Ym mis Ionawr 2025, bydd Martin Clunes yn cyrraedd ein sgriniau fel Nathan Williams, ffermwr o Gymro sy’n dod wyneb yn wyneb â gangiau llinellau cyffuriau lleol. Gyda’r Gymru wledig yn gefnlen hardd, mae’r ddrama chwe rhan ar ITV1, Out There, yn cyfuno stori galed â darlun real o fywyd ar fferm.

Cyfarwyddwr y gyfres oedd Marc Evans – sy’n enwog am ei ddramâu Cymreig, Steeltown Murders a The Pembrokeshire Murders. Yn Cymru Greadigol, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi rhoi cymorth i’r gyfres. Nid yn unig mae’r ddrama’n amlygu potensial Cymru fel lleoliad ffilmio o’r radd flaenaf, ond mae hefyd yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol, a hynny ar y sgrin ac oddi arni.

Darllenwch fwy i glywed am y lleoliadau gwefreiddiol, y criw medrus, a’r hyfforddeion brwdfrydig a helpodd i ddod ag Out There yn fyw. At hynny, dewch i glywed sut gallwn ni roi cymorth i’ch cynhyrchiad nesaf chi yng Nghymru.

young man raises a clapper board in front of a camera with a tractor and farmland in the background
Ffilmiwyd Out There mewn lleoliadau ar draws canol a de Cymru.

Ble cafodd Out There gan ITV ei ffilmio?

Cafodd y ddrama ei ffilmio yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, a hynny gyda chymorth Cymru Greadigol. Er bod lleoliadau ffilmio mwy poblogaidd yn y de-ddwyrain yn aml yn cael yr holl sylw, llwyddodd Out There i ddangos potensial y canolbarth fel cefnlen ryfeddol i gynyrchiadau ffilm a theledu.

Yn y ddrama, mae pob math o leoliadau yn y Mynydd Du’n ymddangos, a’r rheini’n anghyfarwydd i lawer o bobl. Cawn gip hefyd ar bentrefi a threfi braf Crughywel, Llangatwg, Llys-wen a Llanymddyfri. Ochr yn ochr â’r llefydd prydferth hyn yng nghefn gwlad, ffilmiwyd yn rhai o drefi a dinasoedd prysur Cymru fel Casnewydd, Port Talbot, Abertawe a Chaerdydd.

Ffilmiwyd rhai golygfeydd dan do hefyd yn Dragon Studios – stiwdio ffilm a theledu flaenllaw ar gyrion Caerdydd, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gan y safle bump o stiwdios sydd wedi’u codi’n benodol at y diben, a hynny ar safle 100 acer o faint. Mae’n lle cwbl berffaith i gynyrchiadau sy’n awyddus i ffilmio yng Nghymru.  

Bu Paul ‘Bach’ Davies, rheolwr lleoliadau sydd â deng mlynedd ar hugain o brofiad yn y diwydiant, yn gweithio ar Out There. Meddai Paul: ‘Roedd bod yn rhan o Out There yn wych. Y brif her i mi oedd dod o hyd i’r ddau brif leoliad, sef fferm y prif gymeriad a’r fferm y drws nesaf iddi. Roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn yr un cwm, a chithau’n gallu gweld y naill o’r llall.

'Yn y pen draw, fe ddaethon ni o hyd i’n prif leoliad yn Llangatwg, ac roedd y fferm arall yn Llys-wen wedyn, sydd ryw hanner can munud i ffwrdd. Drwy hud a lledrith triciau teledu a golygu, dyma’u gweu nhw at ei gilydd i ymddangos fel petai’r ffermydd gyferbyn â’i gilydd.’

behind the scenes, a young man steps over a camera line with a tray of food
Roedd y lleoliadau’n cynnwys ardaloedd gwledig yn y Mynyddoedd Duon, yn ogystal â threfi a dinasoedd fel Port Talbot a Chasnewydd.

Dewch i gwrdd â chast a chriw Out There

Ynghyd â Martin Clunes, ymhlith aelodau eraill cast Out There roedd Louis Ashbourne Serkis, yn chwarae mab Clunes. Roedd nifer sêr dawnus o Gymru yn rhan o’r gyfres hefyd, gan gynnwys Mark Lewis Jones, a enillodd wobr Bafta Cymru am yr Actor Gorau yn Yr Ymadawiad; Carly-Sophia Davies, yn ei rhan fawr gyntaf; a Gerran Howell, sydd wedi chwarae’r brif ran yn Young Dracula CBBC.

Y tu ôl i’r llen, creodd y cynhyrchiad lawer o gyfleoedd gwaith yn yr ardal. Roedd 68% o’r criw yn weithwyr proffesiynol lleol, tra rhoddwyd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i egin weithwyr creadigol. Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i feithrin a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, rhoddodd y cynhyrchiad gan ITV1 leoliadau gyda thâl i 14 o hyfforddeion newydd. Drwy’r lleoliadau hyn, fe gawson nhw 126 awr o brofiad ymarferol mewn amryw o adrannau cynhyrchu, gan gynnwys adrannau sain, camera, colur a lleoliadau.

Y tu hwnt i’r prentisiaethau a’r lleoliadau hyfforddi, bu’r gymuned leol yn rhan o’r cynhyrchiad hefyd. Gwahoddwyd plant ysgol i’r set i gael cip y tu ôl i’r llen ar y cynhyrchiad, tra cynigiwyd cyfleoedd profiad gwaith byr i ddau unigolyn a oedd yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd ffilm a theledu.

Chwaraeodd Martin Clunes ran Nathan Williams, ffermwr o Gymru yn delio â bygythiadau gan gangiau llinellau cyffuriau lleol.

Pam fod Cymru yn lleoliad ffilmio ardderchog

Os ydych chi’n chwilio am y lleoliad perffaith i’ch cynhyrchiad nesaf chi, boed yn gyfres deledu, yn ffilm nodwedd neu’n fideo cerddoriaeth, mae’r cyfan ar gael yng Nghymru. O arfordiroedd garw i ddinasoedd prysur, mae gan dirwedd amrywiol Cymru rywbeth i gyd-fynd â phob gweledigaeth greadigol. Yn union fel Out There, sydd wedi dangos prydferthwch a helaethder Cymru fel lleoliad ffilmio, gallai’ch prosiect nesaf chithau elwa o’r hyn sydd gan ein cenedl i’w gynnig.

Felly, os ydych chi’n ystyried ffilmio yng Nghymru, mae modd i Cymru Greadigol helpu drwy wasanaeth Sgrîn Cymru. Drwy ein cronfeydd data defnyddiol, gallwn ni eich cyflwyno i griwiau dawnus, i gyfleusterau arloesol ac i leoliadau trawiadol tu hwnt. Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni ar bob cyfrif, er mwyn clywed sut gallwn ni’ch helpu i gynllunio eich cynhyrchiad nesaf yng Nghymru.  

Hoffech chi wybod mwy am gynyrchiadau eraill sydd wedi’u ffilmio yng Nghymru? Dyma fwy o wybodaeth am y prosiectau creadigol rydyn ni wedi’u cefnogi.   

 

 

Clapper board raised in front of camera, shooting interior kitchen scene of female cast member
Un o’r lleoliadau oedd Eglwys Sant Ilan yng Nghaerffili.

Straeon cysylltiedig