Mae Cymru wedi hen arfer chwarae ei rhan ar y sgrîn fach neu fawr. Mae ein trefi diwydiannol, tirweddau syfrdanol a stiwdios cynhyrchu arloesol wedi bod yn gefndir i amryw o gyfresi teledu a ffilmiau Hollywood.

Wrth i Gymru barhau i ddenu enwau mawr y busnes gyda’n talent enwog a lleoliadau epig, mae’r diwydiant wedi ffynnu yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2020, fe wnaethom amcangyfrif bod gan y sector sgrîn yng Nghymru drosiant blynyddol o dros £2.2 biliwn - cynnydd o 40% ers 2010. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Gadewch i ni ddarganfod rhai o'r cynyrchiadau gorau sy'n cael eu ffilmio yng Nghymru, o sioeau Cymraeg fel Y Golau i gyfresi Netflix fel Sex Education.

His Dark Materials

Yn 2021, dechreuodd y ffilmio ar gyfer trydedd gyfres His Dark Materials gan Philip Pullman, gyda Chymru'n chwarae rhan ganolog yn y cynhyrchiad. Cafodd y cyd-gynhyrchiad rhwng Bad Wolf a HBO ei ffilmio mewn amryw o leoliadau eiconig ledled y wlad – o strydoedd Caerdydd i fynyddoedd Bannau Brycheiniog. Roedd pencadlys Bad Wolf yng Nghaerdydd – Wolf Studios Wales – yn fan gwych ar gyfer ffilmio. Gan gynnig dros 125,000 metr sgwâr o ofod llwyfan, mae'r stiwdio yn un o'r stiwdios pwrpasol mwyaf yn y DU.

Roedd gennym ni ran i’w chwarae hefyd, gan ddarparu cyllid, cyfleoedd hyfforddi, a gwaith ar leoliad â thâl. Roedd Screen Alliance Wales yn cynnig rhaglenni hyfforddi pwrpasol i gryfhau'r diwydiant ymhellach. Gallwch wylio holl gyfresi blaenorol His Dark Materials ar BBC iPlayer.

HAVOC

Roedd cyffro mawr ar ddechrau 2021, wrth i’r actorion enwog Tom Hardy a Forest Whitaker gael eu gweld yn crwydro trefi, dinasoedd a glannau môr ledled Cymru. Er eu bod siŵr o fod wedi mwynhau ambell i olygfa odidog a chroeso Cymreig yn ystod eu hymweliad, bu’r sêr yn treulio rhan fwyaf o’u hamser yma yn ffilmio ar gyfer y ffilm Netflix newydd, HAVOC.

Y Cymro o Aberdâr, Gareth Evans, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo'r ffilm ar gyfer One More One Productions, gan weithio ochr yn ochr â'r cwmni cynhyrchu o Gymru, Severn Screen, Aram Tertzakian ar gyfer XYZ Films a Tom Hardy. Mae'r stori'n canolbwyntio ar gymeriad Hardy wrth iddo herio’r tanfyd troseddol.

Cafodd y cynhyrchiad gefnogaeth Cymru Greadigol, gan ein galluogi i ddangos potensial Cymru a lleoliadau, cyfleusterau a thalent Gymreig i farchnadoedd rhyngwladol. Cadwch lygad barcud ar Netflix ble bydd y ffilm yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni.

A Discovery of Witches

O Wolf Studios yng Nghaerdydd i Gastell Caeriw yn Sir Benfro a Llyn y Fan Fach yn Sir Gaerfyrddin fe ffilmwyd A Discovery of Witches gan Sky One yn rhai o leoliadau mwyaf hudolus Cymru.

Gyda chyllid a chefnogaeth gynhyrchu gennym ni, cafodd y sioe ei gynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu annibynnol o Gaerdydd, Bad Wolf. Mae’r sioe yn seiliedig ar drioleg ffantasi hanesyddol Deborah Harkness, All Souls, gyda'r stori dywyll yn dilyn yr hanesydd a gwrach, Diana Bishop, wrth iddi geisio datrys dirgelion Ashmole 782.

Ar ôl dwy gyfres gyntaf lwyddiannus, aeth Bad Wolf ymlaen i gynhyrchu'r drydedd, a’r olaf, o gyfresi’r sioe ar gyfer Sky, a gafodd ei darlledu yn gynharach eleni. Mae’r tair cyfres ar gael i chi eu gwylio nawr ar Sky.

Y Golau / The Light in the Hall

Mae’r ddrama chwe rhan, Y Golau / The Light in the Hall, yn adrodd hanes y newyddiadurwraig Cat Donato wrth iddi chwilio am atebion tu ôl i lofruddiaeth ei ffrind. Comisiynwyd y gyfres gan S4C, a’i hysgrifennu a'i chreu gan Regina Moriarty. Ffilmwyd y gyfres yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer S4C, Channel 4, a Sundance Now. Gyda’n cefnogaeth ni, cafodd y ddrama ei chynhyrchu ar y cyd gan y cynhyrchwyr annibynnol Triongl a Duchess Street Productions, mewn cydweithrediad â APC Studios.

Yn ogystal ag arddangos yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ar lefel ryngwladol, roedd y ddrama afaelgar hon hefyd yn rhoi cyfleoedd â thâl i'r rhai dan hyfforddiant a oedd yn awyddus i ddatblygu eu profiad yn y sector sgrîn yng Nghymru. Y bwriad yw darlledu'r sioe hir ddisgwyliedig rhyw dro yn 2022, felly cadwch lygad amdani.

Sex Education

Mae’r gyfres Netflix boblogaidd, Sex Education, wedi ffilmio pob un o’i dair cyfres mewn lleoliadau yn Ne Cymru. Cafodd llawer o olygfeydd eu saethu mewn pentrefi hardd yn Nyffryn Gwy, gan gynnwys cartref trawiadol Otis yn Symonds Yat. Ond bu rhai fel Asa Butterfield (Otis), Ncuti Gatwa (Eric) ac Emma Mackey (Maeve) yn ffilmio mewn pob math o leoliadau Cymreig eraill – o neuadd ysgol ym Mhenarth i ganolfan fowlio yn Nhonyrefail.

Yn ogystal â chefnogi'r cwmni cynhyrchu Eleven Film gyda hyfforddeion cyflogedig, roeddem yn darparu cyllid cynhyrchu ar gyfer cyfres un a thri. Roedd Sgrîn Cymru hefyd yn ein helpu i ddod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer y ffilmio. Gallwch wylio’r tair cyfres ar Netflix nawr. 

The Pact

Yn olaf, dyma The Pact. Cyfres chwe rhan sy’n adrodd stori afaelgar pum ffrind sy’n gysylltiedig â marwolaeth sydyn. Wedi ei gomisiynu gan BBC Cymru Wales a gyda chefnogaeth ariannol Cymru Greadigol, dyma’r cynhyrchiad cyntaf gan y cwmni cynhyrchu o Gaerdydd sydd wedi ei arwain gan ferched, Little Door Productions a sefydlwyd yn 2019.

Yn ogystal ag adeiladu ar bortffolio cryf Cymru o ddramâu teledu Cymreig llwyddiannus fel Y Gwyll / Hinterland a Craith / Hidden – mae The Pact yn enghraifft arall o'r criw talentog sydd ar gael ar gyfer cynyrchiadau ffilmio ledled Cymru. Gwyliwch The Pact nawr ar BBC iPlayer.