Os ydych chi'n creu gemau fideo, rydych chi'n ddigon ffodus i weithio yn un o'r diwydiannau adloniant mwyaf ysbrydoledig a bywiog.

Yng Nghymru, mae'r maes cynyddol o dechnoleg peiriannau gemau yn sail i ddatblygiad cynhyrchu cynnwys newydd. Diolch i'n rhwydweithiau diwydiant cryf a'n hysbryd cydweithredol, gall ein busnesau gemau fanteisio ar y dalent sydd wedi’i feithrin yn ein prifysgolion Cymreig nodedig, o ddylunwyr ac artistiaid 3D i raglenwyr a pheirianwyr sain.

Ledled Cymru, mae datblygwyr gemau yn cynhyrchu campweithiau rhyngweithiol, gyda chlystyrau creadigol cryf yn Ne Ddwyrain a Gogledd Ddwyrain Cymru. O'r mannau yma, mae brandiau fel Wales Interactive a Tiny Rebel Games wedi cyrraedd sgriniau ar draws y byd.

Rydym yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr gemau i droi ysbrydoliaeth yn realiti, gan ehangu eu potensial mewn sector sy’n newid yn gyflym.

Cadwch mewn cysylltiad

Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am y sectorau creadigol? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.