Rhaglen a lansiwyd gan y Sefydliad PRS yn 2021 yw POWER UP, ac sydd wedi ei dylunio i gefnogi’r gymuned gerddoriaeth Ddu ledled y DU. Nod y fenter yw ymateb i’r rhwystrau arwyddocaol sy’n wynebu crewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du, gan gynnwys hiliaeth ac anghyfiawnder strwythurol a systemig, rhagfarn yn y gweithle, ymyleiddio a thangynrychioli, diffyg gwelededd, anghydraddoldeb economaidd, a buddion ariannol anghyfartal.

Bob blwyddyn, mae’r rhaglen yn dewis dros 20 o grewyr cerddoriaeth Du ac 20 o weithredwyr a gweithwyr proffesiynol Du i gymryd rhan. Dros gyfnod o flwyddyn, maent oll yn derbyn cefnogaeth marchnata, mentora, mynediad at bartneriaid y rhaglen a rhwydwaith ehangach POWER UP, a chefnogaeth ariannol o hyd at £15,000.

Ers ei lansiad, mae POWER UP wedi cefnogi hyd at 120 o unigolion. Fel rhan o’n hymroddiad i ddatblygu a chefnogi’r diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru, rydym yn rhan o’r garfan o bobl sy’n cefnogi’r fenter.

Meddai Yaw Owusu, Uwch Reolwr POWER UP, “Mae gan Cymru Greadigol rwydwaith anhygoel ac mae’n sefydliad credadwy sy’n gwneud gwaith neilltuol yng Nghymru, felly mae’n gwneud synnwyr ein bod yn cydweithio ac yn gwneud hyn gyda’n gilydd. Mae angerdd y tîm tuag at gerddoriaeth a gwella’r cyfleoedd creadigol a gyrfaol ar gyfer crewyr cerddoriaeth yn ysbrydoledig ac yn gweddu’n berffaith â’n nod ni o sicrhau bod crewyr cerddoriaeth Du yn cael cyfleoedd teg a chyfartal.” 

Mae gwahoddiad i grewyr cerddoriaeth Du a gweithwyr proffesiynol Du ar draws pob genre o gerddoriaeth ymgeisio ar gyfer y rhaglen. Mae nifer o artistiaid mwyaf newydd a chyffrous Cymru wedi ymgeisio a chymryd rhan yn POWER UP, gan gynnwys Lekan Latinwo, Tumi Williams, Mace The Great, L E M F R E C K, Aleighcia Scott a Kima Otung.

Mae Yaw yn credu bod y rhaglen yn hanfodol ar gyfer crewyr Du ifanc: “Rydym yn ymwybodol bod y rhwystrau a’r heriau hyd yn oed yn fwy i rai sy’n byw mewn dinasoedd a threfi y tu hwnt i Lundain. Felly mae’n rhan allweddol o’n gwaith rŵan i sicrhau bod menter POWER UP yn helpu’r bobl hyn.

Rydym wedi gwneud llawer o waith targedu pwysig yng Nghymru, mewn partneriaeth â Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn ein tyb ni wedi cael effaith fawr ar y crewyr cerddoriaeth yr ydym wedi gweithio gyda nhw – gan eu cyflwyno i’r rhwydwaith, ariannu prosiectau a gweithgareddau, dysgu sgiliau newydd, mentora, arddangos eu gwaith a llawer mwy. Rydym yn credu mai’r gefnogaeth benodol yma, sy’n edrych ar y darlun llawn, yw’r ffordd ymlaen.”

Buom yn siarad gyda’r artist a’r cyflwynydd o Gaerdydd Aleighcia Scott –  a chafodd ei albwm cyntaf ei ystyried ar gyfer Grammy  – am ei phrofiad hi gyda’r fenter.

Meddai, “Fel artist o Gymru – ac yn benodol yn grëwr cerddoriaeth Du yng Nghymru – mae’n anoddach i ni gymryd y cam nesaf gan nad yw bob amser ar gael i ni. Mae rhaglen POWER UP a’r nawdd yn rhoi cyfle i ni fynd â’r celfyddyd i’r lefel nesaf.”  

I Aleighcia, mae’r nawdd wedi cael ei ddefnyddio i ariannu taith, sydd yn ôl Aleighcia wedi “cyflwyno perthnasau rhwng dinasoedd gwahanol a chodi pontydd mwy i artistiaid o Gymru.”

Yn ogystal â’r nawdd, roedd y gefnogaeth busnes hefyd yn hanfodol yn ôl Aleighcia: “nid yn unig mae modd cael nawdd, ond rydych hefyd yn cael mynediad at fentora a gweithdai. Mi fyddwn ni’n dweud wrth unrhyw un sy’n meddwl mynd amdani i wneud cais, 100%. Mi fydd yn mynd â’ch celfyddyd i’r lefel nesaf.”

Nawr, yn fwy nac erioed, mae cerddoriaeth Gymraeg yn tyfu, yn enwedig felly cerddoriaeth Du Cymraeg. Dyw rhai o’r straeon hyn prin wedi cael eu hadrodd, felly mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi ynddynt gan eu bod yn mynd â Chymru i’r byd. Mae gennym artistiaid fel Mace the Great a L E M F R E C K, maen nhw’n dod yn adnabyddus ledled y byd rŵan ac yn rhoi cerddoriaeth Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Dyna pam ei fod mor bwysig i Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru i gefnogi POWER UP a bod yn rhan o hynny – i ddangos i bawb mai dyma Gymru, a dyma sydd ganddom i’w gynnig.”

Os oes gennych ddiddordeb ymgeisio ar gyfer y rhaglen, ewch draw i wefan Sefydliad PRS . Yno gallwch ddod o hyd i fanylion ymgeisio, yn ogystal â chanllaw ar sut i ymgeisio 

 

Mi fyddwn ni’n dweud wrth unrhyw un sy’n meddwl mynd amdani i wneud cais, 100%. Mi fydd yn mynd â’ch celfyddyd i’r lefel nesaf."

Straeon cysylltiedig