Oeddech chi’n gwybod bod gennym gronfa benodol ar gyfer prosiectau a rhaglenni sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau a thalent o fewn y sectorau cerddoriaeth, digidol a sgrin yng Nghymru? Cafodd ein Cronfa Sgiliau Creadigol ei sefydlu yn 2022 i gefnogi blaenoriaethau ein diwydiannau creadigol o ran sgiliau.

Yn gysylltiedig â’n Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol, mae’r gronfa yn ein galluogi i gefnogi prosiectau sy’n helpu cwmnïau ac unigolion, a fydd yn parhau i ysgogi twf ar draws ein sectorau.

Darllenwch ymlaen i ddysgu am y prosiectau rydyn ni’n eu hariannu eleni. Dim ond megis dechrau y mae rhai, ond mae eraill eisoes yn eu hanterth. I gael y diweddaraf, ewch i’w gwefannau.

Datblygu Rheolwyr Cerdd Cymru

Mae’r Gronfa Datblygu Rheolwyr Cerdd yn un o brosiectau’r Music Manager Forum. Yn ogystal â cheisio datblygu aelodau a phartneriaethau sydd eisoes yn bodoli, bydd hefyd yn sefydlu cynllun llwybrau sgiliau proffesiynol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb neu gefndir addysgol ym maes rheoli cerddoriaeth.

Yn ogystal â chreu Criwiau MMF Cymru, cyfleoedd hyfforddi, ac ymgysylltu â rhaglenni cyflymu, bydd y prosiect hefyd yn darparu dwy fwrsariaeth ar gyfer rheolwyr cerdd newydd/ar ganol eu gyrfa yng Nghymru drwy’r Rhaglen Cyflymu ar gyfer Rheolwyr Cerdd.

Sesiynau Sgiliau ar gyfer Lleoliadau Cerddoriaeth Llawr Gwlad

Wedi’i gyflwyno i chi gan y Music Venue Trust, nod y prosiect hwn yw rhoi hyfforddiant a chyfleoedd uwchsgilio i reolwyr lleoliadau er mwyn dysgu sut i redeg a rheoli lleoliad llawr gwlad yn llwyddiannus.

Mae’r sesiynau wedi cychwyn yn barod ac wedi cael eu cynnal ledled Cymru fel gweithdy undydd wyneb yn wyneb. Roedd yn ymdrin â phynciau fel y wasg a chysylltiadau cyhoeddus a meithrin perthynas â hyrwyddwyr allanol.

Fynedfa i Fuel rock club, Caerdydd
Music Venue Trust

Beacons Cymru

Gyda chefnogaeth ein Cronfa Sgiliau, mae Beacons wedi datblygu llinynnau newydd i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau’r gweithlu amrywiol o fewn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r pum llinyn, sydd eisioes ar waith, yn cynnwys Resonant, SUMMIT 2024, Bŵts, Transform Music a’r Future Disrupter Project. Mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth am bob un o’r prosiectau hyn a beth maen nhw’n ei wneud.

Rhaglen Beilot Busnes ac Arweinyddiaeth

NTFS Cymru sydd wedi cychwyn y prosiect newydd hwn sydd a’r nod o ddarparu hyfforddiant pwrpasol i arweinwyr, rheolwyr a chynhyrchwyr sy’n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru. Y nod yw rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i redeg busnes creadigol llwyddiannus.

Bydd y cyfranogwyr yn elwa o gyfres o ddosbarthiadau meistr a seminarau dan arweiniad unigolion blaenllaw yn y diwydiant, a fydd wrth law i gynnig cyngor ac ysbrydoliaeth.

students in a studio setting at a cinematography sessions

Academïau Sgrin Cymru

Nesaf, dyma i chi’r prosiect Academïau Sgrin dan arweiniad Prifysgol De Cymru. Bydd hwn yn agor tair academi newydd o fewn stiwdios gweithredol ledled y wlad. Y nod yw cynnig sgiliau, addysg a hyfforddiant wrth galon y cynhyrchu er mwyn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent yn y diwydiant sgrin yng Nghymru.

Bydd y tair academi wedi’u lleoli yn Greatpoint Studios, a fydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu rhithiol; Wolf Studios, a fydd yn canolbwyntio ar arloesi mewn animeiddio a thechnoleg gemau o fewn cynhyrchu sgrin; ac Aria Studios a fydd yn darparu hyfforddiant i gefnogi’r diwydiant cynhyrchu drama cyfrwng Cymraeg a rhyngwladol.

ReFocus

Mae Refocus yn brosiect gan gwmni Hijinx sy’n anelu at ddarparu hyfforddiant cynhwysiant anabledd dysgu ar gyfer y sector sgrin yng Nghymru. Mae dwy ran i’r prosiect hwn. Yn gyntaf, bydd yn darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb undydd i gwmnïau cynhyrchu i’w helpu i ddysgu sut i wneud yn siŵr bod eu prosiect yn gwbl gynhwysol o’r cam sgriptio ymlaen.

Yn ail, bydd yn sefydlu’r Asiantaeth Galluogi Creadigol i gefnogi actorion sydd ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth ar y set.

Hyfforddiant ar gyfer y Dyfodol

Wedi’i ddarparu gan Sgil Cymru, nod y prosiect hwn yw cefnogi 130 o weithwyr o fewn y sector sgrin yng Nghymru. Eu nod yw gwneud hyn trwy amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys bŵtcamp i ddechreuwyr; rhaglen ‘cam nesaf’ ar gyfer y rhai sydd am gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa; a bwrsariaeth Dysgu Gyrru a Chaledi i brentisiaid.

Datblygu Rhaglen Penaethiaid Adrannau yng Nghymru

Mae ScreenSkills yn ymroddedig i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o benaethiaid adrannau ar gyfer y sector sgrin yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi darpar benaethiaid adrannau i gysgodi a gweithio ochr yn ochr â phenaethiaid adrannau presennol ar gynhyrchiadau teledu o ansawdd (HETV). Y nod yw eu helpu i ennill profiad, yn ogystal â chael credyd HETV hollbwysig i’w roi ar eu CV.

Ffowndri Datblygwyr Gemau Cymru

Iungo Solutions sy’n darparu’r prosiect nesa, sef rhaglen naw mis sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl a allai fod eisiau uwchsgilio neu gael newid gyrfa yn y diwydiant gemau yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddylunio a datblygu gemau.

Gêm

Derbyniodd Academi Cyfryngau Cymru gyllid i lansio Gêm: hyb gemau sy’n rhoi cefnogaeth strategol i ddatblygu hyfforddiant sy’n cwmpasu gofynion lefel mynediad ar lefel 1,2 a 3 fframwaith BTEC. Nod y prosiect hwn yw datblygu gweithlu creadigol sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru.

Academi Hollow Pixel

Nesaf mae Academi Hollow Pixel gan United Filmdom Ltd. Mae hon yn rhaglen brentisiaeth ym maes animeiddio sy’n canolbwyntio ar hyfforddi prentisiaid i ddefnyddio meddalwedd Blender 3D. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gwrdd â gofynion y sector animeiddio yng Nghymru. Darllenwch am Hollow Pixel yma.

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru / Music Futures / Llwybrau Proffesiynol

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n dod â’r prosiect traws-sector hwn i chi sy’n helpu’r genhedlaeth nesaf o gerddorion proffesiynol. Bydd y prosiect Music Futures yn rhoi cipolwg i bobl ifanc 15-19 oed o’r diwydiant cerddoriaeth a gyrfa cerddor.

Bydd y rhaglen Llwybrau Proffesiynol yn recriwtio 45 o berfformwyr theatr mwyaf dawnus Cymru rhwng 16 a 22 oed i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi breswyl ddwys. Bydd y cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth uniongyrchol am yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael ar draws y sectorau theatr a sgrin.

Tair merch ifanc yn ymarfer sgiliau theatr

Cynaliadwyedd Digidol Creadigol, Pobl, Llwybrau, Rhagolygon

M-SParc yw parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys sawl menter wahanol, gan gynnwys Creative Sparc– rhaglen ar gyfer 250 o ddisgyblion blwyddyn 7 ar draws Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Ei nod yw archwilio sut y gallwn ymgorffori STEM yn y diwydiant teledu a digwyddiadau byw yng Nghymru.

Yna mae’r Academi Sgiliau, a fydd yn cefnogi dwy garfan o bum unigolyn i uwchsgilio yn y diwydiant sgrin, digidol neu gerddoriaeth ar draws y tri rhanbarth.

Yn olaf, mae llwybr NetZero, a fydd yn cynnig adolygiad digidol llawn i 12 busnes yn y sector creadigol a digidol – gan eu helpu i leihau eu hallyriadau carbon.

Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd

Lansiodd Bectu a CULT Cymru brosiect newydd gyda’r nod o fynd i’r afael â’r anghydbwysedd ar gyfer gweithwyr creadigol llawrydd o fewn y sectorau sgrin, digidol a cherddoriaeth yng Nghymru. 

Rhaglen Sbardun Gemau y DU

Lansiodd Indielab raglen sbardun gemau newydd ar gyfer y DU gyfan i helpu i ysgogi buddsoddiad, rhwydweithio a thwf yn y diwydiant gemau. Rydyn ni wedi ysgrifennu darn am y prosiect hwn yma [LINK: ARTICLE MUST BE LIVE]. Neu gallwch fynd i’w gwefan i ddarllen mwy am y prosiect.

Rhaglen Cyflymu Teledu ar gyfer y DU

Am y drydedd flwyddyn, mae Cymru Greadigol yn cefnogi prosiect cyflymu teledu IndieLab drwy ddarparu cyllid bwrsariaeth i gwmnïau annibynnol yng Nghymru. Yn ogystal ag ehangu eu cysylltiadau o fewn y diwydiant a’u helpu i gysylltu a rhwydweithio â’i gilydd, bydd y prosiect hefyd yn eu helpu i ddatblygu eu twf o ran comisiynau a refeniw.

female gives presentation with an IndieLab pop up behind her
Dyn mewn sbectol yn gwylio sesiwn hyfforddi

rad Cymru Wales

Ac yn olaf, dyma gyflwyno rad Cymru Wales i chi gan TRC. Mae’r hyfforddeiaeth wyth mis hon gyda thâl ar gael i wyth o weithwyr dan hyfforddiant o fewn cwmni cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Bydd y fenter yn cefnogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i gael mynediad i leoliadau cyflogedig, hyfforddiant ac arweiniad. Felly, gobeithio helpu i gael gwared ar rwystrau i’r diwydiant.

I gael mwy o wybodaeth am ein Cronfa Sgiliau Creadigol, ewch i’n gwefan.

Straeon cysylltiedig