Lleoliadau

HBO

Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi'r talent sydd gennym yma yng Nghymru a denu cynyrchiadau mawr gan y rhai mwyaf blaenllaw yn y maes. Rydym yn darparu cymorth logistaidd ar gyfer cyflawni cynyrchiadau gan gynnwys ein gwasanaeth lleoliadau isod, yn ogystal â chymorth ariannol i gynyrchiadau sy'n dewis Cymru fel canolfan.

  • Chwilio am y lleoliad ffilmio perffaith yng Nghymru? Chwiliwch ein cronfa ddata eang

    Behind the Scenes on farmland in Crickhowell. 

    Does dim lle fel Cymru ar gyfer lleoliad ffilm. Fe welwch filltiroedd o arfordir heb ei ddifetha, dinasoedd prysur, mynyddoedd helaeth, coedwigoedd chwedlonol a chyfoeth o gestyll a henebion hanesyddol.

    Edrychwch ar y lleoliadau y gall Cymru eu cynnig yn ein cronfa ddata.

    Ond un peth i'w gofio: i chwilio am leoliad mae'n rhaid i chi gofrestru prosiect. Os ydych chi'n ymchwilio ar gyfer cynhyrchiad penodol, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch (a fydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol).

    Os ydych chi'n cael problem neu os oes angen unrhyw arweiniad ychwanegol, cysylltwch â penny.skuse@llyw.cymru

     

    Chwilio am leoliadau yng Nghymru
  • Wedi dod o hyd i'r lleoliad ffilmio perffaith yng Nghymru? Mynnwch gip ar ein pecyn cymorth ariannol

    House of the Dragon S2

    Rydym yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw gynyrchiadau sy'n dewis Cymru fel canolfan, o ofynion uniongyrchol neu fyrdymor hyd at anghenion strategol, tymor hwy ar gyfer presenoldeb mwy parhaol, ar raddfa fwy yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol.

Allech chi gynnig eich eiddo fel lleoliad ffilmio?

 
  • Cofrestrwch eich eiddo ar ein cronfa ddata O fythynnod bach i ffatrïoedd eang, rydym bob amser yn chwilio am leoliadau newydd.

    On the set of His Dark Materials 3, a Bad Wolf Production

    Mae'r ymholiadau a dderbyniwn mor amrywiol â'n tirwedd. Os gallech gynnig lleoliad ffilmio diddorol, gallwch gofrestru ar ein cronfa ddata. Os hoffech wybod sut mae'r cyfan yn gweithio a'r hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n agor eich drysau i griw ffilmio, darllenwch ein canllawiau.

    Yn ogystal â chwilio trwy ein cofnodion, gallwch hefyd ychwanegu neu ddiweddaru unrhyw restr neu leoliad.

    Os ydych chi eisiau gwirio rhestr eiddo, yna mae croeso i chi ychwanegu 'Test' at deitl y prosiect.

    Os ydych chi'n cael problem neu os oes angen unrhyw arweiniad ychwanegol, cysylltwch â penny.skuse@llyw.cymru

    Cofrestru lleoliad newydd neu ddiweddaru cofnod lleoliad presennol

Ffeiliau wedi’u hatodi

Canllaw i gofrestru eich eiddo fel lleoliad

O gofrestru ar ein cronfa ddata i drafod ffi.