
Mae Technoleg Greadigol yn cwmpasu deallusrwydd artiffisial, cynhyrchu cyfryngau rhithiol, dysgu peirianyddol, technoleg peiriannau gemau a llu o ddisgyblaethau arloesol eraill. Dyma'r gofod lle mae'r diwydiannau creadigol a thechnolegol yn plethu – ac mae'n sector gymhleth sy'n datblygu'n gyflym yng Nghymru.
Mae cefnogi Technoleg Greadigol yn flaenoriaeth strategol. Mae cwmnïau yng Nghymru wedi bod yn darganfod technoleg ymgolli gan ddefnyddio Realiti Estynedig (AR - augmented reality), Rhith-Realiti (VR - virtual reality) a Realiti Cymysg (MR - mixed reality). Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys efelychydd paragleidio hynod realistig Frontgrid, ac anturiaethau rhithiol Fictioneers ym myd Wallace and Gromit.
Mae Technoleg Greadigol yn fwy nag allwedd ar gyfer dyfodol adloniant. Mae'n prysur brofi ei photensial i drawsnewid pob agwedd o'n bywydau, o addysg a hyfforddiant i ofal a lletygarwch.
Yng Nghymru, mae cwmnïau'n adeiladu bydoedd newydd sbon o dechnoleg ymgolli. Rydym yn eu helpu i drawsnewid y diwydiant creadigol a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol.

Wallace and Gromit Fix Up the City gan Fictioneers
Dysgwch sut y creodd Fictioneers ap realiti estynedig gyda chymorth Wallace a Gromit.
Testunau:

Sugar Creative yn trafod technoleg sy'n torri tir newydd
Sut mae Sugar Creative wedi dod yn ffefryn ar gyfer brandiau a busnesau mawr mewn technoleg greadigol.
Testunau:

Sut mae'r sector Technoleg Greadigol yn sbarduno arloesedd yng Nghymru
Dewch i wybod mwy am y cwmnïau blaengar yn sector Technoleg Greadigol Cymru.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.