Mae Wythnos Gigfannau Annibynnol yn dychwelyd eleni am ei 10fed blwyddyn. Bydd y dathliad saith diwrnod yn dechrau ar ddydd Llun 30 Ionawr tan ddydd Sul 5 Chwefror, ac mae'r dathliad saith diwrnod yn cael ei gynnal mewn gigfannau cerddoriaeth a chelfyddydol annibynnol ledled Cymru a gweddill y DU.

Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at y rôl sydd gan y gigfannau hyn mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad - o arddangos artistiaid newydd i ddod â phobl at ei gilydd mewn trefi, pentrefi a dinasoedd lleol. I'r rhai sy'n cadw'r gigfannau hyn yn fyw, o'r artistiaid eu hunain i berchnogion gigfannau, y criw a'r gynulleidfa, mae'r digwyddiad yn ddathliad o'n sîn cerddoriaeth fyw ffyniannus.

Dywed Erin Gibson, Rheolwr Gweithrediadau Wythnos Gigfannau Annibynnol, bod yr wythnos "yn gyfle i weld artist mawr mewn lleoliad agos atoch, neu ddod o hyd i'r artist mawr nesaf tra'u bod yn dal i chwarae mewn mannau agos atoch; cyfle i bawb gan gynnwys y gigfannau a'r artistiaid gael hwyl."

Ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed, mae gan y digwyddiad fwy o leoliadau a mwy o sioeau nag erioed o'r blaen. Yng Nghymru, mae Gigfannau Annibynnol wedi dyblu nifer y gigfannau sy'n cymryd rhan. Meddai Erin, "mae gweld gigfannau a chymunedau'n tynnu at ei gilydd ac eisiau helpu ei gilydd ar ôl blynyddoedd anodd wedi gwneud ein tîm deimlo yn gyffrous iawn i fynd allan ar y ffordd a gweld sioeau yn rhai o'n hoff lefydd ledled y DU."

Ein nod yn Cymru Greadigol yw hyrwyddo a dathlu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, felly rydym yn falch o gefnogi'r digwyddiad o flwyddyn i flwyddyn. Meddai Erin, "Mae Cymru Greadigol yn caniatáu i Wythnos Gigfannau Cymru weithio gyda hybiau diwylliannol bach ledled Cymru a gyda'n gilydd rydyn ni'n helpu i annog y genhedlaeth nesaf o ddiwydiant cerddoriaeth Cymru i dyfu. Mae eu cefnogaeth yn ei gwneud hi'n bosib, sy'n golygu cymaint i ni a gigfannau'r wlad."

Er mwyn rhoi blas i chi o'r hyn fydd yn digwydd, rydym wedi dewis ambell leoliad o bob rhan o Gymru sy'n cymryd rhan: CWRW yng Nghaerfyrddin a Dros Ben Tân yng Nghastell-nedd.

Adwaith yn CWRW

Eleni, mae Llysgenhadon Wythnos Gigfannau Annibynnol, Adwaith yn dychwelyd i'w tref enedigol i chwarae yn CWRW, y gigfan llwyddiannus yng Nghaerfyrddin ddydd Sul 5 Chwefror.

CWRW (Y Parrot gynt) yw safle rhai o gigs cyntaf Adwaith. Ers hynny mae'r band sy'n cynnwys Gwenllian, Heledd a Hollie wedi mynd ymlaen i chwarae yn Glastonbury, SXSW a Green Man.

Yn 2022, derbyniodd y triawd gefnogaeth y PPL Momentum Fund tuag at recordio a rhyddhau eu hail albwm Bato Mato ar label o'r De-orllewin, Libertino Records. Enillodd yr albwm y Wobr Gerddoriaeth Gymreig - gan wneud Adwaith yr act gyntaf i gael y wobr ddwywaith.

Yma yn Cymru Greadigol, rydym yn falch o gefnogi mentrau fel Cronfa Momentwm PPL a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig i helpu bandiau ac artistiaid i fynd ymlaen i lefel nesaf eu gyrfaoedd.

Pan nad yw CWRW yn cynnal yr Wythnos Gigfannau Annibynnol, mae'r arbenigwyr cwrw crefft a'r ganolfan greadigol yn cyflwyno rhaglen reolaidd o gigs, perfformiadau byw, a digwyddiadau cymdeithasol. Ewch i'w gwefan i weld rhai o'r digwyddiadau sydd ganddynt eleni.

Parti Ôl-Pync yn Dros Ben Tân

Ym mis Hydref 2022, agorodd drysau Dros Ben Tân, gigfan newydd yng Nghastell-nedd. Mae'r lle bach, agos-atoch yn cefnogi cerddoriaeth newydd ac yn cyflwyno artistiaid o Dde Cymru, a thu hwnt. Yn ogystal â chynnal Sesiynau Sul a digwyddiadau gydag artistiaid lleol yn rheolaidd, maent hefyd yn rhoi lle i fandiau lleol ymarfer.

Fel rhan o'r Wythnos Gigfannau Annibynnol eleni, maent yn cynnal parti pync roc ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn cynnwys Downcast, Big Drink, Jaws of Life, Ignitemares, Save our Ships, Calling all Stations a Failstate.

Swnio fel dy fath di o gig? Ewch i wefan Wythnos Gigfannau Annibynnol  am y manylion llawn. 

Rhestr lawn o leoliadau Cymru  

Gallwch weld dadansoddiad llawn o artistiaid, lleoliadau a gigs ar wefan Wythnos Gigfannau Annibynnol. Am y tro, dyma'r rhestr lawn o leoliadau sy'n cymryd rhan ledled Cymru. 

Clwb Ifor Bach • Cwrw • Dros Ben Tan • Neuadd Ogwen • Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd • Pavilion • Porter's • Sin City • The Bunkhouse • The Gate • The Lost Arc • The Moon • The Queen's Hall • Tivoli • Tŷ Pawb • Tŷ Tawe • Y Selar Aberteifi

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gigfannau Annibynnol 2023 a’r digwyddiadau ledled Cymru, ewch i’w gwefan. 

Dysgwch fwy am Cwrw.

Straeon cysylltiedig