Yn Awst 2021 lansiwyd y Honey Sessions gan Beacons – sefydliad sy’n annog pobl ifanc i mewn i’r diwydiant cerddoriaeth – gan roi cyfle i gyfansoddwyr, artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr prosiect sydd eisiau gweithio ym myd hip hop, rap a grime, R&B a cherddoriaeth bop yng Nghymru.

Y cerddor a swyddog Beacons, Sizwe Chitiyo, sy’n arwain a rhoddodd y prosiect cychwynnol gyfle i bum artist ifanc a phum cynhyrchydd ifanc rhwng 16-26 oed gydweithio i greu cerddoriaeth newydd. Diolch i weithwyr proffesiynol y diwydiant, rhoddwyd cymorth, mentoriaeth ac arweiniad i’r unigolion talentog i hybu eu gwybodaeth o’r diwydiant cerddoriaeth – gyda phwyslais arbennig ar y genre MOBO. Canlyniad y prosiect? Casgliad amrywiol o gerddoriaeth newydd o Gymru, ochr yn ochr â gwybodaeth a rhwydweithiau newydd.

Mae The Honey Sessions yn cynnig cymorth a chefnogaeth i gerddorion y dyfodol.

Ar ben creu cerddoriaeth, mae pawb sy'n cymryd rhan hefyd yn cael mynediad at sgyrsiau gan arbenigwyr yn y diwydiant - gan gynnwys gweithwyr proffesiynol o Sony Music. Mae pynciau’r sgyrsiau yn amrywio o sgowtio talent ac A&R i wybodaeth am gyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo a dosbarthu.

Yn 2021, ariannom elfen o’r rhan gyntaf o’r Honey Sessions. Ein nod oedd cydnabod arwyddocâd y prosiect, ei weledegiaeth a’r hyn mae’n ei gyflawni i bobl ifanc Cymru a thu hwnt.

Eisiau gwybod mwy am y Honey Sessions? Ewch i’w gwefan.