Yn cyflwyno Lost Boys & Fairies, wedi'i ffilmio a'i osod yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Yn serennu Sion Daniel Young a Fra Fee, mae’r gyfres bedair rhan ar BBC One ac iPlayer yn dilyn y cantor a’r perfformiwr Gabriel a’i bartner Andy ar eu siwrnai fabwysiadu.
Wedi’i hysgrifennu gan Daf James fel rhan o gynllun BBC Writers, mae’r stori garu hyfryd a thyner hon yn gyfle i ymgolli yn niwylliant cwiar Caerdydd. Yn ogystal â thrin a thrafod mabwysiadu a phrofiadau rhieni, mae’r gyfres hefyd yn dangos sut daw pobl i ddeall eu hunain, a hynny drwy berfformiadau Gabriel yn Neverland – gofod LHDTC+ ym Mae Caerdydd.
Yma yn Cymru Greadigol, rydyn ni’n falch o hyrwyddo’r cynhyrchiad fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i gryfhau’r sectorau creadigol yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i Lost Boys & Fairies wedi helpu i sicrhau bod £12 yn cael ei roi yn ôl yn uniongyrchol i economi Cymru am bob punt a fuddsoddwyd.
O ganlyniad, bu modd i’r cynhyrchiad roi gwaith i naw o hyfforddeion o Gymru, a chreu pedair o swyddi uwchsgilio ar gyfer y rheini a oedd yn awyddus i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn y diwydiant teledu.
Darllenwch fwy am y lleoliadau yng Nghymru, yr hyfforddeion, a’r gerddoriaeth a ddaeth â Lost Boys & Fairies yn fyw.
Y lleoliadau
Dyma gyfres sydd wedi cael ei galw’n llythyr caru i’r ddinas, a hithau’n dangos potensial Caerdydd fel lleoliad ffilmio o’r radd flaenaf i gynyrchiadau ffilm a theledu.
Bydd y rheini sy’n gyfarwydd â phrifddinas Cymru’n adnabod nifer o leoliadau amlwg yn y ddinas, gan gynnwys Stryd Womanby; tafarn y Golden Cross, sef lleoliad LHDTC+ hynaf Cymru; a Pharc Fictoria yn Nhreganna.
Mae prydferthwch cyfagos Llynnoedd Cosmeston a Thraeth Ogwr hefyd yn gefnlen braf, wrth i’r gyfres helpu i amlygu’r tirluniau amrywiol sydd ar gael i gynyrchiadau o fewn pellter gyrru agos i’r ddinas.
Os ydych chi’n ystyried ffilmio yng Nghymru, gall ein cronfa ddata o leoliadau eich helpu i ddod o hyd i’r llecyn perffaith i’ch cynhyrchiad chi.
Ewch i gael golwg ar ein cronfa ddata o leoliadau
Y criw a’r hyfforddeion
Daeth Lost Boys & Fairies â chriw a hyfforddeion at ei gilydd o Gymru a’r tu hwnt.
Fe wnaeth Sgil Cymru, sy’n cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ym maes y cyfryngau, roi cyfle i Kaitlin Brock a weithiodd ar y gyfres fel Hyfforddai Golygu. Fe wnaeth ScreenSkills hefyd gyfrannu hyfforddeion drwy sawl un o’i gynlluniau, gan gynnwys y Developing HOD (Head of Department) Scheme, y Trainee Script Editor Scheme, Make a Move, Trainee Finder, Leaders of Tomorrow, a’r Global Majority Crew.
Ymhlith yr hyfforddeion roedd yr actores o Gymru, Shelley Rees, a weithiodd yn ei swydd gydlynu gyntaf ar gynhyrchiad HETV, yn ogystal ag fel actores yn y bennod gyntaf; Nalishuwa Ikachana, a ymunodd fel hyfforddai yn yr adran gelf; a Nicole Howe, a gamodd i swydd Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Dorf.
Fe allwch chi eu clywed nhw’n sôn am eu profiadau ar y set fan hyn.
Clywed gan yr hyfforddeion
Nalishuwa Ikachana
Shelley Rees
Nicole Howe
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ar gynhyrchiad fel hyfforddai yng Nghymru, neu os hoffech chi uwchsgilio a dringo’r ysgol yrfa, ewch i’n tudalen sgiliau i weld rhai o’r rhaglenni sydd ar gael i’ch helpu.
Y gerddoriaeth
Yn ogystal â hyrwyddo De Cymru fel lleoliad ffilmio a dod â chriw a hyfforddeion at ei gilydd o Gymru a’r tu hwnt, roedd Lost Boys & Fairies hefyd yn ddathliad o ddoniau cerddorol ardderchog Cymru.
Er enghraifft, roedd y perfformiadau yng nghlwb ffuglennol Neverland yn cynnwys cyfansoddiadau gwreiddiol gan Daf James. At hynny, ar gyfer y trac sain, dewiswyd nifer o draciau masnachol gan artistiaid o Gymru fel Greta Isaac, Luxe, Hvnter a Johnny Gurnett.
Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffilmio yng Nghymru – o sut i gael cychwyn da i’ch gyrfa fel hyfforddai i sut i ddod o hyd i leoliadau, criw a llety ar gyfer eich cynhyrchiad chi