Mae Cronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd Ffilm Cymru Wales yn cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwyir drwy Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ac arian Llywodraeth Cymru a ddirprwyir drwy Cymru Greadigol. Caiff ei gweinyddu’n llawn gan Ffilm Cymru Wales.
Mae Ffilm Cymru yn buddsoddi mewn ffilmiau naratif gweithredu byw, dogfennol neu animeiddiedig sy’n cael eu harwain gan awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i ddod â’ch ffilm nodwedd yn fyw.
Pwy all wneud cais?
Fel arfer, bydd gan dimau ymgeisio brofiad blaenorol yn y diwydiannau creadigol ac ychydig o brofiad sy’n berthnasol i’r rôl y maent yn bwriadu ei chymryd ar y prosiect. Er mwyn gwneud cais i’r gronfa hon mae'n i chi fodloni’r canlynol:
- Rhaid i chi fod â chynnig ar gyfer un ffilm nodwedd neu ffilm ddogfen nodwedd, gyda’r bwriad o’i rhyddhau yn y sinema
- Talent a anwyd neu sy’n seiliedig yng Nghymru yn rôl y prif awdur, cynhyrchydd a/neu gyfarwyddwr
- Yn gallu gwneud cais drwy gwmni sydd wedi ei gofrestru ac yn cael ei reoli'n ganolog yn y DU. Y cynhyrchydd ddylai arwain y cwmni hwn
- Cynllun dichonadwy i'r ffilm gael ei hariannu'n llawn o fewn chwe mis.
Darllenwch y canllawiau ar gyfer ein meini prawf cymhwysedd llawn. Yn ogystalâ hyn, mae Ffilm Cymru yn canolbwyntio ei fuddsoddiad ar flaenoriaethau cyllido ffilm:
- Gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd
- Ffilmiau, sy'n cael eu harwain gan wneuthurwyr ffilmiau sydd wedi’u tangynrychioli a/neu yr uniaethir â nhw gan gynulleidfaoedd sydd yn draddodiadol wedi tan-wasanaethu gan ffilmiau nodwedd gan gynnwys ffilmiau iaith-Gymraeg
- Ffilmiau sydd â gwerth artistig cryf, sy’n mentro o ran talent, cynnwys neu ffurf y byddai'r sector masnachol yn ei chael yn anoddach i'w cefnogi
- Ffilmiau sy'n darlunio Cymru a diwylliant Cymru mewn ffyrdd newydd ac anghonfensiynol.
Sut i ymgeisio
I gael mynediad at yr holl wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd, ac i wneud cais am y cyllid hwn, ewch i wefan Ffilm Cymru Wales.