Dros saith diwrnod yn Ebrill 2022, bu dros 150 o artistiaid yn perfformio mewn 29 digwyddiad, mewn 12 lleoliad ledled Caerdydd. Roedd yr ŵyl yn gyfle i ddangos gwir ehangder ac amrywiaeth ein talent, o gerddoriaeth metel trwm i jazz, pop i werin, o gerddoriaeth grime i ddawns electronig.

Cafodd yr Ŵyl Ymylol ei guradu a’i chynnal gennym ni i gyd-fynd a Gŵyl BBC 6 Music - digwyddiad cerddoriaeth amgen adnabyddus sydd wedi teithio dinasoedd o bob cwr o’r DU ers 2014. Eleni, daeth yr ŵyl ag enwau mawr y sin i Gaerdydd gan gynnwys Little Simz, IDLES, Bloc Party, Self Esteem a Johnny Marr.

Gyda'r ŵyl yn dod i Gymru, roeddem yn awyddus i wneud yn siŵr bod artistiaid diweddaraf y sin Gerddoriaeth Gymreig a lleoliadau cerddoriaeth annibynnol Caerdydd yn gallu chwarae eu rhan. Felly, fe wnaethom gyflwyno'r syniad o ddigwyddiadau Ymylol – oedd yn cael ei hyrwyddo o dan yr un faner, ond yn caniatáu lleoliadau lleol i ddewis pa bynnag sioeau yr oeddynt yn dymuno, a hynny yn rhad ac am ddim.

Roedd cydweithio yn allweddol i lwyddiant yr Ŵyl Ymylol. Rhoddodd Cyngor Caerdydd gymorth ac arbenigedd mewn ac fe chwaraeodd y prifysgolion lleol rôl flaengar. Fe wnaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel JOMEC - bartneru hefo Cymru Greadigol i redeg digwyddiad newyddiaduraeth cerddoriaeth gyda myfyrwyr yr ysgol yn gyfrifol am sylw'r wasg.

 

Cynhaliwyd yr Ŵyl Ymylol mewn lleoliadau ledled Caerdydd ym mis Ebrill 2022.

Fe wnaeth Prifysgol De Cymru ymgorffori ei gŵyl flynyddol ei hun, sef gwyl Immersed! – gan gynnal gigs ychwanegol a chodi arian i’r Teenage Cancer Trust. Cafodd y sefydliad dielw FOR Cardiff gyllid a chefnogaeth i greu rhifyn arbennig o Minty’s Gig Guide ar gyfer yr ŵyl. Fe wnaeth Cymru Greadigol ddarparu tocynnau am ddim i Ffrindiau Gigiau Cymru hefyd, cynllun cyfeillio sy'n paru gwirfoddolwyr â chefnogwyr cerddoriaeth ag anableddau dysgu.

Ar ôl dwy flynedd o ohirio gigs yn ystod pandemig Cofid-19, yr Ŵyl Ymylol oedd y dathliad cerddorol roedd y sin gerddoriaeth yng Nghymru wedi bod yn aros amdani. Roedd pob sioe bron yn llawn, gan ddod â bwrlwm yn ôl i leoliadau oedd wedi bod ar gau neu yn gweithredu o dan reolau llym. 

I’r artistiaid, gan gynnwys Minas, L E M F R E C K, a Rona Mac, roedd yn llwyfan i gael eu gweld, eu cydnabod, ac i ddod o hyd i gefnogwyr newydd a chysylltu â nhw wyneb yn wyneb, yn hytrach nag ar lein. I ni, roedd yn gyfle i gefnogi cerddoriaeth o Gymru - nid yr artistiaid a’r lleoliadau yn unig, ond y technegwyr sain, yr hyrwyddwyr a phawb sydd ynghlwm â’r diwydiant. 

Eisiau gwybod mwy? Darganfyddwch rai o’r artistiaid fu’n cymryd rhan ym mhrif gigs Gŵyl Ymylol 6 Music:

  • Mawrth 30: Juice Menace yn Porter’s, gyda Harry Jowett a Noah Bouchard. Sioe wefreiddiol gan rapiwr ifanc amryddawn 
  • Mawrth 31: The Shutdown Show yn The Moon. Eädyth a Izzy Rabey yn cloi gig oedd yn cynnwys rhai o dalent ddiweddaraf a mwyaf addawol MOBO yn Ne Cymru
  • Ebrill 1: Red Telephone, Eye, Foxxglove a Tom Emlyn yn Tiny Rebel. Rhaglen arbennig o amrywiol mewn lleoliad clos yn cynnwys perfformiadau seic-roc, metel prog, pop tywyll a gwerin

 

Straeon cysylltiedig