Jayce Lewis ydw i. Offerynnwr, artist unigol a chynhyrchydd cerddoriaeth o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru. Dwi hefyd yn berchennog ar Northstone Studios  sydd yn stiwdio recordio genedlaethol, ac ar fin dod yn un rhyngwladol.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn llawn ysbrydoliaeth. Wedi teithio’r byd - dwi wedi anghofio sawl gwlad dwi wedi ymweld â nhw erbyn hyn - dwi’n gwerthfawrogi pa mor ffodus ydw i. 

Fe ddechreuodd y cyfan i mi pan oeddwn i’n chwech oed pan welais Queen yn chwarae’n Live Aid. Roeddwn wedi fy swyno gan y band, sŵn gitâr Brian May, a'r rheolaeth oedd gan Freddie Mercury dros y dorf. Yn eironig, mi gefais i weithio gyda nhw yn ddiweddarach. Fe wnaethom ni ysgrifennu cerddoriaeth gyda'n gilydd; Brian, fi a Roger Taylor. 

Dwi wastad wedi cael y weledigaeth hon o weithio ym myd cerddoriaeth. Gan fy mod mewn sawl band, roeddwn i'n lwcus i gael fy narganfod gan EMI Records yn 2008 – y cwmni recordiau hynaf yn y byd ar y pryd.

Fe wnaethant fy arwyddo ac roedd gennym albwm yn y 10 uchaf, a rhaglen ddogfen gerddoriaeth ar BBC One ar y llwyddiant a gefais yn y Dwyrain. Wrth edrych yn ôl ar y cyfan, mi fyddwn i wedi hoffi pe bawn i wedi mwynhau mwy. Ar y pryd, dim ond cyffro gwyllt oedd o. Rydych chi'n ysu i gael eich cydnabod ac i bobl ddeall eich cerddoriaeth. Ond i mi, roedd y pwysau'n wahanol i unrhyw gyfnod arall yn fy mywyd. Gwallgofrwydd llwyr, ond da.

Ond doeddwn i ddim yn gyffyrddus gyda’r sylw. Cymrais gam yn ôl a sylwi, yn y pen draw, mai dim ond nerd cerddorol oeddwn i oedd wedi cael fy siâr o lwc. Dwi wrth fy modd hefo’r wyddoniaeth tu ôl i gynhyrchu sŵn da. Aeth EMI i’r wal, ac fe gollais fy nghytundeb hefo nhw. Cefais fy arwyddo gan Universal Music Group, ond erbyn hynny roeddwn eisoes wedi dechrau ar fy nghynlluniau i greu Northstone Studios.

Mae wedi bod yn ddi-stop ers i ni agor ein drysau yn Awst 2016, oni bai am gyfnod y pandemig, wrth gwrs.

Yn Northstone Studios, mae Jayce yn ffocysu ar greu sain analog trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Dw i wedi creu fy albymau yn Northstone Studios. Ry’ ni wedi cael Gary Numan draw, ac fe wnaethom ni recordio’r llais iddo. Mae’n ffrind da, ac yn siŵr o ddod yn ôl i recordio ei record nesaf. Dw i wedi cael Burton o Fear Factory yma hefyd, fe wnaethom albwm hefo’n gilydd. Acid Rain, hefyd, a Roger Taylor a Brian May. Yr ymgais i wneud cerddoriaeth wych ydi’r ysbrydoliaeth; mae hynny wedi bod yno erioed. Dwi'n mwynhau gallu addasu i bob artist neu fand i gyflawni'r hyn y maent am ei gael. Mae'r her yn wych.

Mae'r stiwdio'n tyfu'n gyflym. Cyn bo hir, bydd Stiwdio Northstone yn yr Alban, a Manhattan, hefyd. Mae sain a chynhyrchiad arbennig yno, yn bennaf drwy'r awyrgylch drwm, a dwi am greu hynny ym mhobman. Mae i gyd am gyflawni sain analog drwy dechnoleg ddigidol fodern.

O ran y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru - mae’r uchelgais yn enfawr yma. Mae pawb eisiau gwneud yn dda.

Ble bynnag dwi’n mynd, mae pawb yn gwybod am Gymru unai trwy actorion fel Michael Sheen, neu gerddorion fel Stereophonics, Funeral for a Friend, neu fi. Dyma wlad y gân.

Mae Gary Numan yn deud bod hi’n hawdd dweud fy mod i’n Gymro gan fod gen i lais canu cyfoethog Cymreig. Mae canu yn ein gwaed ac mae bod yn Gymreig yn dod law yn llaw â chantorion gwych, ein corau a'n hanthem genedlaethol. Mae'n iasol.

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn rhan o Northstone o’r dechrau un, trwy roi swm bach o arian i gychwyn y prosiect. Mae eu cymorth, eu hamcanion, a’u cefnogaeth barhaus yn anhygoel.

Roedd COVID yn gyfnod anodd i ni gyd. Roedd yn rhaid i mi gau drysau’r stiwdio. Ond, roedd Cymru Greadigol yn gefnogol iawn gan gynnig buddsoddi mewn offer i’r stiwdio. Maent yn cydnabod bod y diwydiannau creadigol yn hanfodol. Maent newydd roi cymorth ariannol i mi ac ambell stiwdio a fan ymarfer arall yng Nghymru i’n rhoi ni ar ben ffordd. Mae Northstone Studios yn gallu ehangu oherwydd y gefnogaeth yma, sydd yn wych.

Maent yn ymddiried ym mhob unigolyn i wneud yn dda o fewn y sector diwydiannau creadigol yma - maent yn gwneud gwyrthiau i’r diwydiant.

Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio ar fy albwm newydd. Dwi hefyd yn gweithio ar rywbeth arall - un o’r pethau mwyaf i mi weithio ar hyd yn hyn, ond galla i ddim deud gyda phwy! Mae’n wych bod y stiwdio a Chymru yn gallu gweithio ar y prosiect yma, felly cadwch lygad allan am fwy o fanylion.

I wybod mwy am waith Northstone Studios, ewch i’w gwefan.