Celyn Jones ydw i – actor, awdur a gwneuthurwr ffilmiau a chyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu ffilm a theledu, Mad as Birds. Cefais fy magu ym Môn. Roedd fy nhad yn gweithio fel morwr a fy mam yn bobydd. Nid oedd llawer o theatrau na chelfyddydau byw o gwmpas, felly ffilmiau oedd fy ysbrydoliaeth cyntaf.
Doedd dim gwersi drama yn fy ysgol, ond roedd gen i athrawes Saesneg wych o'r enw Helen Whibley. Roeddwn yn benderfynol o chwarae llais y planhigyn yn Little Shop of Horrors. Meddyliais, ‘O my gosh, mae yna ran alla i wneud oddi ar y llwyfan’. Dyna'r foment y cliciodd i mi. Rhoddodd hyder i mi. Rhoddodd hunaniaeth i mi.
Roedd y gynulleidfa yn fy hoffi ac roedd eu hymateb yn ddigon i wneud i mi feddwl, ‘efallai mai dyma dwi’n dda am ei wneud’. Ers hynny dwi wedi bod yn gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd, yn awdur ac yn athro. Roedd y cyfan yn deillio o'r foment honno.
Roedd angen cwmni arnom i wneud y ffilm Set Fire to the Stars – sef llinell olaf Love in the Asylum gan Dylan Thomas – ac felly fe sefydlwyd Mad as Birds. Mae’r gerdd yn disgrifio merch fel ‘mad as birds’, a dwi’n hoff iawn o’r llinell – felly pam ddim gadael i Dylan fedyddio'r cwmni?
Dwi’n credu bod ôl ein cynefin arnom ni gyd. Mae Cymru yn rhedeg trwof. Mae’n nodwedd unigryw – bod yn Gymro. Gallwch gael ymdeimlad o fod yn lleol ond ar lefel ryngwladol. Da ni wastad wedi cael actorion gwych fel Anthony Hopkins, Michael Sheen a Sian Phillips. Efallai bod rhywbeth ynom ni fel Cymry. Mae gyda ni agwedd ‘Pam lai?’.
Mae’r diwydiant cynhenid ‘cool Cymru’ wedi bod yn ffynnu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gallwn wneud pethau yng Nghymru ar gyfer Cymry, ond sydd hefyd yn addas i gynulleidfaoedd ehangach ei fwynhau. Dwi’n hoff iawn o’r syniad bod darn gwag o bapur wedi troi’n nifer o swyddi ac yn ffilm fawr a aeth a Judi Dench a Jim Broadbent i Lanelli. Cafodd hi amser gwych ac roedd hi wrth ei bodd â hufen iâ Joe’s.
Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Creative Wales. Maent yn gweld y sgiliau sydd yng Nghymru. Cefnogaeth Cymru Greadigol, nid yn unig yn ariannol, ond cefnogaeth o ran gwybodaeth, talent ac adnoddau, sy’n gwneud y gwahaniaeth i sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae'n rhaid i chi fuddsoddi ar lawr gwlad, mewn addysg ac allgymorth. Da ni'n mynd i wneud mwy o gynnwys Cymraeg yn y Gogledd yn ogystal â'r De, oherwydd mae yna leoliadau rydych chi'n eu cael yng Ngogledd Cymru, dydych chi ddim yn eu cael yn Ne Cymru ac i'r gwrthwyneb.
Bydd The Almond and the Seahorse yn cael ei ryddhau yn fuan. Mae Gruff Rhys wedi gwneud trac sain wreiddiol i'r ffilm. Mae pob darn o gerddoriaeth rydych chi'n ei glywed yn y ffilm yn wreiddiol – hyd yn oed y gerddoriaeth sy'n chwarae ar y radio. Mae Rough Trade yn ei ryddhau fel albwm dwbl. Mae gen i bedair ffilm yn dod allan eleni fel actor, a da ni’n mynd i gynhyrchu cwpwl o bethau yn Mad as Birds.
Mae’r diwydiant ffilm yng Nghymru yn sicr yn fwy hygyrch y dyddiau hyn. Dwi’n llysgennad i’r elusen Into Film a dwi’n dweud yn aml, yn y dyfodol bydd pobl yn dweud eu bod yn gweithio lawr yn y stiwdios yn hytrach na’r pyllau glo. Mae wedi dod yn lle arall i weithio ynddo, ac mae o fewn gafael pobl ifanc. Mae’n wych meddwl bod person ifanc yn gallu eistedd gartref yn dweud, ‘Ie. Mae’n gwbl bosibl’.
Eisiau darganfod mwy am y gwaith mae Celyn a'r tîm yn ei wneud yn Mad as Birds? Ewch i'w gwefan.