Nia Wyn ydw i. Dwi'n dod o Landudno. Dwi'n byw yn Llundain rŵan ond dwi'n dal i deimlo cysylltiad cryf â'r sin gerddoriaeth Gymreig.

Dwi'n artist soul a neo-soul yn bennaf. Yn fy arddegau roeddwn yn breuddwydio am fod naill ai'n bêl-droediwr neu'n gerddor; y miwsig aeth a hi. 

Mae bod yn artist – a bod yn artist Cymreig – yn bwysig oherwydd mae wastad yn mynd i fod yn rhan ohonof. Dwi wedi ysgrifennu am fy mhrofiadau yn tyfu i fyny yn teimlo'n eithaf pell i ffwrdd o fy hunaniaeth Gymreig. Roeddwn yn cysylltu Llandudno a bod yn Gymraes â’r anawsterau iechyd meddwl gefais, methu â ffitio i mewn, homoffobia a’r stigma. Roeddwn yn ifanc ac yn cael amser caled.

Mi wellais wrth i amser fynd heibio a sylweddoli nad oedd yn ddim byd i'w wneud â bod yng Nghymru. Gallai hynny fod wedi digwydd i mi yn unrhyw le. Dwi wedi edrych ar hynny wrth ysgrifennu; dathlu fy hunaniaeth Gymreig a chynrychioli Cymru. Dwi erbyn hyn yn teimlo'n falch o'm treftadaeth. Mae wedi bod yn bwysig i mi fel artist.

Y gig gyntaf wnaeth deimlo’n arbennig oedd pan ddois yn ôl i Gymru a chefnogi Paloma Faith yn Stadiwm Zip World, Parc Eirias. Roedd hynny'n teimlo’n fawr. Nid oherwydd y gig yn unig ond oherwydd fy mod yn dod yn ôl i Gymru. Roedd cael fy nghân Who Asked You ar drac sain FIFA 21 hefyd yn anhygoel gan fy mod yn gefnogwr pêl-droed mawr. Dwi hefyd wedi bod yn ffodus i gefnogi Paul Weller ar daith, sy’n enfawr.

Mae dathlu ei hunaniaeth Gymreig yn bwysig i Nia fel artist.  

Hyd yn oed os nad yw pobl yn gwrando ar fy nghaneuon, dwi'n falch ohonof fy hun am fod yn agored - yn enwedig ar fy record Take A Seat. Ychydig flynyddoedd yn ôl fyddwn i byth wedi ysgrifennu'r pethau hynny ond unwaith y daeth allan roedd yn rhyddhad ac roedd y teimlad o heddwch yn caniatáu i mi sgwrsio â phobl. Dwi eisiau gallu cyrraedd pwynt lle dwi’n gwneud yr hyn dwi’n ei garu yn llawn amser ac yn gallu darparu ar gyfer fy nheulu. Dwi hefyd eisiau ysgrifennu er mwyn i eraill arallgyfeirio.

Mae llawer yn digwydd yn y sin gerddoriaeth Gymreig nawr. Wrth dyfu i fyny, roedd y ffocws ar Dde Cymru a math penodol o gerddoriaeth. Mae llawer yn digwydd yn y sin Gymreig rwan. Mae llawer wedi newid ers hynny. Dwi'n gyffrous am y ffocws cynyddol ar gerddoriaeth o darddiad Du: rap, hip hop ac R&B. Mae'r maes hwn o gerddoriaeth yn cael cyllid a phlatfform ac mae'r artistiaid yn datblygu. Mae rhai ohonyn nhw yn Llundain yn chwifio baner Cymru. Dydw i ddim yn gweld unrhyw artistiaid Cymraeg yn Llundain sydd ddim yn falch o fod yn Gymry. Dwi'n meddwl efallai fod yna elfen o hiraeth neu eisiau cadw'r agwedd honno ohonoch yn weladwy.

Roedd Gŵyl 6 Music yng Nghymru yn dda i godi proffil artistiaid Cymreig. Ac mae yna lawer o artistiaid Cymreig allan yna hefyd. Dwi wedi sgwennu cân sydd â phont yn Gymraeg a dwi’n gobeithio ei recordio a rhyddhau. Mae fy ffrind L E M F R E C K, wedi gwneud llawer o bethau yn Gymraeg – rhywfaint o’i gerddoriaeth, ond cyfweliadau a gwaith celf hefyd. Mae hynny wedi bod yn ysbrydoledig i’w weld.

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gefnogol iawn gyda phethau fel cynnwys fy nghaneuon ar y rhestr chwarae Spotify. Ond y peth mwyaf yw’r gefnogaeth a gynigir wrth wneud cais am PPL Momentum Fund. Heb y cyllid hwnnw, ni fyddwn wedi gallu mynd ar daith. Roedd yn braf cael yr hwb yna oherwydd mae'r bobl sy'n cael hynny yn parhau ar y trywydd iawn. 

Daeth fy EP, o'r enw Magical Thinking, allan ganol mis Mehefin ac roedd gen i sioe yn y Courtyard Theatre Llundain ar 14 Gorffennaf. Ychydig ddyddiau cyn hynny fe wnes i agor i Paul Weller. Mae'n mynd i fod yn haf prysur.

Ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Talent Newydd Glastonbury, chwaraeodd Nia yn yr ŵyl eleni. Gwrandewch ar ei chaneuon yma.