Ni all neb yn y diwydiannau creadigol fforddio sefyll yn ei unfan. Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol, ac mae creu gofod ar gyfer meddwl newydd yn un o'n prif flaenoriaethau.

Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o fentrau sy'n cael effaith ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys media.cymru, gan ddod â phartneriaid o'r byd academaidd, technoleg, arweinyddiaeth leol a'r diwydiannau creadigol ynghyd i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Trwy ddarparu cyllid craidd ar gyfer y rhaglen Clwstwr, rydym wedi helpu i ddarparu ffrwd o brosiectau ymchwil a datblygu proffil uchel yn y diwydiannau creadigol.

Mae ein holl gyllid ymchwil a datblygu yn cael ei ddarparu ar yr amod bod cydraddoldeb, amrywiaeth, chynhwysiant a chynaliadwyedd yn cael ystyriaeth ganolog.

Drwy gefnogi ymchwil a datblygu, rydym yn ennyn diwylliant sy’n arloesi a chreu ecosystem greadigol o'r radd flaenaf.

Cadwch mewn cysylltiad

Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am y sectorau creadigol? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.