Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol i ganolbwyntio ar anghenion sgiliau tymor byr a hirdymor ein tri phrif sector: cerddoriaeth, cynnwys digidol a sgrin.

Wedi'i lansio yn 2022, cafodd y cynllun gweithredu tair blynedd ei lunio gan y Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol – grŵp o arbenigwyr yn y diwydiant a sefydlwyd gan Cymru Greadigol ym mis Mai 2022. Mae'n gynllun tair blynedd a fydd yn parhau i esblygu wrth inni ymateb i heriau a chyfleoedd y dyfodol yn y diwydiannau creadigol.

Mae'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer anghenion sgiliau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw er mwyn i'n gweithlu ffynnu.

  • Hyfforddi busnesau ac arweinwyr
  • Cefnogi talent 
  • Recriwtio cynhwysol ac amrywiol 
  • Lleoliadau a chyfleoedd ar lefel sylfaen 
  • Lleoliadau a chyfleoedd i wella sgiliau 
  • Addysg a’r cwricwlwm newydd 
  • Ymwybyddiaeth o yrfaoedd 
  • Arloesi 
  • Pontio’r bwlch rhwng addysg bellach/uwch a diwydiant 
  • Lles y gweithlu a chefnogi gweithwyr llawrydd.

Fel rhan o’n cynllun gweithredu, rydyn ni wedi ail-gyflwyno Cronfa Sgiliau Creadigol. 

Lawrlwythiadau

Deg maes blaenoriaeth ar gyfer anghenion sgiliau dros y tair blynedd nesaf

Ffeiliau wedi’u hatodi

Straeon cysylltiedig