Hysbyseb Preifatrwydd Marchnata ac Ymchwil Cymru Greadigol

Mae tîm Cymru Greadigol yn parchu ac yn dymuno diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Fel rhan o'n darpariaeth, weithiau bydd angen i ni brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch chi.

Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau a'i chyfrifoldebau fel rhan o'i thasg gyhoeddus. Ni fyddwn yn marchnata ein gwasanaethau i chi heb gael eich caniatâd yn gyntaf.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r data personol sy’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio gan Cymru Greadigol at y dibenion sydd wedi eu rhestru isod.

Cylchlythyr Marchnata Diwydiannau Creadigol Cymru Greadigol

Os byddwch yn ymuno â Chylchlythyr Marchnata Diwydiannau Creadigol Cymru Greadigol yna byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i weinyddu'ch cyfrif ac i ddarparu'r cynnyrch a'r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni.

O bryd i’w gilydd, byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth atoch am y diwydiannau creadigol yng Nghymru fyddwn ni’n teimlo sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys astudiaethau achos, mentrau a digwyddiadau newydd y gallai fod yn berthnasol i’ch rôl, math o gwmni, a’ch lleoliad. Bydd y wybodaeth hon wedi'i hanelu'n benodol at sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, gan adeiladu ar lwyddiant presennol a datblygu talent a sgiliau newydd – gan wneud Cymru yn un o'r llefydd gorau i fusnesau creadigol leoli a ffynnu.

Mae croeso i chi ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw e-bost fyddwch chi’n ei dderbyn gennym ni, neu gallwch anfon e-bost atom yn cymrugreadigol@llyw.cymru.

Yn dilyn arfer safonol y diwydiant, pan fyddwch yn datdanysgrifio bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw ar restr yn ein system i sicrhau nad ydych yn derbyn e-byst gan Cymru Greadigol eto.

Ymchwil Rhanddeiliaid Cymru Greadigol

Byddwn yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella ein gwasanaethau a'n polisïau. Mae cwblhau'r holiaduron hyn yn wirfoddol. Gall y wybodaeth sydd yn yr holiaduron gael ei rannu gyda chwmni ymchwil dan gontract i'w werthuso ar ein rhan, ac os ydych wedi cytuno i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil, yna efallai y cewch eich dewis i dderbyn arolygon ymchwil eraill sy'n gysylltiedig â diwydiannau creadigol.

Byddwn yn rhoi cyfle i chi adnewyddu eich cytundeb i gymryd rhan mewn ymchwil ar ôl tair blynedd, ond mae hyn yn wirfoddol. Gallwch ofyn am gael eich tynnu oddi ar y rhestr ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost at cymrugreadigol@llyw.cymru.

Adborth Gwefan Beta Cymru Greadigol

Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i helpu i wella gwefan Cymru Greadigol yn ei chyfanrwydd ac ar ran eich math o fusnes a'ch sector creadigol o ddiddordeb. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi rhagor o fanylion ac adborth ychwanegol. Wrth gwblhau’r Adborth Gwefan Beta Cymru Greadigol, bydd eich data yn cael ei gadw tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y wybodaeth o’r ffurflenni adborth yn cael ei rannu gyda chwmni ymchwil dan gontract i werthuso ar ein rhan.

Er mwyn anfon y wybodaeth berthnasol uchod, bydd angen i ni brosesu y manlynion personol canlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw cwmni
  • Rhif ffôn
  • Côd post
  • Awdurdod lleol
  • Math o fusnes
  • Sector creadigol o ddiddordeb

Bydd eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel a ni fydd yn cael ei rannu gyda unrhyw 3ydd partïon oni bai eu bod yn darparu gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru at y dibenion sydd wedi ei rhestru uchod.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol sydd gan Llywodraeth Cymru amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i (o dan rai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i (o dan rai amfylchiadau) gael eich data wedi ei ‘ddileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os ydych am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Os oes gennych unrhyw bryderon am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru Parc Cathays CAERDYDD CF10 3NQ Cyfeiriad e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data yn y DU:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF

Ffôn – Llinell Gymorth: 029 2067 8400 (Llinell Gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell Gymorth y DU)

Gwefan: www.ico.org.uk