Mae gwaith eang yn cael ei wneud yn ein diwydiannau creadigol yng Nghymru, o gynhyrchu sgrîn fyd-enwog i ddatblygiadau tu ôl i'r llen ym maes ymchwil a datblygu. Ein nod yw cefnogi ein sectorau creadigol a sbarduno twf economaidd.

Mae pobl a busnesau profiadol wrth wraidd yr holl sectorau hyn - o gerddorion sy’n cydweithio ag animeiddwyr, i ganolfannau teledu sy’n cynhyrchu addasiadau llyfrau. Beth bynnag eich sgiliau a diddordebau - os ydych am fod yn rhan o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae cyfleoedd, arian a hyfforddiant ar gael i’ch helpu.

Tra bod gan bob sector greadigol ei rhan i chwarae yn ein stori genedlaethol, gyda’i gilydd maent yn dangos y gorau o Gymru - gwlad sy’n gyfoeth o ddychymyg, syniadau a dyfeisgarwch. Darllenwch fwy am ein sectorau amrywiol a dewch i ddeall pam bod pobl greadigol dalentog yn dewis Cymru i sefydlu busnes llwyddiannus neu greu gyrfa llewyrchus.

Rydym am sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, gan greu gofod yng Nghymru'n lle y gall pobl a busnesau talentog ffynnu.

Cadwch mewn cysylltiad

Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am y sectorau creadigol? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.