Mae llawer o dderbynwyr ein Cronfa Sgiliau Creadigol 2023/24 yn cynnig cyfleoedd i gwmnïoedd i hyfforddi a chefnogi eu gweithwyr i ddatblygu eu gyrfa a gofalu am eu lles Gallwch ddarllen popeth am y prosiectau hyn yn ein herthygl yma.

Os ydych yn rhedeg cwmni neu fusnes creadigol, dyma rhai o'r cyfleoedd sydd ar gael i chi:

  • Busnes Cymru - Rhaglen Sgiliau Hyblyg Sectorau Creadigol

    Mae cymorth ariannol ar gael i gwmnïau gefnogi datblygu sgiliau eu gweithwyr – o sgiliau ariannol a chyfreithiol i ddefnyddio technoleg newydd.

    Dysgwch fwy
  • Screen Skills Sector Ffilm a Theledu

    Wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth i gynhyrchwyr, rheolwyr, arweinwyr creadigol a pherchnogion cwmnïau i redeg busnes creadigol llwyddiannus.

    Dysgwch fwy
  • Rhaglen Hwyluswyr Lles Sector Ffilm a Theledu

    Gwnaethom ymuno â Cult Cymru ac arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft from the spotlight i recriwtio, hyfforddi a lleoli hwyluswyr lles ar gynyrchiadau sgrin yng Nghymru.

    Dysgwch fwy
  • Indielab Games UK Accelerator Sector Gemau

    Bydd y rhaglen hon yn mynd â chi drwy broses twf effaith uchel, ar gyfer eich busnes a'ch gêm ac yn eich paratoi ar gyfer cyflwyniad cyhoeddwr.

    Dysgwch fwy
  • Busnes Cymru – Recriwtio a hyfforddi Sectorau Creadigol

    Mae gan Borth Sgiliau Busnes Cymru doreth o gymorth ar gael i gwmnïau creadigol yng Nghymru.

    Dysgwch fwy
  • Hyfforddiant Cynhwysiant Hijinx ReFocus Sector Ffilm a Theledu

    Wedi'i gynllunio i helpu unrhyw un sy'n gweithio yn y sector sgrin i wneud eu harferion gwaith yn fwy cynhwysol i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

    Dysgwch fwy