Fy enw yw Gwen Thomson a dwi’n artist sy’n gweithio ym myd ffilm, theatr ac ychydig mewn teledu hefyd. Cefais fy magu yn yr Alban ond dwi bellach yn byw yng Ngogledd-orllewin Cymru, yng Ngwynedd.

Dechreuais fel technegydd yn y theatr, pan oeddwn yn fy 20au, gan weithio'n bennaf fel technegydd sain mewn sioeau cerdd. Yna fe wnes i rywfaint o waith gyda theledu Albanaidd cyn dechrau hyfforddiant syrcas. Roeddwn yn gwneud gwaith technegol yn y syrcas am 10 mlynedd. 

Roeddwn yn arfer disgrifio fy ngyrfa fel ‘potpourri’ - tipyn bach o bopeth. Ar ôl y sioeau cerdd a theledu, dechreuais gyfarwyddo - theatr a digwyddiadau byw yn bennaf. Yna yn 2019, fe symudon ni yn ôl i Gymru ac fe darodd y pandemig. Yn amlwg, caeodd yr holl theatrau a dyna pryd ddechreuais edrych eto ar ffilm a theledu.

Yn 2020, dechreuais ddysgu am feddalwedd golygu. Cymerais y wybodaeth dechnegol o'r theatr a'i chyfuno â'm gwybodaeth gyfarwyddo o sut i roi stori at ei gilydd.

Sefydlais fusnes bach yn cefnogi cwmnïau amatur a chwmnïau lled-broffesiynol i greu corau rhithiol trwy olygu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae fy ngyrfa wedi newid o fod yn y theatr yn unig i fod yn waith fideo ac ar-lein yn bennaf.

Derbyniodd Gwen fwrsariaeth NFTS i wneud cwrs golygu fideo yng Nghaerdydd.

Cefais fwrsariaeth gan yr NFTS (National Film and Television School) i wneud cwrs golygu fideo. Roedd yn gwrs dri diwrnod yn BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd wedi ei arwain gan olygydd proffesiynol. Roedd yn gwrs sgiliau technegol yn seiliedig ar ddysgu’r meddalwedd golygu ond roedd hefyd yn gyfle i eistedd mewn ystafell gyda’r golygydd a gofyn - pa ddewisiadau creadigol fyddech chi’n eu gwneud? Sut ydych chi'n dewis pa straeon i'w hadrodd yn One Born Every Minute? Roedd yn gyfle da iawn i brofi systemau darlledu.

Heb y fwrsariaeth NFTS ni fyddwn wedi gallu gwneud y cwrs. Fel gweithiwr llawrydd, mewn diwydiant newydd, ni fyddai wedi bod yn bosib. Os nad yw’n bosib cael swydd llawn amser gyda chwmni golygu a fyddai’n talu ar eich rhan - naill ai oherwydd eich bod yn byw yng nghefn gwlad neu fod gennych blant ifanc - yna mae bwrsariaethau yn gwneud cyrsiau fel hyn yn hygyrch. Dwi'n meddwl bod hynny'n wirioneddol bwysig.

Doeddwn erioed wedi ystyried mynd yn ôl i fyd ffilm a theledu ond rydw i wedi cael gymaint o gefnogaeth. Yng Nghymru, mae yna groeso a pharodrwydd am syniadau newydd. Ers byw yma dwi’n gweld bod yna wahaniaeth yn fy agwedd tuag at fy ngwaith hefyd; dwi’n teimlo’n llawer mwy rhydd yn greadigol ac yn y cyfleoedd y gallaf eu creu i fi fy hun. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi bod yn creu ffilm a gefnogir gan raglen Ffolio Ffilm Cymru.

Ar ddechrau'r pandemig roedd yn teimlo bod yna ddiffyg hyder mewn creadigrwydd. Roedd pobl yn gofyn: pam wyt ti’n gwneud hyn? Ai dyma dwi wir eisiau ei wneud gyda fy mywyd? Ond roedd gweld yr angerdd yn llygaid aelodau’r corau rhithiol yn gwneud i mi sylweddoli mai dyma pam roeddwn i’n gwneud hyn. Roeddwn yn ei gwneud hi’n bosib i’r bobl yma ddod at ei gilydd i wneud yr hyn maen nhw’n ei garu. 

Eisiau datblygu eich sgiliau mewn maes creadigol penodol? Dyma restr lawn o gyrsiau NFTS Cymru-Wales

Straeon cysylltiedig