffilmiau fel The Ballad of Wallis Island, a enwebwyd am BAFTA ac a saethwyd yng Nghymru, a'r ffilmiau The Man in My Basement, Anemone, Brides a HAVOC- pob un wedi'i gwneud yng Nghymru gyda'n cefnogaeth ni.

Cariwch ymlaen i ddarllen i ddarganfod y ffilmiau o Gymru i'w gwylio nawr a'r rhai i gadw llygad amdanynt.

Ffilmiau Cymreig i’w gwylio nawr

Madfabulous filmed on location across North Wales.

Madfabulous

Cafodd Madfabulous ei rhyddhau i sinemâu'r DU ym mis Mehefin, a chynhaliwyd y dangosiad cyntaf ohoni yn BFI Flare - gŵyl ffilmiau LHDTC+ fwyaf Ewrop. Mae'r stori wir hon yn dilyn yr aristocrat mawreddog a lliwgar Henry Paget, pumed marcwis Ynys Môn, gyda Callum Scott Howells a Rupert Everett yn serennu ynddi. Fe'i ffilmiwyd ar hyd a lled Ynys Môn, Caernarfon a Phwllheli. Cafodd y ffilm gefnogaeth gan Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales, gan greu chwe chyfle i hyfforddeion yn yr ardal leol. Mae Madfabulous wedi'i hysgrifennu gan Lisa Baker a'i chyfarwyddo gan Celyn Jones, a aned yn Ynys Môn. Darganfyddwch fwy am Celyn yn yr erthygl hon.

 

Effi o Blaenau

Mae'r addasiad hir-ddisgwyliedig hwn o ddrama Gary Owen, Iphigenia in Splott, wedi cael ei gydnabod ymhlith y goreuon yng Ngŵyl Ffilm Glasgow. Marc Evans sy'n cyfarwyddo'r ffilm Gymraeg hon: Mae'n ffilm sy'n procio'r meddwl ac yn hynod deimladwy, wedi'i gosod yn erbyn tirwedd ddramatig Blaenau Ffestiniog. Mae'r stori yn dilyn Effi, gyda pherfformiad syfrdanol gan yr actores ddawnus, Leisa Gwenllian (Under Salt Marsh). 

Wedi'i ffilmio ym Mlaenau Ffestiniog, Caernarfon a Phort Talbot, cafodd Effi o Blaenau ei hariannu'n rhannol gennym ni yn Cymru Greadigol, gan greu pum cyfle hyfforddi yn yr ardal leol, ac fe'i datblygwyd mewn partneriaeth ag S4C fel rhan o ymrwymiad i fuddsoddi mewn gwneud ffilmiau Cymraeg a chefnogi straeon Cymru. Bydd yn cael ei rhyddhau yn y sinema ar 19 Mehefin cyn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar ddiwedd 2026.

Mr Burton

Mae'r ffilm fywgraffyddol hon sydd wedi ei gwnaed yng Nghymru yn adrodd hanes Richard Jenkins,bachgen dosbarth gweithiol o Bont-rhyd-y-fen a ddaeth yn actor eiconig, Richard Burton.

Cafodd ei chyfarwyddo gan Marc Evans ac mae Harry Lawtey a Toby Jones yn serennu ynddi. Cefnogir Mr Burton gan BBC Cymru WalesFfilm Cymru Wales a ni, Cymru Greadigol. Darllenwch fwy am y broses o greu Mr Burton yn ein herthygl gyda chynhyrchydd yn Severn Screen, Hannah Thomas. 

 H is for Hawk

Mae H Is for Hawk, ffilm nodwedd gan Philippa Lowthorpe a enwebwyd am Bafta, wedi'i chefnogi gan Ffilm Cymru Wales ac yn seiliedig ar atgofion Helen Macdonald. Ar ôl colli ei thad, mae Helen (Claire Foy) yn dod o hyd i achubiaeth mewn cyfeillgarwch annisgwyl gyda hebog ystyfnig o'r enw Mabel. Mae'r ffilm hon wedi'i chynhyrchu gan John Giwa-Amu ac wedi’i ffilmio yng Nghymru.

Ffilmiau i gadw llygad amdanynt

About a Bell

Wedi'i chynhyrchu gan Jasper Warry, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hello Deer Studios yng Nghymru, y comedïwr, yr actor a'r ysgrifennwr Prydeinig-Iranaidd poblogaidd Omid Djalili sy'n chwarae'r brif ran yn y ddrama gomedi hon gan Simon Callow. Mewn tref gymudo dawel yn Lloegr, caiff hen eglwys blwyf ei dymchwel i wneud lle i floc fflatiau newydd. Mae'r diffyg parch tuag at hanes lleol yn siomi ffoadur o Syria. Ar ôl darganfod tarddiad y safle gyda chymorth llyfrgellydd ifanc, mae'r ffrindiau annisgwyl yn mynd ati i wneud rhywbeth am y sefyllfa. Cafodd y ffilm gefnogaeth gan Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales* a chafodd ei chydnabod ar restr ffilmiau Screen Daily yn Cannes 2026.

Lluest

Mae Lluest, ffilm Gymraeg ag Aimee-Ffion Edwards (Believe Me) a Rhodri Meilir (Hidden/Craith) yn sêr ynddi, yn nodedig fel y prosiect nodwedd cyntaf i symud ymlaen i'r cam cynhyrchu o Sinema Cymru, cynllun partneriaeth datblygu ffilmiau Cymraeg rhwng Cymru Greadigol, S4C a Ffilm Cymru Wales. Gorffennwyd y ffilmio yn ddiweddar yn Great Point Studios yng Nghaerdydd a chafwyd cymorth ariannol gan Cymru Greadigol ar gyfer y gwaith cynhyrchu.

A Visit to Grandpa’s

Mae cynnyd yn nifer y cynyrchiadau rhyngwladol a gaiff eu denu gan y diwydiant sgrin sy’n tyfu yng Nghymru. Mae A Visit to Grandpa’s wedi'i hysbrydoli gan stori fer boblogaidd Dylan Thomas ac mae Syr Anthony Hopkins a Catherine Zeta-Jones yn chwarae'r prif rannau, gyda Huw Penrallt Jones yn cyfarwyddo. Daeth y ffilmio i ben yn ddiweddar yn Nolgellau a'r cyffiniau ac yn stiwdios Aria yn Ynys Môn. Mae'r ffilm eisoes wedi sicrhau cytundebau dosbarthu rhyngwladol cyn iddi gael ei rhyddhau. Cafodd y ffilm gefnogaeth gan Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales.

A Colt is My Passport

Mae cyfarwyddwr HAVOC, Gareth Evans, hefyd wedi bod yn saethu yng Nghymru eto, y tro yma gyda Amazon MGM Studios/Orion Pictures ar brosiect seiliedig ar ffilm gyffrous Yakuza gan Nikkatsu yn y 1960au. Cafodd ei chynhyrchu gan Ed Talfan (Severn Screen) ac mae disgwyl iddi gyrraedd Amazon Prime Video yn ddiweddarach yn 2026 gyda'n cefnogaeth ni.

Chwilio am eich cyrchfan ffilmio nesaf? Mae pecynnau cyllid a chymorth pwrpasol ar gael ar gyfer ffilmio yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ariannu a chefnogaeth

 

 

Straeon cysylltiedig