Mae darlledu a gwneud ffilmiau yng Nghymru yn ffynnu, gyda stiwdios a phobl greadigol yn cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu arobryn, o Y Golau i His Dark Materials. Gyda hyn mewn golwg, mae’r diwydiant angen gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd amrywiol gydag amrywiaeth o sgiliau. Dyma ble gall Cyswllt Diwylliant Cymru helpu.

Er iddo gael ei lansio'n swyddogol ym mis Medi 2021, mae Cyswllt Diwylliant Cymru wedi bod ar y gweill ers 2015 pan gynhyrchodd Diverse Cymru adroddiad ar y diffyg amrywiaeth mewn ffilm a theledu. Er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn, ffurfiwyd Cyswllt Diwylliant Cymru fel menter a llwyfan a arweinir gan y gymuned i annog a hwyluso amrywiaeth yn y sector cyfryngau darlledu. Mae'n gydweithrediad rhwng cymunedau ethnig Cymru, y diwydiant ffilm a theledu, a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Y nod? Dileu rhwystrau traddodiadol sy’n atal mynediad i gymunedau ethnig at y sector, a hynny ym mhob rhan o'r diwydiant, o awduron, ymchwilwyr a chyfarwyddwyr, i gynhyrchwyr, cynorthwywyr wardrob, artistiaid gwallt a cholur, a phob math o rolau gweinyddol. Mae Cyswllt Diwylliant Cymru yn cysylltu cymunedau amrywiol o ran hil â'r sector ffilm a theledu mewn ffyrdd newydd, gan agor drysau i fwy o bobl a gwthio'r diwydiant ymlaen i ddysgu sut i weithio gyda chymunedau o wahanol gefndiroedd ethnig yn y broses.

Gan weithio gyda rai o brif enwau’r diwydiant, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Channel 4, S4C ac ITV Cymru Wales ac eraill, mae Cyswllt Diwylliant Cymru (dan arweiniad Watch Africa Cymru) yn gweithredu fel cydlynydd rhwng y diwydiant ag unigolion. Mae’r wefan yn cynnig arweiniad i’r rhai sydd yn edrych i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiant ffilm a theledu ond sydd yn ansicr pa lwybr i’w ddilyn, yn ogystal â rhestru'r cyfleoedd swyddi diweddaraf i’r rhai sydd eisoes â phrofiad yn y maes.

Nod Culture Connect Wales yw annog a hwyluso amrywiaeth yn y sector ddarlledu yng Nghymru.

Mae lle hefyd i bobl ddangos eu talent trwy broffil personol sy'n tynnu sylw at eu sgiliau, eu profiad a'u cefndir. Ar y llaw arall, gall cwmnïau cynhyrchu a sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant greu eu proffiliau busnes i hyrwyddo hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa hefyd i gysylltu â thalent. I'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant, mae Cyswllt Diwylliant Cymru yn rhoi cymorth ar sut i wneud cynyrchiadau a gweithleoedd yn gynhwysol. Mae’r fenter hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr i gymunedau gael darganfod mwy am weithio yn y sector ffilm a theledu.

Ers ei lansio, mae Cymru Greadigol wedi cydweithio’n agos â Cyswllt Diwylliant Cymru i wireddu eu huchelgeisiau ac amcanion. Yn ogystal â darparu cyllid, sy’n helpu cymunedau, rydym ni hefyd wedi cysylltu Cyswllt Diwylliant Cymru gyda rhai o brif gyrff y diwydiant fel eu bod yn gallu cydweithio gyda nhw.

Yn y pen draw, nod y fenter yw sicrhau bod y straeon rydym ni’n eu rhannu trwy ein diwydiant ffilm a theledu - a’r bobl sy’n eu hadrodd - yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yma yng Nghymru. 

Ewch draw i wefan Cyswllt Diwylliant Cymru i ddarganfod mwy am eu gwaith. Yn y cyfamser, dyma grynodeb sydyn o sut mae’n helpu cymunedau amrywiol yng Nghymru:

  • Mae’n darparu llwyfannau i gymunedau ac i’r diwydiant ffilm a theledu allu cysylltu
  • Mae’n cynnig cyfleoedd i gymunedau amrywiol eu hil i gael mynediad at y sector
  • Mae’n cefnogi’r sector i ddod yn le cynhwysol i weithwyr - ac felly yn le gwell i weithio ynddo