Yn 2023, fe lansiom ni Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ledled Cymru. Dosbarthwyd cyfanswm o £718,000 i 17 o leoliadau er mwyn eu helpu i aildrefnu a gwella eu cyfleusterau. Un o’r lleoliadau hyn oedd Porter’s yng Nghaerdydd.

landscape view of the empty stage at Porter's music venue

Y llynedd roedd Porter’s, a oedd wedi ei leoli yn Harlech Court ers 2012, yn wynebu’r posibilrwydd o orfod cau wedi i ddatblygwyr gyhoeddi cynlluniau i droi’r adeilad yn floc o fflatiau newydd. Ond ym mis Ionawr 2024, symudodd Porter’s i Barrack Lane, rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib heb ein nawdd yn ôl y perchennog a’r rheolwr, Dan Porter.

portrait of Dan looking relaxed on a chair at Porters
quirky decor at Porters

‘Roedd yn fater o raid i ni pan wnaethom gais am arian o Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol,’ esbonia Dan. ‘Heb y nawdd, mi fyddem wedi gorfod meddwl o ddifrif am barhau neu beidio, felly roedd yn achubiaeth i ni.’

Gyda lleoliad newydd daeth heriau newydd. Gan eu bod nawr wedi eu lleoli yng nghanol y ddinas, roedd ganddynt gymdogion am y tro cyntaf, felly roedd angen arian er mwyn ynysu’r lleoliad rhag sain.

‘Cafodd yr arian ei wario ar sicrhau bod holl ddeunyddiau’r lleoliad – o’r llawr i’r nenfwd ac i fyny’r grisiau hefyd – yn cadw’r sain i mewn,’ esbonia Dan. ‘Roedd yn rhaid i ni fod yn drylwyr o ran sain, felly fe wariwyd yr arian yn bennaf ar warchod ein hunain, a gwneud yn siŵr ein bod yn gymdogion da.’

Yn ogystal ag ynysu’r lleoliad rhag sain, bu’r nawdd hefyd o gymorth i Porter’s i wella hygyrchedd ar gyfer cwsmeriaid anabl yn y lleoliad newydd, gan sicrhau  fod y gofod yn addas ac yn groesawgar i bawb.

Sound equipment and gig posters including Welsh band 'Himalayas' at Porter's music venue

Ers 12 mlynedd, mae Porter’s wedi bod yn un o gonglfaeni sin gerddoriaeth Caerdydd; yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth byw o bob math, chwe noson yr wythnos. Un o’r pethau sy’n ei wneud yn lleoliad unigryw yw eu polisi o beidio codi tâl mynediad, rhywbeth y maent wedi cadw ato o’r cychwyn cyntaf: ‘Os na fedrwch chi fforddio tâl mynediad i rywle, neu os yw pris tocyn yn ormod, o leiaf fe allwch chi ddod i weld y band yma,’ meddai Dan. 

Ond mae Porter’s yn fwy na lleoliad cerddoriaeth; mae’n hwb ar gyfer y gymuned gelfyddydol – mae eu hymrwymiad i feithrina talent newydd i’w weld yn glir yn eu cynlluniau i greu gofod yn y seler a stiwdio ymarfer.

Mae ymroddiad Dan i’r gymuned gelfyddydol yng Nghymru’n amlwg ‘Pan nes i agor Porter’s, ro’n i wastad am iddo fod yn rhywle roedd pobl yn dod iddo ar eu taith tuag at bethau a llefydd mwy. Dwi’n dal i gredu hynny; dyna’r yw’r uchelgais o hyd. I mi, y nod yw rhoi cyfle i bobl ddatblygu i fod yn pwy bynnag maen nhw isio bod,’ meddai.

‘Petai rywun yn meddwl am wneud cais am nawdd gan Cymru Greadigol, fe fyddwn i’n dweud ewch amdani. Mae’n angenrheidiol, oherwydd heb leoliadau ar lawr gwlad, fydd artistiaid y dyfodol ddim yn bodoli. Neu, fe fyddwn ni’n gweld llawer o artistiaid tebyg i’w gilydd. Fyddai’r cyfle yna i fod yn unigryw ddim yno yn yr un modd. Felly i mi, mae’n rhaid i’r llefydd hyn fodoli.’

‘Petai rywun yn meddwl am wneud cais am nawdd gan Cymru Greadigol, fe fyddwn i’n dweud ewch amdani. Mae’n angenrheidiol, oherwydd heb leoliadau ar lawr gwlad, fydd artistiaid y dyfodol ddim yn bodoli."  

red sign with black writing saying 'GiG Space'

Nid Dan yw’r unig un sy’n credu hyn. Mae Alexandra Jones, rheolwr Prosiect Forté Beacons Cymru yn cytuno.

‘Mae’n gwbl hanfodol bod lleoliadau fel Porter’s yn bodoli,’ meddai. ‘Mae’n chwarae rhan allweddol wrth feithrin a chynnal y gymuned gelfyddydol a cherddorol yng Nghymru. Maen nhw’n rhoi llwyfan i artistiaid newydd a phrofiadol fel ei gilydd, sy’n rhoi cyfle i’r artistiaid hynny wedyn gael cynulleidfa, a chynyddu eu dilynwyr.’

‘Mae Porter’s yn cyfrannu i egni diwylliannol De Cymru gan eu bod yn cynnig amrywiaeth mor eang o berfformiadau; mae cynifer o arddulliau a ffurfiau gwahanol yn cael eu cynnwys yn eu nosweithiau cerddoriaeth.

‘Ac maen nhw’n barod i gydweithio ac arloesi; maen nhw’n ymddiried yn yr hyn mae pobl eisiau. Ac mae’n le mawr ar gyfer cymdeithasu, ar gyfer newid a chyfnewid diwylliannol, ac ymgysylltu cymunedol hefyd, sy’n cyfoethogi bywydau pobl.’

atmospheric purple fairy lights inside Porter's showing music posters of various artists

Heb Porter’s, fe fyddai hi’n anodd ar brosiectau fel Forté. Prif nod Forté yw cefnogi pobl sy’n creu cerddoriaeth wreiddiol yng Nghymru ac sydd am gael gyrfa yn y diwydiant. Maent yn gwneud hyn gyda rhaglen gefnogi, sy’n cynnwys tiwtora am y diwydiant cerddoriaeth, adnoddau, sesiynau ysgrifennu caneuon, cefnogaeth llesiant ar ffurf datblygiad proffesiynol a sesiynau meddylgarwch, yn ogystal â chyfleoedd preswyl a chynlluniau mentora wedi eu teilwra.

Meddai Alex: ‘O holl brosiectau Beacon mae’n siŵr mai Forté sydd â’r berthynas hiraf â Porter’s. Mae gennym sesiwn breswyl yno ar yr ail nos Fercher o bob mis ers blynyddoedd.’

‘Mae ein perthynas gyda Porter’s wedi bod o fudd i’n prosiect. Maen nhw wastad wedi ein trin ni, a’r artistiaid yn barchus. Mae gennym ddealltwriaeth rhyngom mai’r hyn rydym am ei greu yw llwyfan saff a chyfforddus ar gyfer talent newydd.’

I Alex, mae’r nawdd yn angenrheidiol er mwyn cynnal effaith diwylliannol, economaidd a chymunedol y lleoliad. Mae’n credu ei fod yn cyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru wrth gefnogi artistiaid newydd, yn cyfrannu at yr economi, yn annog ymgysylltu cymunedol, ac yn gwarchod treftadaeth yr ardal.

Meddai Alex: ‘Rydw i mor ddiolchgar i Cymru Greadigol am gynnig nawdd i leoliadau fel Porter’s. Yn gyntaf mae’n caniatáu Porter’s i fodoli, ond mae hefyd yn caniatáu diwylliant Cymru i ffynnu. Gyda’r nawdd yma, gall y lleoliad fuddsoddi mewn mentrau fel ein rhai ni a’n sesiynau preswyl byw, sy’n cefnogi ein gwaith hanfodol o feithrin talent.’

‘Mae’r nawdd yn chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith o gefnogi a gwarchod y genhedlaeth nesaf o gerddorion ac artistiaid gan nad dim ond y rhai cyfredol maent yn eu cefnogi; maen nhw hefyd yn cefnogi’r bobl sy’n dod i wylio’r perfformiadau, ac yna’n cael eu hysbrydoli i wneud yr un fath eu hunain.’

‘Hefyd, mae Porter’s yn cyflogi cerddorion, artistiaid, technegwyr sain, yn ogystal â rhagor o bobl o’r diwydiant cerddoriaeth, felly mae’r nawdd gan Cymru Greadigol yn cyrraedd pocedi llawer iawn o bobl greadigol, onest a hyfryd sy’n gweithio’n galed iawn.’

 

black sign with a gold P outside Porter's, Cardiff
clapper board on a shelf inside Porter's

Os oes gennych chi ddiddordeb clywed mwy am y cynlluniau ariannu amrywiol sydd ar gael gan Cymru Greadigol, ewch i’n tudalen Ariannu a Chefnogaeth. Mae yno wybodaeth am nawdd a’r adnoddau sydd ar gael ar draws ein sectorau, o gerddoriaeth i ffilm a theledu. Cofiwch fod y cynlluniau ariannu hyn yn agor a chau yn

Dilynwch ni

Straeon cysylltiedig