Cynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yw'r platfform blynyddol mwyaf o ddatblygwyr gemau fideo proffesiynol, a’r uchafbwynt ar gyfer arddangos rhagoriaeth yn y diwydiant. Mae'n naturiol, felly, y byddai cwmnïau gemau mwyaf a disgleiriaf Cymru eisiau – ac yn haeddu – mynychu'r gynhadledd hon sy'n canolbwyntio ar ddysgu, ysbrydoli a rhwydweithio.

Wedi'i lansio ym 1988 fel Cynhadledd Datblygwyr Gemau Cyfrifiadurol, mae'r digwyddiad yn hanfodol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant sy'n ceisio denu sylw, cefnogaeth, dyrchafiad a hygrededd. Dros y blynyddoedd diwethaf, cynhaliwyd y gynhadledd yn San Francisco gan ddenu dros 29,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant gemau yn 2019. Maent i gyd yn dod at ei gilydd i fynychu arddangosfeydd, digwyddiadau rhwydweithio, sioeau gwobrwyo ac amrywiaeth o ddarlithoedd a sgyrsiau dan arweiniad arloeswyr y diwydiant mewn pynciau fel rhaglennu, dylunio, sain, cynhyrchu, busnes a rheoli, a'r celfyddydau gweledol.

Mae'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi mynychu ers sawl blwyddyn fel rhan o dîm ehangach y DU ac Iwerddon. Yn 2017, penderfynodd Cymru fynd ati i gynnal stondin pwrpasol Pafiliwn Cymru yn y digwyddiad. Roedd yn ffordd wych o ddenu sylw pwysig at Lywodraeth Cymru a thîm y diwydiannau creadigol ar y pryd. Roedd y stondin yn amlwg oherwydd ei natur agored, felly roedd mynychwyr y gynhadledd yn gallu rhwydweithio'n hawdd gyda stiwdios a gweithwyr proffesiynol Cymru, a chafwyd cyfanswm gwerth o £2.6m o gytundebau yn deillio o weithgaredd cynhadledd 2019.

Diddordeb mewn ymuno? Gall stiwdios yng Nghymru wneud cais i fod yn rhan o’r gynhadledd, ac mae pecyn cymorth hael ar gael gennym ni i helpu gyda mynychu’r digwyddiad hynod werthfawr hwn. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar fynychu, ewch i Business Wales.

Denodd y CDC fwy na 29,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant gemau nôl yn 2019.

Mae’n ffordd gost-effeithiol o ymweld â sioe fasnach fyd-enwog, a gall cwmnïau sy'n cymryd rhan elwa o rwydweithio ac ymgysylltu â busnesau allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad. Mae’n gyfle i rannu gwybodaeth gyda chyfranogwyr eraill, cael sylw mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata, a chael mynediad i systemau paru busnes i drefnu cyfarfodydd cyn teithio.

Mae cael presenoldeb yn y digwyddiadau hyn i ddangos eu gemau fideo yn rhoi'r cyfleoedd gorau i stiwdios arddangos eu cynnyrch a sicrhau naill ai buddsoddiad neu ddod o hyd i ddosbarthwr ar gyfer y gêm. Ar gyfer stiwdios mwy profiadol, fel Wales Interactive ym Mhenarth, gall ddenu sylw a sicrhau rhagarchebion hefyd.

Gall fod yn anodd dod o hyd i gytundebau cyllid yn y diwydiant gemau fideo felly mae mynychu digwyddiadau fel y GDC yn hanfodol i gwmnïau sydd wedi cyrraedd y pwynt datblygu lle gallai sicrhau cytundebau eu galluogi i fynd ymlaen i’r cam nesaf o rhyddhau eu cynnyrch yn fasnachol. 

Mae’r cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo cwmnïau i fynychu yn hanfodol, gan y gallai mynychu'r digwyddiadau hyn yn unigol fod yn gostus iawn ar gyfer stiwdios bach. Gyda gemau fideo wedi eu hychwanegu’n ddiweddar o fewn ein cyllid cynhyrchu, rydym bellach yn gallu annog cwmnïau gemau fideo i ystyried Cymru fel lleoliad busnes.

 

Diweddariadau o’r Games Developer Conference

  • Yn dilyn y genhadaeth fasnach i’r GDC yn 2024, llwyddodd cwmnïau gemau o Gymru i sicrhau cytundebau gwerth dros £3 miliwn — gan gryfhau safle Cymru yn y farchnad gemau fyd-eang.
  • Yn 2025, bydd 30 o gynrychiolwyr o 15 o gwmnïau Cymreig yn mynychu’r Game Developers Conference.