Yn ogystal ag arddangos rhai o'r cyfleoedd lefel mynediad sydd ar gael i'r rhai sy'n chwilio am yrfa yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i feithrin talent bresennol.

Rydyn ni am sicrhau bod y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a pharhau i wella a datblygu eu sgiliau. I wneud hyn, rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi ar gael ac yn hygyrch i bawb e.e. drwy fwrsariaethau a ariennir.

Ar gyfer y sector sgriniau, rydym yn partneru gyda Cult Cymru, NFTS Cymru, ScreenSkills a Sgil Cymru i ddarparu cyrsiau hanfodol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector. Rydyn ni hefyd wedi lansio partneriaethau ar draws ein sectorau eraill, gan helpu i ddatblygu prosiectau sgiliau fel y Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth.

Edrychwch ar y cyfleoedd uwchsgilio isod:

  • Music Venue Trust (MVT) Sector Cerddoriaeth

    Mae'r Music Venue Trust MVT yn bodoli i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth lleol a chefnogi cymunedau ac artistiaid newydd. Os ydych yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ac eisiau datblygu eich sgiliau a dysgu sut i reoli lleoliad lleol yn llwyddiannus, mae eu sesiynau sgiliau ar eich cyfer chi.

    Dysgwch fwy
  • Music Managers' Forum (MMF) Sector Cerddoriaeth

    Music Managers' Forum MMF yw'r gymuned broffesiynol fwyaf o reolwyr cerddoriaeth yn y byd. Maen nhw eisiau helpu pobl i ddeall rôl rheolwyr cerddoriaeth yn ogystal â sut mae eu rôl yn newid I wneud hyn, maen nhw'n cefnogi datblygiad proffesiynol y rhai sydd eisiau gyrfa fel rheolwr cerddoriaeth, drwy gyrsiau, gweithdai a seminarau.

    Dysgwch fwy
  • iungo Solutions Sector Gemau

    Yn ogystal â chynnig hyfforddiant lefel mynediad, mae iungo hefyd yn darparu cymorth i'r rhai sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Er enghraifft, unwaith y bydd cyfranogwyr wedi cwblhau rhaglen naw mis y Ffowndri Datblygu Gemau, mae iungo yn cynnig cyfle iddynt barhau â'u datblygiad a chwblhau modiwl arall. Yna byddan nhw'n gallu dewis arbenigo mewn dylunio gemau neu ddatblygu gemau.

    Dysgwch fwy
  • Sgil Cymru – Camu Fyny Sector Ffilm a Theledu

    Mae menter Camu Fyny Sgil Cymru wedi'i hanelu at weithwyr teledu proffesiynol sy'n byw yng Nghymru. Os ydych yn barod i symud ymlaen yn eich gyrfa, mae Camu Fyny yn cynnig cyfle ichi dderbyn lwfans i wneud lleoliad gwaith o fewn rôl newydd ar gynhyrchiad.

    Dysgwch fwy
  • CULT Cymru Sectorau Creadigol

    Mae CULT Cymru yn brosiect partneriaeth dan arweiniad undeb gyda Bectu, Undeb y Cerddorion, Urdd Awduron Prydain Fawr, ac Equity, ac mae'n cael ei ariannu gan WULF. Mae'n trefnu gweithgareddau dysgu traws-sector a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.

    Gwelwch y gweithgareddau dysgu amrywiol sydd ar gael
  • NFTS Cymru Wales Sector Ffilm a Theledu

    Os ydych am ddatblygu eich sgiliau sgrin a symud ymlaen yn eich gyrfa, mae'r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS) yn cynnig amrediad o gyrsiau, o greu byrddau stori i ysgrifennu sgriptiau. Mae bwrsariaethau a ariennir ar gael ar gyfer pob cwrs i helpu i agor mynediad i'r diwydiant.

    Darganfyddwch y cyrsiau sydd ar gael
  • Factual Fast Track Sector Ffilm a Theledu

    Rydyn ni wedi partneru gyda BBC Cymru Wales, Channel 4 ac S4C i gefnogi dilyniant gyrfa i gynhyrchwyr rhaglenni ffeithiol dawnus yng Nghymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyfforddiant â thal ar gynhyrchu a'r diwydiant ochr yn ochr â mentora gan gomisiynwyr a chymheiriaid. Bydd dau o bob saith o'r lleoedd yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am yr alwad nesaf am geisiadau.

  • ScreenSkills Sector Ffilm a Theledu

    Mae gan ScreenSkills lawer o adnoddau i'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa yn y sector sgrin yng Nghymru, o hyfforddiant a dosbarthiadau meistr i gyfleoedd mentora.

    Dysgwch fwy
  • Prosiect Head of Department SgreenSkills Sector Ffilm a Theledu

    Mae'r prosiect hwn a ariennir gan ScreenSkills a Cymru Greadigol yn darparu lleoliadau â thâl i'r rhai sy'n barod i gamu i fyny i swydd pennaeth adran ar brosiect teledu proffil uchel.

    Dysgwch fwy