Mae Bectu a CULT Cymru wedi lansio prosiect newydd sydd â’r nod o gefnogi a grymuso gweithwyr llawrydd creadigol ar draws y sectorau sgrin, digidol a cherddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r cynllun Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd yn un o’r prosiectau sy’n derbyn cymorth ein Cronfa Sgiliau Creadigol ar gyfer 2023/24. Mae’r prosiect dwy ran hwn am chwilio am ffyrdd newydd o fynd i’r afael a’r anfanteision y mae gweithwyr llawrydd yn eu hwynebu yn y gweithle – yn benodol o ran cyfleoedd sgiliau a lles. 

Mae rhan gyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar recriwtio 12 unigolyn llawrydd i fod yn Gynrychiolwyr Dysgu Undeb (CDU) o Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd yr Awduron. Eu rôl yw nodi a datblygu gweithgareddau dysgu a hyfforddiant i weithwyr llawrydd, gan godi ymwybyddiaeth o werth dysgu drwy undebau.

Mewn llawer o sectorau, mae’r CDU yn chwarae rôl ddylanwadol wrth gefnogi, datblygu a gwella diwylliant gwaith. Ond gan nad oes gan weithwyr llawrydd gyflogwr parhaol i’w talu i ymgymryd â’r rôl hon, maen nhw’n colli allan ar gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.

Bydd ein cyllid ni’n helpu Bectu a CULT Cymru i hyfforddi a thalu CDU llawrydd, yn ogystal ag ymchwilio i sut y gall y diwydiant ariannu’r rôl hon yn y tymor hir. Bydd hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd creadigolion llawrydd, gan gefnogi twf unigolion a’r sector ehangach.

Bydd rôl y 12 o Gynrychiolwyr Dysgu Undeb yn cynnwys trefnu rhwydweithiau cymheiriaid a chydweithio ag undebau, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd y CDU hefyd yn helpu i drefnu gweithgareddau dysgu, yn ogystal â chanolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o werth dysgu. Yn ogystal, byddan nhw’n cael y dasg o gynnal ymchwil er mwyn nodi’r prif anghenion dysgu o fewn eu grŵp o weithwyr.

Mae rhai o’r cyrsiau sydd eisoes yn cael eu datblygu’n cynnwys cwrs hunan-dâp ar gyfer actorion, hyfforddiant i awduron, cwrs cyfansoddi caneuon a chwrs torri patrymau.

Mae ail ran y prosiect yn canolbwyntio ar hyfforddi Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (SCCIM). Fel y CDU, nid oes gan weithwyr llawrydd un cyflogwr penodol i’w hyfforddi neu eu cefnogi yn y maes hwn. Gan gydnabod hyn, mae CULT Cymru am ddarparu hyfforddiant SCCIM ar draws y sectorau cerddoriaeth, digidol a sgrin.

Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwyr i nodi ble mae Swyddogion o’r fath ar gael; darganfod sut gallai’r diwydiant gynnig mwy o gymorth; a darganfod ble mae bylchau o ran hyfforddiant. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn gwybod sut i gael gafael ar SCCIM, ac yn cynnig cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer y rhwydwaith hwn.


Diweddariadau o gynllun Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd Bectu a CULT Cymru

  • Mae 12 Cynrychiolydd Dysgu Undeb wedi’u dewis i godi ymwybyddiaeth o werth dysgu drwy undebau, gan gynnwys Gwen Thomson, artist o Ogledd Cymru a gyfweliwyd gennym ar gyfer ein cyfres Sgwrsio Gyda.
  • Mae 33 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (SCCIM) achrededig newydd wedi’u hyfforddi ar gyfer y sector creadigol.

Darllenwch fwy am ein Cronfa Sgiliau Creadigol. Neu, os hoffech chi glywed mwy am y cynllun Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd ewch i’w gwefan.

Straeon cysylltiedig