Os ydych yn ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, rydych wedi dod i'r lle iawn. O brentisiaethau a hyfforddeiaethau i gyrsiau byr a chyfleoedd rhwydweithio, mae amrywiaeth o lwybrau posibl ichi.
Rydyn ni'n cefnogi llawer o fentrau fel y rhain a all roi cymorth ichi. Ac, mae gennyn ni hefyd bartneriaethau cryf â'r rhai sydd â'r wybodaeth gywir i helpu i greu cyfleoedd i bawb – waeth beth fo'i gefndir.
Ystyriwch y sector sgrin, er enghraifft. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o gynyrchiadau cyllid mawr wedi dewis ffilmio yng Nghymru, gan gynnwys His Dark Materials, Sex Education, The Almond and the Sea Horse a Timestalker. Er mwyn helpu i ysgogi twf yn y sector a meithrin talent, rhaid i unrhyw gynhyrchiad sy'n derbyn arian gennyn ni gynnig lleoliadau dan hyfforddiant â thâl yn ystod y cynhyrchiad.
Hefyd, er mwyn helpu i gynyddu prentisiaethau, rhaid cynnig o leiaf un o'r lleoliadau hyn i brentis sydd wedi'i achredu'n swyddogol. Felly, nawr yn fwy nag erioed, mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o'r diwydiant teledu a ffilm.
Isod mae rhai o'r prosiectau a'r mentrau a all eich helpu wrth ichi gymryd y cam cyntaf hwnnw ar ysgol eich gyrfa. Gallwch hefyd archwilio rhai enghreifftiau go iawn o bobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru, yn ein herthyglau isod.

Bywyd ar y set: cwrdd â phedwar o brentisiaid CRIW Sgil Cymru
Darganfyddwch sut beth yw bod yn brentis CRIW Sgil Cymru

Charles Strider: Derbynnydd bwrsariaeth NFTS Cymru
Darganfyddwch sut mae cwrs NFTS mewn ysgrifennu sgriptiau yn helpu un storïwr brwd ac addawol.

Ble maen nhw nawr? Bywyd fel hyfforddeion ar set Sex Education
Dilynwch yrfaoedd rhai o'r hyfforddeion a fu'n gweithio ar gynhyrchu Sex Education yng Nghymru.

Seb Jones: Prentis CRIW Sgil Cymru
Dewch i wybod mwy am brentisiaeth ffilm a theledu Seb

Ross Pierson: Derbynnydd bwrsariaeth NFTS Cymru-Wales
Ross tells us about his experiences doing two courses at NFTS Cymru-Wales
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.