Shaping the Future of Creativity in Wales
Calon ein diwydiannau creadigol – ffilm a theledu, animeiddio a gemau – yw'r bobl dalentog a brwd sy'n gweithio ynddyn nhw. Rydyn ni yma i sicrhau bod gan bobl greadigol y genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf – o bob cefndir – yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus.
Felly, p'un a ydych yn chwilfrydig ynghylch beth mae gweithio yn y diwydiannau sgrin, cerddoriaeth neu ddigidol yng Nghymru yn ei olygu; neu a ydych yn weithiwr llawrydd sy'n ystyried ehangu ei orwelion a dysgu sgiliau newydd; neu'n rhedeg cwmni creadigol ac angen cymorth i hyfforddi ac arallgyfeirio eich gweithlu – gallwn ni helpu!
O gynnig cyngor ar gyfleoedd hyfforddi lefel mynediad i rannu gwybodaeth am raglenni uwchsgilio, rydyn ni'n darparu cymorth ac adnoddau i helpu i feithrin talent yng Nghymru a sbarduno twf hirdymor ar draws ein sectorau.
Darllenwch fwy i ddysgu am rai o'r gwahanol lwybrau a gynigir gennyn ni a'n partneriaid, a dysgu sut y gallwn eich cysylltu â thoreth o fentrau sgiliau a thalent ar draws y diwydiannau creadigol.
Ond yn gyntaf, hoffen ni amlinellu ein blaenoriaethau a rhannu gwybodaeth am ein Cronfa Sgiliau Creadigol.
Learn. Upskill. Create
Gwen Thomson: Derbynnydd bwrsariaeth NFTS Cymru-Wales
Dyma sut y gwnaeth cwrs golygu fideo NFTS Cymru-Wales lunio gyrfa Gwen
Cyngor gwych i gerddorion ac artistiaid gan PRS Foundation.
Hoffech chi roi hwb i’ch gyrfa gerddorol? Dyma ein canllaw ni sy’n rhoi cyngor o lygad y ffynnon.
Bectu a CULT Cymru sy’n lansio prosiect newydd i rymuso gweithwyr creadigol llawrydd
Darllenwch am y cynllun newydd sydd â’r nod o gefnogi gweithwyr llawrydd ar draws y sectorau sgrin, digidol a cherddoriaeth.
Tair menter i roi hwb i'ch gyrfa ym myd ffilm a theledu yng Nghymru
Eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu? Dyma rai cyfleoedd yng Nghymru.
Our priorities
Calon ein diwydiannau creadigol – ffilm a theledu, animeiddio a gemau – yw'r bobl dalentog a brwd sy'n gweithio ynddyn nhw. Rydyn ni yma i sicrhau bod gan bobl greadigol y genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf – o bob cefndir – yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus.
Felly, p'un a ydych yn chwilfrydig ynghylch beth mae gweithio yn y diwydiannau sgrin, cerddoriaeth neu ddigidol yng Nghymru yn ei olygu; neu a ydych yn weithiwr llawrydd sy'n ystyried ehangu ei orwelion a dysgu sgiliau newydd; neu'n rhedeg cwmni creadigol ac angen cymorth i hyfforddi ac arallgyfeirio eich gweithlu – gallwn ni helpu!
O gynnig cyngor ar gyfleoedd hyfforddi lefel mynediad i rannu gwybodaeth am raglenni uwchsgilio, rydyn ni'n darparu cymorth ac adnoddau i helpu i feithrin talent yng Nghymru a sbarduno twf hirdymor ar draws ein sectorau.
Darllenwch fwy i ddysgu am rai o'r gwahanol lwybrau a gynigir gennyn ni a'n partneriaid, a dysgu sut y gallwn eich cysylltu â thoreth o fentrau sgiliau a thalent ar draws y diwydiannau creadigol.
Ond yn gyntaf, hoffen ni amlinellu ein blaenoriaethau a rhannu gwybodaeth am ein Cronfa Sgiliau Creadigol.
Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol
Darllenwch am y prif flaenoriaethau ar gyfer twf y diwydiant sy’n ganolog i’n cynllun gweithredu newydd.
Testunau:
Cyflwyno prosiectau'r Cronfa Sgiliau Creadigol
Cwrdd â derbynwyr y Gronfa Sgiliau Creadigol 2024-26
Cyswllt Diwylliant Cymru: cefnogi talent amrywiol mewn ffilm a theledu
Darganfyddwch sut mae Cyswllt Diwylliant Cymru yn cefnogi ac yn datblygu talent amrywiol yn y sector sgrîn yng Nghymru
Polisi ac ymchwil
Eisiau darganfod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yn Cymru Greadigol? Dyma wybodaeth am ein blaenoriaethau a'n gwaith polisi.
FOCUS Wales: codi pontydd byd-eang i artistiaid a bandiau newydd Cymru
Cyfle i ddeall cefndir FOCUS Wales a’r ffordd mae’n hyrwyddo egin gerddorion ac yn creu cysylltiadau rhyngddyn nhw a chynulleidfaoedd byd-eang.
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.