Fy enw i yw Dan Cheesbrough, a fi yw Rheolwr Gyfarwyddwr Hartswood Films. Mae Hartswood yn gwmni hirsefydlog iawn ym maes cynhyrchu gwaith fideo â sgript, ac mae fy rôl yn ymwneud yn bennaf â’r elfennau masnachol a strategol o’n gwaith ni. Mae gennyn ni ddwy swyddfa: un yn Surrey a’r llall ym Mae Caerdydd, ac mae gennyn ni hanes hir o gynhyrchu sioeau ym mhob rhan o Gymru.

Yn ddiweddar, gwnaethon ni ffilmio sioe ddrama-cyffro-arswyd seicolegol ar gyfer y BBC, o’r enw Wolf, o gwmpas De Cymru. Mae wedi cael cymorth gan Cymru Greadigol – roedden nhw’n allweddol o ran ein galluogi i fynd ymlaen â’r cynhyrchiad hwnnw, a fydd yn cael ei ddarlledu flwyddyn yma.

Mae’n gyffrous o’n safbwynt ni oherwydd nid yn unig ydyn ni’n ei ffilmio yng Nghymru, ond mae iddo wreiddiau golygyddol yng Nghymru hefyd. Mae ganddo gast Cymreig cryf; mae ganddo lawer o leoliadau hardd yng Nghymru; mae’n Gymreig i’w graidd a’i galon.

Does ond angen ichi edrych ar y cynyrchiadau sydd wedi cael eu denu i Gymru i wybod a deall bod y criwiau yma ymhlith y gorau yn y byd. Mae’r ymdeimlad o gyfeillgarwch rydych chi’n ei brofi ar gynhyrchiad Cymreig yn rhywbeth sy’n benodol iawn i Gymru.

Mae lleoliadau hefyd yn hollbwysig. Dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi methu dod o hyd i’r lleoliad roedd ei angen arnon ni – a hynny ar gyfer amrediad eang o gynyrchiadau mawr. Y llwyddiant diweddar pwysig yw bod y mynediad i gyfleusterau wedi ehangu – mae’r gallu i wneud yr holl waith ar eich sioe yng Nghymru, nid y ffilmio yn unig, a hefyd gwneud y gwaith ôl-gynhyrchu ar ei chyfer, wedi tyfu’n sylweddol.

Y peth arall yw cysylltedd. Dw i’n gallu cyrraedd Caerdydd ymhen dwy awr a hanner, yn hawdd iawn. Dydy hynny ddim i ddweud nad oes gennyn ni bobl yno – mae gennyn ni’r swyddfa bwrpasol a thimau da ar lawr gwlad, felly.

Two people on set in front of the camera against a backdrop of greenery. One is seated at a wooden table. The other is holder a movie clap board.
Close up, grey-scale shot of Dan Cheesbrough. Dan has short brown hair, a beard, and wears thin brown glasses.
Dan Cheesbrough, a tu ô i'r llenni ar gynhyrchiad diweddaraf Hartswood 'Wolf' 

Pan ydyn ni’n dod â sioe i Gymru i’w ffilmio, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Cymru Greadigol i nodi’r bylchau mewn sgiliau a gwneud yn siŵr bod ein sioe yn creu’r pwyntiau mynediad cywir ar gyfer hyfforddeion. Er enghraifft, mae gan gynhyrchiad fel Wolf lawer o rolau i hyfforddeion – o drydanwyr i chwilwyr lleoliadau i gyfrifwyr cynhyrchu. Rydyn ni wedi buddsoddi cryn dipyn mewn datblygu talent newydd amrywiol o Gymru ym mhob maes.

Mae sicrhau cynrychiolaeth yn rhywbeth rydyn ni’n canolbwyntio arno’n fawr gyda Cymru Greadigol – ffyrdd y gallwn ni wella’r gronfa rydyn ni’n cyrchu hyfforddeion ohoni. Hynny yw, dw i’n golygu pob math o grwpiau nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol, p’un a yw hynny o ran ethnigrwydd, sefyllfa economaidd-gymdeithasol, rhywedd neu oedran.

Gan fod gennyn ni swyddfa yng Nghymru, dan arweiniad cynhyrchydd gwych o Gymru o’r enw Brian Minchin, a hanes o ffilmio yng Nghymru, nid yw peidio â helpu’r genhedlaeth nesaf o dalent ifanc o Gymru yn opsiwn inni. Er ein budd ein hunain, ac yn ehangach er mwyn cefnogi llwyddiant a hirsefydlogrwydd y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru.

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid cynhyrchu gan Cymru Greadigol, mae’n rhaid ichi gyflwyno achos cadarn iawn dros fanteision tymor byr, tymor canolig a hirdymor yr hyn rydych chi’n ei wneud.

Mae’n rhaid ichi ddangos y bydd eich sioe yn arwain y farchnad o ran arferion cynaliadwyedd – mae hynny wrth wraidd yr agenda. Yn ehangach na hynny, mae sgiliau a hyfforddiant yn hanfodol. Mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr y gallwch ddangos bod y cyllid mae Cymru Greadigol yn ei gyfrannu at brosiect yn dwyn manteision gwirioneddol, diriaethol ar lawr gwlad yn yr hirdymor, o safbwynt hyfforddiant.

Yna mae cynrychiolaeth – pan fyddwch yn gweithio gyda Cymru Greadigol, mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr bod y cynhyrchiad yn gwneud popeth oll o fewn ei allu i fod yn rym er daioni a gwella mynediad ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Four people filming next to a river. One person is in shot, while the other three follow – one holds a boom and the other a camera.
Gynhyrchiad diweddaraf Hartswood 'Wolf' 

Ein cais diweddaraf oedd Wolf, y gyfres chwe phennod ar gyfer y BBC y gwnes i sôn amdani yn gynharach. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hon yn sioe a fydd yn rhedeg am amser hir, ar draws sawl cyfres. Y disgwyl yw y bydd yn dychwelyd i Gymru am lawer o flynyddoedd i ddod ac y bydd, o ganlyniad, yn darparu cyfleoedd hirdymor pwysig i hyfforddeion godi trwy’r rhengoedd a chyflawni swyddi’r genhedlaeth nesaf o benaethiaid adran ar draws Cymru. Cyn hynny, yn ystod y cyfyngiadau symud, cawson ni gymorth ar gyfer cynhyrchiad o’r enw Roald and Beatrix: The Tale of the Curious Mouse, sef ffilm deledu Nadolig a wnaethon ni ar gyfer Sky. Roedd yn adrodd hanes Roald Dahl yn cwrdd â Beatrix Potter pan oedd hi tua 60 oed. Roedd hi’n hyfryd adrodd stori am darddiad Roald Dahl o Gymru wrth ffilmio yng Nghymru.

Mae’r cyllid hwn yn hanfodol bwysig, a dydyn ni ddim yn ei gymryd yn ganiataol. Rydyn ni’n deall ei fod yn arian cyhoeddus a bod angen ei ddefnyddio mewn modd sy’n parchu hynny, nawr mwy nag erioed. Byddwn ni bob amser yn gwneud yr achos o blaid y ddadl economaidd, y ddadl ddiwylliannol, y ddadl am gynrychiolaeth – rydyn ni’n credu, yn sylfaenol, ym mhob un o’r elfennau hynny.

I’r rheini sy’n meddwl am wneud cais, byddwn i’n eu hargymell i wneud hynny mewn chwinciad. Mae angen ichi ddeall ei bod yn broses gystadleuol – am reswm da. Ond byddech chi’n ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i dîm mwy cefnogol, mewn unrhyw genedl neu ranbarth, na thîm Cymru Greadigol.

I weld beth sy’n digwydd yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, cliciwch yma

Mae’n cronfa gynhyrchu ar agor i brosiectau sy’n dechrau ffilmio o fis Hydref ymlaen eleni.

 

Straeon cysylltiedig