Dyma Afanti Media: y cwmni cynhyrchu teuluol sy’n enwog am greu cynnwys safonol ar gyfer BBC, ITV, Channel 5 a Sky. Ers ei sefydlu gan Emyr Afan a Mair Davies yn 1997, mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn un o gynhyrchwyr teledu annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Bellach mae gan y cwmni weithlu llawn amser o 70, swyddfeydd yng Nghaerdydd, Manceinion a Llundain a nifer o gyfranwyr llawrydd.

Mae ôl-gatalog y cwmni llawn sioeau teledu poblogaidd, fel Songs of Praise, Jonathan, a Life Drawing Live gyda Joe Lycett, a gyrhaeddodd restr fer BAFTA ar gyfer y Digwyddiad Byw Gorau. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cefnogi rhai o gynyrchiadau Afanti, gan gynnwys y peilot ar gyfer The Perfect Pitch – sioe garafanio a leisiwyd gan seren Gavin and Stacey, Joanna Page – a ariannwyd yn rhannol gennym ni.

Wrth sicrhau comisiwn ar gyfer yr 20 pennod gyntaf, daeth Afanti a gwerth ychydig o dan £800,000 i mewn i Gymru gyda’r prosiect hwnnw’n unig. Roedd y gyfres yn llwyddiant, ac maen nhw nawr yn paratoi at ail gyfres sydd i'w rhyddhau eleni. Mae sicrhau’r ail gyfres yn golygu y gall y cwmni barhau i gyflogi talent hynod fedrus a chreadigol sydd yma yng Nghymru.

Cynhyrchiad arall rydym yn ariannu yw One Moonlit Night Un Nos Ola Leuad – sy’n seiliedig ar un o nofelau enwocaf Cymru. Mae disgwyl i’r cyd-gynhyrchiad gydag S4C fod yr opera Gymraeg gyntaf erioed i gael ei chyfieithu ar gyfer Channel 4.

 

Bwriad Afanti yw cyflwyno eu cynnyrch yn fyd-eang, a pharhau i adeiladu ecosystem ffilm a theledu llwyddiannus yng Nghymru.

Ochr yn ochr â rhestr drawiadol Afanti o gynyrchiadau teledu mae rhestr yr un mor drawiadol o ddigwyddiadau a darllediadau awyr agored, gan gynnwys y MOBOs a Gŵyl 6 Music, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2022. Trefnodd y cwmni ŵyl boblogaidd Full Ponty hefyd, gan ddod a bandiau rhyngwladol fel Paramore i Bontypridd – yn ogystal ag arddangos talentau cynhenid fel Feeder and Funeral for a Friend.

Yn ôl yn 2000, cymerodd y cwmni'r Ffatri Bop yn y Porth, Rhondda drosodd a'i drawsnewid yn lleoliad cerddoriaeth. Yr arwr Cymreig Syr Tom Jones – sy’n gyfranddaliwr yn y cwmni – agorodd y Ffatri Bop yn swyddogol drwy dorri potel o ddiod dandelion and burdock yn erbyn waliau’r hen ffatri ddiodydd.

Mae llawer wedi newid ers hynny, ac mae 2022 yn flwyddyn fawr i Afanti –  mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed yn un peth. Ar ôl gwerthu i Sky yn 2018, prynodd y teulu eu busnes yn ôl ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Roedd newid yr enw o Avanti i Afanti yn ddiweddar yn arwydd clir i'r diwydiant fod y busnes yn esblygu. Bu newidiadau o fewn y tîm hefyd, gydag Emyr a Mair yn trosglwyddo’r etifeddiaeth i’w merch a’u mab, Naomi ac Osian, sy’n barod i yrru Afanti drwy’r 25 mlynedd nesaf.

Beth mae hynny'n ei olygu i'r brand a'r busnes? Mae Afanti yn canolbwyntio ar arloesi a datblygu. Maen nhw eisiau gwerthu eu cynnyrch ledled y byd a pharhau i adeiladu ecosystem lwyddiannus ar gyfer ffilm a theledu yng Nghymru. Gydag wynebau ffres wrth y llyw a’u hunaniaeth wedi’u hadfer, mae’r cwmni’n barod i sicrhau bod Cymru’n cael y parch a’r gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu yn y diwydiant ffilm a theledu rhyngwladol.

Eisiau gwybod mwy am Afanti? Dyma ambell brosiect i gadw llygad arnynt:

  1. The Perfect Pitch – yr ail gyfres o raglen boblogaidd Channel 4 sy’n dilyn teuluoedd wrth iddynt chwilio am feysydd gwersylla gorau’r DU.
  2. One Moonlit Night Un Nos Ola Leuad – opera Gymreig angerddol wedi’i lleoli ym Methesda, Gogledd Cymru. Wedi’i gyfarwyddo gan Mark Evans o Manhunt a The Pembrokeshire Murders, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu ar Channel 4.
  3. Copa Cyfryngau Cymru – Cynhaliwyd ym mis Mehefin. Roedd yn gyfle i weithwyr proffesiynol y diwydiant ddod at ei gilydd i drafod y diwydiant yng Nghymru.