Fy enw i yw Ryan ac rwy’n dod o dref fach o’r enw Hirwaun. Roeddwn i'n byw yno am rhan fwyaf o’m mywyd ifanc nes i mi ddechrau teithio. Roeddwn mewn band o'r enw Funeral for a Friend - a dwi nôl yn y band erbyn hyn. Ry ni wedi cael ein llusgo allan o ymddeoliad; mae'n hwyl.

Nes i adael y band yn 2011 i fynd i fyd rheoli artistiaid. Roeddwn yn byw yn Llundain nes 2018, yn gweithio yn Raw Power Management. Yna dechreuais fy nghwmni rheoli fy hun o’r enw Future History Management ac rydym wedi bod yma ers hynny.

Roeddwn i dal yn Funeral for a Friend pan ddechreuais fy ngyrfa rheoli. Roedd cymaint o fandiau cŵl yng Nghymru ac roeddwn eisiau eu helpu – fel Tiger Please a ddaeth yn The People The Poet!, Straight Lines a Cuba Cuba a ddaeth yn Safari Gold. Erbyn 2011, roeddwn eisiau rheoli llawn amser. Sydd wedi fy arwain at le ydw i heddiw.

Roeddem yn mynd i wneud rhai gigs Funeral for a Friend nol yn 2020, ond oherwydd y pandemig symudodd y daith i fis Mawrth 2022. Roeddwn yn deffro ac yn treulio cymaint o'r diwrnod ag y gallwn ar y gwaith rheoli - roeddwn yn rheoli bandiau yn America ar yr un pryd ag Awstralia a'r DU. Roeddwn yn gweithio nes y soundcheck ac yna ar y llwyfan gyda'r band.

Mae dal gigs gyda ni yma ac acw. Fuon ni'n chwarae gyda My Chemical Romance yng Ngerddi Sophia ym mis Mai. Fe wnaethon ni deithio gyda nhw o’r blaen, felly roeddwn ni'n edrych ymlaen at hynny. A Download Festival ym mis Mehefin.

Dechreuodd Ryan Richards ei yrfa reoli er mwyn helpu artistiaid Cymreig eraill.  

Hyd yn oed cyn i mi ddechrau rheoli, roedd y band wastad yn ceisio codi proffil artistiaid Cymraeg eraill. Os ewch drwy hen bosteri ein teithiau, anaml iawn nad oedd artist o Gymru yno – fel The Blackout, Kids in Glass Houses, Straight Lines, Attack Attack a Dopamine. Roedd y bandiau yn wych. Mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i deithio'r byd.

Funeral for a Friend oedd yr ysgogiad i’r byd rheoli. Roedd cymaint o fuddugoliaethau bach arbennig, fel y cylchgrawn cyntaf i chi fod ynddo, y tro cyntaf i ryddhau CD, arwyddo gyda label recordio, neu eich gig neu daith gyntaf yn Ewrop. Roeddwn eisiau eu hail-fyw. Mae hynny'n gymhelliant gwych i wneud yr hyn rwy'n ei wneud: i allu rhannu'r eiliadau hynny a byw profiadau gyda’r bandiau rwy'n gweithio â nhw.

Rwy’n falch iawn o nifer o bethau. Mae Holding Absence yn America ar eu taith gyntaf yn yr UDA ar hyn o bryd, a band arall allan yna o'r enw Loathe. Mae'n braf dangos i'r byd beth rydym yn ei wneud yng Nghymru. Dwi hefyd yn mwynhau gweithio gyda Bullet for My Valentine – nhw oedd yr act Cymraeg gyntaf i gael albwm rhif un yn Awstralia. Roedd hynny'n anhygoel.

Yn sicr mae llawer o bethau da yn dod allan o Gymru. Mae’r seilwaith da sydd gyda ni’n helpu hefyd. Ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd mae gennych Clwb Ifor Bach, The Moon, Tiny Rebel a Fuel. Mae Hobos ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn Abertawe, mae gennych chi Sin City a The Bunkhouse. Mae Dinbych-y-pysgod yn cynnal llawer o gigs, ac mae Le Public Space yng Nghasnewydd. Mae gymaint o gefnogaeth yn y sin, gyda phawb yn gefn i’w gilydd.

Mae tîm Cymru Greadigol wedi bod o gymorth mawr o ran cyllid a chymorth, ac mae’r gefnogaeth yn parhau. Roeddent yn help mawr gyda chais y Gronfa Momentwm ar gyfer un o’n bandiau, Those Damn Crows. Mae hynny wedi eu galluogi i wneud record safonol gyda chynhyrchwyr, stiwdios a chymysgwyr o safon fyd-eang. Roedd yr albwm yn rhif 14 yn siartiau albwm swyddogol y DU, a maen nhw wedi perfformio fel y prif fand yng Nghastell Caerdydd. Mawr yw eu dyled i Cymru Greadigol am popeth maen nhw’n neud. Ac mae hynny'n hynod gyffrous i mi.

Eisiau darganfod mwy am waith Ryan yn Future History Management? Ewch i'w gwefan.